Mae cynrychiolwyr cymuned y Wampí yn nyffryn Amazon Periw wedi bod yn ymweld â Chymru yr wythnos hon, er mwyn trafod sut y gall gwledydd mwy cyfoethog gefnogi pobol frodorol sy’n ceisio gwarchod byd natur a’r amgylchedd.
Fel rhan o Wythnos Hinsawdd Cymru (Tachwedd 11-15), fe fu dau aelod o’r gymuned Wampí yn bresennol mewn digwyddiadau yn y Senedd, yn ogystal â digwyddiadau COP Ieuenctid Cymru yng Nghaerdydd a Wrecsam.
Fe fu gan Lywodraeth Cymru ac elusen Maint Cymru berthynas â phobol frodorol o Dde America ers sawl blwyddyn bellach, ond dyma’r tro cyntaf i aelodau’r Wampí ymweld â Chymru’n swyddogol.
Dywed Barbara Davies-Quy, Dirprwy Gyfarwyddwr Maint Cymru, fod yr ymweliad yn “foment bwerus i Gymru, drwy groesawu arweinwyr brodorol sydd wedi teithio o ganol yr Amazon i rannu eu gwybodaeth a’u profiad mewn stiwardiaeth amgylcheddol”.
Stiwardiaeth y Wampí
Mae Teófilo Kukush Pati, Llywydd Cenedl y Wampí, a Tsanim Wajai Asamat, arweinydd ifanc, wedi dod i Gymru i gynrychioli’u cenedl fechan.
Mae’r 15,000 sy’n perthyn i’r genedl yn byw mewn modd sy’n hollol gysylltiedig â’r byd naturiol o’u hamgylch.
Mae eu tiriogaeth yn rhychwantu 1.4m hectar, ac mae’n adnabyddus am ystod y bioamrywiaeth sy’n perthyn iddi.
Mae coedwigoedd y diriogaeth yn amsugno meintiau anferthol o garbon, ac yn rhan hanfodol o ymdrechion i liniaru effeithiau newid hinsawdd.
Ond dydy Llywodraeth Periw ddim yn cydnabod yn gyfreithiol fod yr holl dir yn perthyn i’r Wampí.
Mae angen cefnogaeth allanol ar y genedl, felly, er mwyn iddyn nhw fedru atal tresmasu ar eu tiriogaeth gan ddiwydiannau echdynnol, a pharhau i warchod eu cynefin yn yr un modd traddodiadol.
Maint Cymru’n cydnabod “dewrder” y Wampí
Mae elusen Maint Cymru, oedd wedi gwahodd aelodau’r Wampí i Gymru, wedi bod yn cydweithio â’r genedl ers 2016, gan eu helpu nhw i fonitro’r defnydd o dir yn eu tiriogaeth.
Cafodd yr elusen unigryw ei sefydlu yn 2010, er mwyn cydweithio â phobloedd brodorol i ddiogelu oddeutu dwy filiwn hectar o goeddwigoedd glaw rhyngwladol – ardal o’r un faint â Chymru.
Daw’r enw o’r arfer fu’n boblogaidd am ddegawdau o ddefnyddio ‘maint Cymru’ fel uned fesur er mwyn deall graddfa dinistr cynefinoedd naturiol.
“Mae eu dewrder a’u hymroddiad i ddiogelu eu tiriogaeth yn ysbrydoledig, ac mae eu profiadau yn ffordd bwerus i’n hatgoffa am yr hyn mae modd ei gyflawni pan fyddwn yn sefyll gyda’n gilydd ar draws cenhedloedd,” meddai Barbara Davies-Quy.
Cyllid o Gymru i’r genedl fechan
Fe wnaeth aelodau’r genedl gyfarfod â Julie James, Gweinidog Newid Hinsawdd Cymru yng nghynhadledd COP27 yn Glasgow yn 2021.
Arweiniodd y cyfarfod hwn at gynllun gan Lywodraeth Cymru i neilltuo rhywfaint o gyllid i’r Wampí drwy Maint Cymru.
Mae’r cyllid hwn yn galluogi’r genedl i gynhyrchu’r holl ynni sydd ei angen arnyn nhw drwy ddefnyddio ffynonellau adnewyddadu.
Fe wnaeth y cyllid dalu i adeiladu cwch pŵer solar deg sedd, sydd wedi bod yn hynod werthfawr fel ffordd i aelodau’r genedl anghysbell gael mynediad at wasanaethau hanfodol.
Yr wythnos hon, yn ystod yr ymweliad, fe ymrwymodd Huw Irranca-Davies, Dirprwy Brif Weinidog Cymru, swm o £50,000 mewn cyllid ychwanegol i gefnogi adeiladu mwy o gychod cynaliadwy i’r genedl.