Yn groes i’r rhagfynegiadau y byddai graddau TGAU Cymru eleni yn is na’r flwyddyn flaenorol, mae unig ysgol uwchradd Gymraeg Wrecsam wedi gweld gwelliant yn eu canlyniadau – gan gynnwys graddau A*/A.

Drwy Gymru, fe fu gostyngiad bach yng nghanran y myfyrwyr sydd wedi cael y graddau uchaf o gymharu â’r llynedd.

Daw hyn wrth i’r wlad ddychwelyd i’r trefniadau cyn Covid-19, flwyddyn ar ôl Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Yn ôl y disgwyl, roedd y nifer gafodd raddau A* – C yng Nghymru i lawr rywfaint o gymharu â’r llynedd, wrth i’r mesurau cymorth ychwanegol ar gyfer y pandemig ddod i ben.

Roedd 62.2% o raddau A* i C, o gymharu â 62.8% yn 2019 – ac mae hyn yn cymharu â 64.9% y llynedd.

Ond yn groes i hyn, yn Ysgol Morgan Llwyd, mae 75% o myfyrwyr Blwyddyn 11 wedi ennill graddau A* – C mewn Cymraeg Iaith Gyntaf.

Yn ôl y Pennaeth Catrin Pritchard, mae nifer y disgyblion TGAU yn cynyddu bob blwyddyn.

“Pan wnes i ddechrau yma saith mlynedd yn ôl, roedd gynon ni ryw 114 ym Mlwyddyn 11, ac rydyn ni’n agos at 150 eleni,” meddai wrth golwg360.

“Mae Blwyddyn 9 gyfredol yn agosach at 190, felly mae’r niferoedd yn yr ysgol yn mynd i fyny.”

‘Hapus iawn hefo’r canlyniadau’

Mae Catrin Pritchard, sydd ar fin gadael ei swydd, yn dweud bod “pob dim wedi mynd yn arbennig o dda” o ran eu canlyniadau, a bod yr ysgol yn “hapus iawn”.

“Roedd y negeseuon yn y wasg yn dweud y bysa’r canlyniadau yn disgyn oherwydd bo nhw’n bwriadu mynd yn ôl i amser 2019, cyn Covid, ond be’ rydan ni wedi’i weld yw rydan ni wedi gwella ar ganlyniadau blwyddyn diwethaf, ac mae ein Sgôr Capped 9 ni wedi mynd i fyny, ac A* ac A ni wedi mynd i fyny,” meddai.

Wrth egluro’r Sgôr Pwyntiau Capio 9, dywed ei fod yn edrych ar y graddau mae pob disgybl wedi’u cael, ac ar gyfer pob gradd mae pwyntiau’n cael eu rhoi.

Wrth asesu’r canlyniadau, dywed fod yr ysgol wedi cael “diwrnod arbennig o dda”.

“Un o hoff ddyddiau fi yng nghalendr yr ysgol ydi dyddiad canlyniadau TGAU a Lefel A,” meddai.

“Be’ sy’n neis amdano ydi edrych o gwmpas a gweld y disgyblion yn gwenu ar ôl iddyn nhw dderbyn y canlyniadau – sydd yn dod, wrth gwrs, o ganlyniad i’w gwaith caled nhw a gwaith caled y staff yn yr ysgol”.


Y myfyrwyr

Fe fu golwg360 yn holi rhai o ddisgyblion yr ysgol am eu canlyniadau.

Morgan, Elen, a Catrin

“Dw i wedi gwneud yn dda iawn, a dw i’n hapus hefo pob un o’r canlyniadau ges i,” meddai Catrin.

“Dw i’n mynd i fynd i Goleg Cambria yn Wrecsam i wneud Lefelau A mewn Addysg Grefyddol, Seicoleg, a Saesneg (Llên).”

“Dw i wedi gwneud yn well nag oeddwn i wedi meddwl,” meddai Elen.

“O’n i’n meddwl ro’n ni’n mynd i ffaelu Maths, ond dw i wedi pasio fo.

“Dw i’n mynd i Goleg Cambria i wneud Gofal Plant.”

Cafodd Morgan un sioc, meddai.

“Dw i wedi gwneud yn rili dda.

“Un shock result dw i wedi’i gael oedd Cemeg.

“Yn yr arholiad, ro’n ni’n teimlo fy mod wedi gwneud yn absolutely horrible, ond yn ffodus dw i wedi cael C, so dw i’n hapus gyda hynny ac, overall, ie, ar ben y byd ar y funud.

“Dw i’n mynd i wneud fy Lefelau A yng Ngholeg Cambria yn Iâl.

