Mae cynghorydd sir yn Sir Benfro yn cyhuddo aelodau o’i blaid ei hun o “hyrwyddo’u gyrfaoedd eu hunain” drwy ymgyrchu dros ddiddymu’r Senedd.

Yn ôl y Cynghorydd Aled Thomas, sydd wedi bod yn siarad â golwg360, dylai’r unigolion sy’n codi stŵr “adael y blaid [Geidwadol] ac ymuno ag Abolish”.

Mae ei sylwadau wedi ennyn ymateb chwyrn gan Geidwadwyr sydd o blaid diddymu’r Senedd, gan gynnwys un sy’n dweud bod ei sylwadau’n “echrydus” o gofio bod miloedd o aelodau o’r Blaid Geidwadol eisiau diddymu’r sefydliad.

Gwrth-ddatganoli?

Dydy’r un o’r prif bleidiau yn y ras ar gyfer etholiadau’r Senedd yn 2026 wedi cyhoeddi eu bod nhw’n rhedeg ar docyn gwrth-ddatganoli, gan gynnwys y Ceidwadwyr a Reform UK.

Ond mae rhai unigolion, gan gynnwys Huw Davies, dirprwy gadeirydd Ceidwadwyr de-ddwyrain Cymru, wedi siarad yn agored am eu cefnogaeth i ddiddymu’r Senedd.

Fis Medi, dywedodd Huw Davies wrth golwg360 nid yn unig ei fod yn cefnogi diddymu’r Senedd am ei bod yn gwneud synnwyr yn etholiadol er mwyn denu mwy o gefnogaeth i’r Blaid Geidwadol, ond hefyd am ei fod “wir yn credu” mai dyna’r peth iawn i’w wneud.

“Yn y bôn, rydym wedi bod yn erbyn datganoli ers nifer o flynyddoedd, ac i ddweud y gwir mae’n naturiol i wrthwynebu datganoli,” meddai.

“Dydi o ddim o safbwynt yr angen am fantais wleidyddol.

“Mae o’n rywbeth, o edrych yn ôl ar ein hanes, y dylen ni ei gymryd ymlaen gan mai ni yw’r blaid naturiol i’w wneud o.”

Serch hynny, mae’r Ceidwadwyr Cymreig, gan gynnwys yr arweinydd Andrew RT Davies a’r cadeirydd newydd Bernard Gentry, wedi ailadrodd eu cefnogaeth i ddatganoli.

‘Nid bai datganoli yw methiannau Llafur’

Heb gyfeirio at unigolion penodol, dywed Aled Thomas wrth golwg360 ei fod yn amau a oes yna unrhyw gefnogaeth o gwbl tuag at ddiddymu’r Senedd ymysg aelodau’r Blaid Geidwadol.

“Dw i’n gadeirydd ar y Ffederasiwn (Ceidwadol), sydd â channoedd o aelodau, a does dim un ohonyn nhw wedi dod ata’ i i ddweud eu bod nhw eisiau i’r Ffederasiwn symud tuag at safbwynt gwrthddatganoli,” meddai.

Nid bai datganoli yw “methiannau’r Blaid Lafur” fel plaid lywodraeth yn y Senedd dros y 25 mlynedd diwethaf, meddai.

“Mae’r bai ar Lafur Cymru, full stop!

“A’r ffaith ydy bod yna nifer fach o aelodau efo lleisiau mawr ar y pwnc yma.”

‘Ddim yn meddwl am ddyfodol Cymru’

Yn ôl Aled Thomas, mae gan yr unigolion hynny sydd o blaid diddymu fwy o ddiddordeb mewn “hyrwyddo’u gyrfaoedd eu hunain” nag sydd ganddyn nhw yn nyfodol Cymru.

“Mae yna nifer fach o bobol o fewn y blaid sydd yn troelli’r gwirionedd, ac yn gwneud iddi hi ymddangos fel bod perigloriaeth ar gyfer seddi seneddol yn cael ei gorfodi arnyn nhw, lle dydy hynny ddim yn wir,” meddai.

