Mae dyn o Bwllheli wedi sefydlu grŵp iechyd meddwl i ddynion, Caffi’r Ogia, ar ôl gweld cynnydd yn y galw am gymorth mewn ardaloedd gwledig.
Gobaith Chris Rees oedd sefydlu’r grŵp er mwyn torri’r stigma ynghylch iechyd meddwl dynion.
Yn dilyn cyfnod o fod yn gaeth i alcohol a wynebu nifer o broblemau iechyd, mae bellach yn sobor ers bron i ddeng mlynedd.
Mae o’r farn fod dibyniaeth ar alcohol a chyffuriau yn gallu cael effaith sylweddol ar iechyd meddwl unigolyn.
Wrth fynd i’r afael â’i alcoholiaeth, fe welodd fudd mawr wrth fynychu sesiynau sgwrsio yn Felin Fach, canolfan iechyd meddwl a lles ym Mhwllheli.
“Mi wnes i joinio grŵp yn fan yno, lle oeddwn i’n mynd bob dydd Mawrth, ac mi oedd o’n absolutely briliant,” meddai wrth golwg360.
“Mi oedd o’n gyfle i siarad am y problemau, fel pam o’n i’n alcoholig i ddechrau, achos dyna ydi’r peth pwysig – ffeindio allan ‘why me?‘
“Mi wnes i joinio grŵp wedyn ar Facebook o’r enw One Year No Beer; roedd hwnnw’n briliant i ddechrau, wnes i lot o ffrindiau, ond roedd y rules yn y grŵp yn rili strict.”
‘Rhywle saff i ddynion gael dod at ei gilydd’
Aeth Chris Rees yn ei flaen i sefydlu ei grŵp ei hun, o’r enw Sober Ninjas, sydd wedi bod ar Facebook ers tua saith mlynedd bellach.
Mae dros 2,200 o aelodau yn y grŵp, ond dywed fod tua 80% ohonyn nhw’n ferched.
Arweiniodd hyn at ei benderfyniad i sefydlu grŵp yn benodol i ddynion ddod ynghyd i drafod iechyd meddwl, yn ogystal â phrofiadau o ddibyniaeth.
Gyda “tomen o hogiau lleol” wedi cysylltu ag o ynglŷn â’u pryderon iechyd meddwl dros yr haf, aeth ati i sefydlu Caffi’r Ogia.
Mae’r grŵp yn cyfarfod bob nos Lun am sgwrs a phaned yng nghanolfan Morfa Nefyn.
“Yn y ddau neu dri mis diwethaf, mae yna rywun wedi bod yn ffonio bron iawn bob diwrnod yn stryglo efo hyn neu llall.
“Ro’n i wedi meddwl gwneud hyn ers blynyddoedd eniwê, ond doedd yr amser ddim yn iawn efo gwaith.
“Ro’n i eisiau rhywle saff i ddynion gael dod at ei gilydd i siarad, yn fwy na dim byd arall.
“Yn fy marn i, y peth gorau fedri di wneud ydi siarad efo rhywun – dyna wnaeth weithio efo fi.
“A mae dynion yn hopeless am siarad efo’i gilydd.”
‘Siarad yw’r peth mwyaf pwysig i rywun ei wneud’
Ers sefydlu Caffi’r Ogia ychydig wythnosau yn ôl, mae dros gant o ddynion wedi ymuno â’r grŵp Facebook ar hyd y wlad, ac nid dim ond o ardal Morfa Nefyn chwaith.
Mae Chris Rees yn awyddus iawn i “ddarfod y stigma” ynghylch iechyd meddwl dynion.
“Rydan ni i gyd fel hogia’ wedi tyfu i fyny yn clywed, ‘Oh, man up!’, ac i ‘get on with it‘.
“Mae’r ffordd mae mental health ar y funud efo dynion y gwaethaf mae o wedi bod, ac mae suicide rates yr uchaf maen nhw wedi bod.
“Dw i wedi colli rhai ffrindiau ar hyd y blynyddoedd efo suicide, felly dw i’n meddwl bod o’n bwysig [codi ymwybyddiaeth].
“Efo fy nghefndir i efo addiction, dw i’n meddwl fod gen i rywbeth i’w gynnig, advice a pethau felly; dyna pam dw i wedi’i ddechrau o, a dweud y gwir.”
Mae wedi derbyn cefnogaeth “wych” ers cyhoeddi’r grŵp, meddai, gan egluro’i bod wedi dangos yn glir iddo’r angen sydd am grŵp o’r fath mewn ardaloedd gwledig fel Pen Llŷn.
“Mae definitely angen rhywbeth y pen yma i helpu’r hogia’ yma; dim jyst hogia’ ifanc, ond hogia’ sy’n unig.
“Mae unigrwydd yn broblem fawr.
“Drugs ac alcohol ydi un o’r problemau mwyaf dw i’n ei gweld o ran mental health pobol, a dyna oedd y broblem efo lot o’r bobol wnes i siarad efo nhw ar y dechrau.
“Be’ dw i’n trio ei wneud ydi egluro iddyn nhw sut mae addiction yn gweithio, sut i ddod dros addiction, a sut i fyw bywyd iawn.
“Dw i’n meddwl mai siarad yw’r peth mwyaf pwysig i rywun ei wneud, ond mae trio cael dynion i siarad yn gallu bod yn rhywbeth anodd.”
Datblygu lleoliad parhaol
Gobaith Chris Rees yw sicrhau bod gan Caffi’r Ogia leoliad parhaol i gynnig cefnogaeth a chyngor i ddynion o’r ardal sy’n dioddef o broblemau iechyd meddwl.
Y ganolfan ym Morfa Nefyn yw prif leoliad ymgynnull y grŵp ar hyn o bryd, ond mae’n gobeithio ehangu’r lleoliad fel bod pobol yn teimlo’n fwy agored i’r gefnogaeth sydd ar gael, yn enwedig os ydi rhywun ar restr aros i gael cymorth proffesiynol.
“Caffi’r Ogia ydi’r enw, achos mi o’n i’n meddwl am le i ddynion gael dod i siarad dros banad.
“Fysa’n neis cael ryw adeilad bach yn rhywle, lle mae’r drws ar agor bump neu chwe gwaith yr wythnos efo rhywun yno i wrando.
“Achos, beth sy’n digwydd ydi fod pobol yn teimlo yn isel ac yn cael y courage i fynd at y doctor, ond wedyn yn cael tabledi a’u rhoi ar waiting list am ryw ddau neu dri mis tan maen nhw’n cael gweld rhywun.
“Maen nhw angen rhywun i siarad efo there and then, mewn ffordd, ddim mewn ryw dri mis; mae yna lot o bethau’n gallu newid mewn diwrnod, let alone cwpwl o fisoedd.
“Dyna fyswn i’n licio ei wneud, cael rhywbeth permanent lle fedrith rhywun droi i fyny pryd bynnag maen nhw eisiau a chael sgwrs efo fi neu rywun arall.”