Mae Plaid Cymru’n galw am gadarnhad y bydd meddygon teulu, fferyllfeydd a chartrefi gofal yn derbyn cymorth er mwyn ymdopi â’r cynnydd yng nghyfraniadau cyflogwyr tuag at Yswiriant Gwladol.
Mae cyflogwyr yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol eisoes wedi’u heithrio rhag gorfod talu’r codiadau.
Mae Ben Lake, Aelod Seneddol Ceredigion Preseli a llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, yn pryderu am effeithiau’r polisi. .
Dywedodd yn ystod sesiwn Cwestiynau Brys yn Nhŷ’r Cyffredin ei fod yn destun “gofid mawr” nad oes gwybodaeth ar gael eisoes gan y Llywodraeth i egluro sut y bydd modd cynnal “rhannau mor hanfodol o’n system iechyd” wrth i gostau cyflogi staff gynyddu.
Daw’r sylwadau bythefnos ar ôl cyhoeddi’r cynnydd, yng Nghyllideb gyntaf Rachel Reeves, y Canghellor Llafur newydd.
Cefnogi darparwyr iechyd yn “hanfodol”
Fe ofynnodd Ben Lake am eglurhad ynglŷn â’r cymorth i feddygon teulu, cartrefi gofal a fferyllfeydd roedd sôn amdano yn y Gyllideb.
“Mae meddygon teulu, fferyllfeydd a chartrefi gofal cymdeithasol ar draws [etholaeth] Ceredigion Preseli wedi cysylltu â fi er mwyn mynegi’u pryderon am effaith y newidiadau polisi o ran cyfraniadau cyflogwyr at yr Yswiriant Gwladol,” meddai yn San Steffan.
“Mae’n hanfodol eu bod nhw’n cael eu cefnogi rhag y costau sy’n gysylltiedig â’r polisi hwn.”
Dryswch dros gyllid Fformiwla Barnett
Roedd dryswch penodol am ffynhonnell y cymorth, o ran ai’r Trysorlys fyddai’n cynnig cyllid ychwanegol arbennig neu a fyddai’r cyllid yn dod o gronfa bresennol Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lloegr.
Pe bai cyllid ychwanegol yn cael ei ddarparu gan y Trysorlys yn uniongyrchol, byddai arian canlyniadol yn ddyledus i Lywodraeth Cymru yn ôl Fformiwla Barnett.
“A fyddai’n bosib i [Karin Smyth, y Gweinidog Iechyd] egluro a fydd y cymorth ychwanegol yn deillio o gronfa bresennol yr Adran, neu a fydd cyllid ychwanegol yn cael ei ddosrannu gan y Trysorlys?” gofynnodd Ben Lake.
“Bydd gan y gwahaniaeth hwn oblygiadau penodol i Lywodraeth Cymru, yn enwedig er mwyn canfod a fydden nhw’n derbyn cyllid ychwanegol yn ôl Fformiwla Barnett.”
Wrth ymateb, pwysleisiodd Karin Smyth mai Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am faterion iechyd yng Nghymru, a’u bod nhw wedi derbyn buddion sylweddol eisoes o ganlyniad i gymhwyso Fformiwla Barnett i’r Gyllideb.
“Angen cydnabod” y system gofal iechyd
“Mae’n ofid mawr, bythefnos wedi’r Gyllideb, nad yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn medru esbonio a fydd y Trysorlys yn darparu cyllid ychwanegol er mwyn i feddygon teulu, fferyllfeydd a chartrefi gofal fedru talu am gynnydd mewn Yswiriant Gwladol,” meddai Ben Lake.
“Maen nhw’n rhannau hanfodol o’n system gofal iechyd, ac felly mae angen i ni eu cydnabod nhw.”