Mae rhai o aelodau’r blaid wedi bod yn cwyno bod Aelodau Seneddol y Ceidwadwyr Cymreig yn ceisio cael eu henwebu i geisio am sedd yn y Senedd yn 2026.

“Dydi hynny ddim yn wir, ac mae ganddyn nhw’r hawl i wrthod perigloriaeth a chynnig aelodau eraill,” meddai Aled Thomas wrth ymateb.

“Y ffaith yw, mae’n ymddangos i fi fod yna grŵp o unigolion sydd yn ysu i gael eu hunain ar ben y rhestr.

“Maen nhw’n barod i wneud unrhyw beth i gael eu henwau allan yna.”

‘Angen i Gymru fod yn gryf yn economaidd’

“Roedden ni reit lawr ar ein pengliniau [ar ôl yr etholiad cyffredinol],” meddai Aled Thomas am gyflwr y Ceidwadwyr Cymreig ar ôl chwalfa yn yr etholiad cyffredinol dros yr haf eleni.

Collodd y Ceidwadwyr bob un o’u haelodau seneddol yng Nghymru.

“A’r prif reswm oedd ddim oherwydd polisïau, ond mwy i wneud efo pethau fel hyn – y gwrthdaro mewnol,” meddai wedyn.

Ychwanega y dylai’r Ceidwadwyr Cymreig frwydro’r etholiad ar sail gweledigaeth “uchelgeisiol i Gymru”.

“Mae’r Aelodau dw i’n siarad efo nhw yn rhannu’r weledigaeth yma o gael Cymru i fod yn bŵer cryf economaidd,” meddai.

“Dod â busnesau i mewn i Gymru a gwneud hyn, efallai, drwy leihau trethi ar fusnesau, oherwydd mae’r pŵer gyda’r Senedd i wneud hynny.

“A hefyd i roi addysg ar dop yr agenda.

“Mae PISA yn dangos bod plant yng Nghymru yn darllen yn waeth nag yn Chile; mae hynny’n wallgof os ydym yn meddwl lle dylen ni fod fel cenedl o gymharu â llefydd fel Chile.”

‘Echrydus’

Er nad yw sylwadau Aled Thomas am symud draw i Blaid Diddymu’r Senedd wedi’u hanelu at unigolion penodol, mae Huw Davies wedi ymateb gan ddweud eu bod nhw’n “echrydus”.

“Mae e tu hwnt i fod yn echrydus bod cadeirydd Ffederasiwn yn galw am filoedd o encilwyr o’r Ceidwadwyr Cymreig i’r Blaid Abolish,” meddai wrth golwg360.

“Mae’r rhan fwyaf o’n haelodaeth a’n pleidleiswyr yn devosceptic.

“Bydd Aled yn gwybod hyn, ond mae e dal wedi dewis awgrymu y dylen nhw gefnogi plaid arall beth bynnag.

“Rwy’n credu y dylai e ystyried ei safle ac ymddiswyddo.

“Mae cefnogaeth i ddatganoli yn farn ymylol ymysg ein haelodaeth a’n pleidleiswyr.

“Mae arolwg barn diweddar yn dangos mai dim ond chwarter pleidleiswyr Ceidwadol sy’n cefnogi datganoli, lle mae dwy ran o dair eisiau gweld y Senedd yn cael ei diddymu’n llwyr.

“Rwy’n gobeithio y bydd y lleiafrif sydd o blaid datganoli yn adlewyrchu ar ddoethineb cymryd ein plaid i mewn i etholiad cynrychioladol 2026 ar blatfform sy’n dweud wrth ein pleidleiswyr eu bod nhw’n anghywir.

“Rwy’n pryderu bod yna leisiau o blaid datganoli yn y gorllewin pell sydd â chredoau cenedlaetholwyr Cymreig, yn credu y dylai fod llywodraeth ar wahân yng Nghymru er ei mwyn ei hun ac sydd ddim yn gallu cael eu perswadio o fethiant y sefydliad yng Nghymru, ei fygythiad i ddyfodol Prydain, neu sydd o les i fuddiannau ein plaid yn etholiadol.”