“Dw i eisiau gwneud Cymraeg (Iaith), Hanes, a Gwleidyddiaeth.

“Y cynllun yw i trio cael mewn i brifysgol, ond dw i dal ddim yn gwybod pa brifysgol ar y funud.

“Ond gawn ni gweld ble mae’r daith yn cymryd fi.”

Grace

“Dwi wedi gwneud yn dda iawn,” meddai Grace.

“Dw i wedi cael B mewn Cymraeg, A* mewn Cymraeg (Llenyddiaeth), B mewn Mathemateg a Bioleg, ac A* mewn Cemeg, A mewn Ffiseg, A* mewn DT (Dylunio a Thechnoleg), A mewn Celf, A* yn y ddwy Saesneg, a Pass 2 yn y Fagloriaeth.

“Dw i’n mynd i’r Chweched Dosbarth yma yn Ysgol Morgan Llwyd.

“Dw i’n mynd i astudio Bioleg, Cemeg, a Chelf neu Saesneg (Llenyddiaeth).

“Roeddwn i eisiau gweld pa un oeddwn i wedi gwneud y gorau ynddi cyn dewis.

“Roeddwn i’n gwybod bo fi eisiau gwneud Bioleg a Cemeg, ond doeddwn i dal ddim yn sicr am y rhai eraill.

“Dw i eisiau bod yn filfeddyg.

“Dw i’n gobeithio mynd i un ai Lerpwl, Cambridge, neu Bryste.

Millie a Lily

Mae Lily wedi pasio pum TGAU, a bydd hi’n mynd yn ei blaen i Goleg Cambria i wneud Celfyddydau Perfformio.

“Dw i’n dawnsio – ballet a contemporary a phethau fel’na,” meddai.

“Dw i wedyn eisiau mynd i Lundain i wneud dawnsio, a wedyn dw i eisiau gwneud dawnsio ar cruise ships a phethau fel yna.”

Hyfforddi a dyfarnu fydd Millie yn ei wneud yng Ngholeg Cambria.

“Dw i wedi pasio bron popeth heblaw am ddau beth,” meddai.

“A wedyn, hopefully, dw i’n mynd i uni ar ôl hwnna i wneud Ffisiotherapi.

“Felly Prifysgol Bangor ar ôl coleg, a wedyn ei wneud o i bêl-droed a phethau.”

Millie

“Dw i wedi’u pasio nhw i gyd, gyda dim byd llai na B,” meddai Millie H.

“Dw i wedi pasio hefo A mewn Maths!

“Roeddwn i’n meddwl roeddwn i’n mynd i fethu o!

“Dw i’n meddwl dod yn ôl i’r Chweched Dosbarth i wneud Lefelau A; dw i am wneud Hanes, Bioleg, Ffiseg, Daearyddiaeth, a’r Fagloriaeth hefyd.

“Wedyn, dw i eisiau mynd i mewn i’r heddlu – wel, dwi’n meddwl!

“Dw i ddim actually yn gwybod beth eto, ond ie, fingers crossed.”

Soffi, Lilly, ac Evie

Un arall sy’n hapus â’i chanlyniadau yw Evie.

“Dw i wedi cael popeth roeddwn wedi eisiau – A a B ym mhopeth, B mewn Maths ac A mewn Ffiseg, a dw i’n hapus iawn hefo fy nghanlyniadau.

“Dw i’n mynd i goleg yn Deeside i astudio Creative Media, a dw i’n mynd i wneud y Lefel Uwch – ond dw i’n ei wneud o hefo pêl-droed.

“Dw i wedi cael scholarship hefo fy nghlwb, y Connah’s Quay Nomads.”

Cafodd Lilly gyfuniad o raddau A, B ac C.

“Dw i wedi cael yr A mewn Hanes oeddwn i eisiau, felly dw i’n dod yn ôl i’r Chweched i wneud Hanes, Ffiseg a Media, dw i’n meddwl,” meddai.

Yn ôl ei mam, mae cymaint o bwysau ar y myfyrwyr felly roedd hi’n hyfryd gweld ei merch mor hapus.

Mae’r diwrnod wedi dod ag atgofion ei diwrnod canlyniadau hi ei hun yn ôl iddi.

Un arall sy’n hapus yw Soffi, ar ôl iddi gael cyfuniad o raddau A a B.

“Wnes i gael A mewn Cerddoriaeth.

“Roeddwn yn hapus iawn i gael B mewn Mathemateg – roeddwn wedi disgwyl cael C!

“Dw i’n mynd i Goleg Cambria, a dw i’n mynd i wneud Saesneg (Iaith), Seicoleg a Chymdeithaseg.”