Mae swyddog sydd yn gweithio ym maes dementia yng Ngwynedd yn dweud bod gwell gwasanaeth i unigolion a theuluoedd sy’n cael eu heffeithio wedi arwain at lai o stigma ynglŷn â’r cyflwr.

Dywed Emma Quaeck, rheolwr Dementia Actif Gwynedd, fod pobol yn fwy parod i siarad am ddementia erbyn hyn oherwydd y cymorth sydd ar gael yn eu cymunedau.

Mae cynllun Dementia Actif Gwynedd wedi bod yn rhedeg ers bron i naw mlynedd, ac mae’n cynnig gweithgareddau corfforol a chymdeithasol i gefnogi unigolion sy’n cael eu heffeithio â’r cyflwr.

Mae’r cynllun yn agored i’r rhai sydd wedi cael diagnosis o ddementia, yn aros am ddiagnosis, ond hefyd ar gyfer y gofalwyr di-dâl a’r teuluoedd sy’n eu cefnogi drwy Wynedd.

Dementia Actif Gwynedd

Sefydlodd Emma Quaeck Dementia Actif Gwynedd wedi i’w mam gael diagnosis o’r cyflwr yn 2008.

Erbyn hyn, mae gan Dementia Actif Gwynedd 16 o ddosbarthiadau ar draws y sir ac, mewn wythnos, mae’r tîm yn gweld oddeutu 170 o bobol mewn canolfannau cymunedol neu hamdden.

“Mae’r [dosbarthiadau] yn agored i bobol sydd wedi’u heffeithio efo dementia, ond hefyd i bobol hŷn sydd jyst eisiau’r lefel yna o ymarfer a chymdeithasu,” meddai wrth golwg360.

“Ryw hanner [y 170 o bobol] sydd efo dementia, ac wedyn mae’r gweddill yn bobol sy’n hŷn ac efallai fod yna ddim pethau yn eu cymuned nhw lle maen nhw’n gallu mynd i gael panad a ballu.

“Y lefel o ymarfer sy’n dda, maen nhw’n licio hynny; dydi o ddim yn rhy anodd.

“Rydan ni hefyd yn gwneud digwyddiadau arbennig, rydan ni’n trio bod yn reit greadigol a gadael i bobol gael go ar wneud pethau gwahanol.”

Yn eu hymdrechion i amrywio’u gweithgareddau, mae Dementia Actif Gwynedd wedi cydweithio ag Amgueddfa Cymru yn Llanberis yn ddiweddar, ac yn cynnal teithiau i wahanol leoliadau lleol.

Mae hyn yn gyfle i gynnig rhywbeth i’r aelodau edrych ymlaen ato, yn ôl Emma Quaeck.

Pobol “yn fwy agored i drafod dementia erbyn hyn”

Mae’r cynllun yn mynd o nerth i nerth ers ei sefydlu, gyda’r niferoedd sy’n mynychu wedi cynyddu’n fawr ar hyd y blynyddoedd.

Mae Emma Quaeck yn credu bod hyn yn deillio o’r ffaith fod pobol yn tueddu i siarad yn agored am ddementia yn amlach y dyddiau hyn.

“Pan wnaethon ni gychwyn [Dementia Actif Gwynedd], roedd o’n rili anodd cael pobol i ddod, achos doedden nhw ddim eisiau cael eu cysylltu efo rhywbeth oedd yn dweud ‘dementia’ arno fo.

“Erbyn rŵan, mae pobol dipyn bach mwy parod i siarad ac eisiau mynd i lefydd lle maen nhw’n gallu cael cefnogaeth.”

Prin iawn oedd y cymorth oedd ar gael pan gafodd mam Emma Quaeck ddiagnosis o ddementia.

Aeth hi ati i sefydlu Dementia Actif Gwynedd, a’i gweledigaeth ar y pryd oedd sicrhau bod llefydd ar gael o fewn y gymuned i unigolion gymryd rhan mewn gweithgareddau, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o’r cyflwr.

“Dw i’n cofio [mam] yn cael y diagnosis, ac wedyn mi oeddet ti’n cael dy adael i just get on with it.

 “Ond erbyn hyn, mae yna lot fwy o gefnogaeth, ac rydan ni fel Dementia Actif yn gweithio yn agosach efo Llwybr Cymorth Cof [corff sy’n rhoi cymorth i bobol â dementia neu sy’n poeni am eu cof] ac yn y blaen, i gefnogi pobol ddim jyst efo ymarfer corff ond efo llefydd maen nhw eisiau mynd i gael mwy o wybodaeth i’w wneud efo dementia.

“Mae’r gwasanaeth lot gwell, a dw i’n meddwl oherwydd hynny, mae’r stigma yn dechrau mynd.

“Mae pobol yn siarad mwy, ac mae yna fwy o bethau yn y gymuned.

“Mae ein Facebook ni yn llawn o’r pethau rydan ni’n eu gwneud, felly mae pobol yn gallu gweld rŵan beth mae pobol efo dementia yn gallu ei wneud.

“Byddai mam wedi bod wrth ei bodd yn gwneud hwn, achos mi oedd hi’n rili sporty ond jyst heb gael y cyfle i wneud dim byd.

“Er, mae’r stigma dal yna weithiau; efallai fod pobol yn poeni am eu cof ac yn ofni mynd i ffeindio allan mwy, ac felly’n ofni mynd at y doctor.

“Felly rydan ni’n trio codi ymwybyddiaeth os dydyn nhw ddim cweit yn teimlo’n iawn, eu bod nhw’n mynd i weld y doctor, achos gallai fod yn rhywbeth arall.

“Ond os mai dementia ydy o, maen nhw’n gallu cael y gefnogaeth yn gynt wedyn.”

Pwysig ‘ymestyn y cymorth i ofalwyr a theuluoedd’

Mae’n hollbwysig fod Dementia Actif ar gael i ofalwyr a theuluoedd yn ogystal, yn ôl Emma Quaeck, gan eu bod hwythau hefyd yn gallu wynebu sefyllfa anodd.

Mae’r cynllun yn ceisio darparu cymorth i’r rhai sy’n ceisio mynd i’r afael â chyflwr sy’n “gymhleth”, ac mae’n gyfle gwych i ofalwyr rannu eu profiadau gyda rhai sy’n deall, meddai.

“Dw i’n rhedeg grŵp ar-lein efo gofalwyr di-dâl, ac mae’r sesiwn yn anhygoel.

“Dw i’n gwybod fod pobol yn teimlo’n saff i siarad ac i fod yn hollol agored am sut maen nhw’n teimlo.

“Ac os ydyn nhw’n cael problem efo rhywbeth, mae un o’r gofalwyr sydd wedi bod trwy’r un peth yn gallu rhoi’r atebion iddyn nhw.”

Y Gymraeg yn angenrheidiol

Mae holl staff tîm Dementia Actif Gwynedd yn rhugl yn y Gymraeg neu’n dysgu, ac yn cynnig gwasanaeth dwyieithog.

Mae Emma Quaeck yn credu’n gryf fod pawb yn haeddu derbyn gwasanaeth drwy gyfrwng eu dewis iaith.

“Fel mae pobol yn cael dementia, weithiau maen nhw’n gallu colli’r Saesneg ac yn mynd yn ôl i’w mamiaith nhw, felly mae [rhyngweithio yn Gymraeg] yn rili, rili pwysig.”