Mae deunaw safle arall wedi derbyn statws Coedwig Genedlaethol Cymru.
Daeth y cyhoeddiad gan Huw Irranca-Davies, Dirprwy Brif Weinidog Cymru sydd â chyfrifoldeb dros newid hinsawdd a materion gwledig yn y Llywodraeth, yn dilyn rownd ddiweddara’r Cynllun Statws.
Mae rhaglen y Goedwig Genedlaethol yn ymrwymiad i greu rhwydwaith o goetiroedd ledled Cymru, ac fe fydd yn darparu ecosystemau rhyng-gysylltiedig ac yn creu gwaddol cenedlaethol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
“Rwy’n falch iawn ein bod yn gallu cyhoeddi rhagor o dwf i Goedwig Genedlaethol Cymru yn ystod Wythnos Hinsawdd Cymru, yn y rownd fwyaf o geisiadau rydym wedi’u cael hyd yma,” meddai Huw Irranca-Davies.
“Mae hyn yn golygu bod gennym bellach 55 o Safleoedd y Cynllun Statws fel rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.
“Mae ehangu’r Goedwig Genedlaethol yn gam allweddol tuag at greu, adfer a chysylltu cynefinoedd gwerthfawr – lle mae ecosystemau coedwigoedd cadarn yn caniatáu i fywyd gwyllt ffynnu.
“Mae rhwydwaith y Goedwig Genedlaethol yn ganolog i’n treftadaeth naturiol a diwylliannol, gan alluogi cymunedau i gysylltu â natur a phrofi ei manteision.
“Ein huchelgais yw cael mwy o safleoedd ledled Cymru, y gall pawb eu mwynhau.”
Dau safle yn Eryri
Mae dau safle o Barc Cenedlaethol Eryri wedi llwyddo i ymuno â’r rhwydwaith, sef Coed Bryn Berthynau a Choed Hafod.
Mae Coed Bryn Brethynau ar lethrau sy’n wynebu’r de-orllewin yn bennaf yn nyffryn Llugwy.
Coetir derw mes digoes sy’n nodweddiadol o arfordir gorllewinol Prydain yw hwn yn bennaf, yn gymysg ag amrywiaeth o goed brodorol lled-naturiol.
Mae’r goedlan yn cael defnydd sylweddol gan drigolion lleol sy’n mwynhau crwydro’r rhwydwaith o lwybrau cyhoeddus a goddefol.
Mae mynediad hefyd i Goedwig Gwydir a’r Llwybr Llechi trwy’r goedlan.
Coetir hynafol, lled-naturiol ar lethrau dwyreiniol Dyffryn Conwy ger Llanrwst yw Coed Hafod.
Derwen ddigoes sy’n meddiannu’r safle yn bennaf, yn gymysg ag amrywiaeth o goed brodorol lled-naturiol eraill.
Mae modd cael mynediad ar hyd rhwydwaith o lwybrau cyhoeddus a goddefol sy’n cychwyn ger cilfan ar yr A470.
“Mae’n anrhydedd bod dwy goedlan ym mherchnogaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi derbyn statws Coedwig Genedlaethol i Gymru,” meddai Jonathan Cawley, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
“Mae’r coedlannau hyn yn adnoddau hamdden gwerthfawr i gymunedau lleol ac ymwelwyr i dreulio amser yng nghanol natur gan elwa o’r buddion o wneud hynny i iechyd a llesiant.”
Wrth ymuno â’r Goedwig Genedlaethol, mae safleoedd coetir yn dod yn rhan o rwydwaith sy’n cefnogi safleoedd ac yn helpu i rannu gwybodaeth ac arferion da.
Mae’r safleoedd newydd hefyd yn cael Arwyddion Coedwig Cenedlaethol, gafodd eu gwneud gan Sefydliad y Deillion Merthyr Tudful o bren Cymreig gafodd ei dorri a’i brosesu yng Nghymru.