Mae Cynhadledd Llafur Cymru yn cychwyn heddiw (dydd Gwener, Tachwedd 15) yn Llandudno.
Bydd aelodau a chynrychiolwyr y blaid yn dod ynghyd yno dros y dyddiau nesaf.
Mae yna awgrym mai’r gynhadledd hon yw’r un bwysicaf i Lafur yng Nghymru ers cychwyn datganoli.
Mae’r blaid wedi cael ei disgrifio fel un sydd “yn brin o syniadau”, felly pa well amser i gynnal cynhadledd i drafod polisi a’r strategaeth ar gyfer etholiad 2026?
Er bod y blaid wedi ennill pob etholiad yng Nghymru o ran nifer y seddi ers 1922, dydi dweud bod 2024 wedi bod y flwyddyn anoddaf eto ddim yn or-ddweud.
2024 anodd tu hwnt
Ar ôl i’r Prif Weinidog Mark Drakeford gamu o’i swydd ym mis Mawrth eleni, byddai wedi bod yn anodd rhagweld yr hyn oedd i ddod.
Roedd amser Vaughan Gething wrth y llyw yn un heriol yn bersonol iddo fo, ond hefyd i’r blaid.
Fe ddechreuodd y sgandal dros dderbyn £200,000 i’w ymgyrch i fod yn arweinydd y blaid gan droseddwr amgylcheddol bron yn syth ar ôl iddo ddod yn Brif Weinidog.
Bron bob dydd Mawrth yn y siambr ar lawr y Senedd, roedd y gwrthbleidiau yn gwybod pa mor anesmwyth oedd Vaughan Gething a’r blaid am y sefyllfa, ac yn manteisio ar hynny drwy ofyn cwestiynau ar y mater.
Ni chafodd hyn ei helpu gan y ffaith fod Jeremy Miles, oedd wedi sefyll yn erbyn Vaughan Gething yn y ras i fod yn Brif Weinidog, wedi dweud yn gyhoeddus na fyddai o wedi derbyn yr arian.
Wedyn daeth helynt diswyddo Hannah Blythyn ar ôl i Vaughan Gething gredu mai hi oedd wedi cyhoeddi neges destun yn dangos ei fod wedi annog aelodau’r Cabinet i ddileu negeseuon yn ystod y pandemig gan eu bod yn agored i gais rhyddid gwybodaeth.
Yn y mis a hanner rhwng y diswyddiad hwnnw ac ymddiswyddiad Vaughan Gething, roedd Plaid Cymru hefyd wedi penderfynu tynnu allan o’r Cytundeb Cydweithio efo Llywodraeth Cymru.
Rhaniadau
Er gwaethaf hyn i gyd, roedd cwpwl o enghreifftiau llai amlwg sydd yn awgrymu pam fod y gynhadledd hon mor bwysig.
Yn gyntaf, roedd Lee Waters, ar lawr y Senedd, wedi disgrifio’r £200,000 i Vaughan Gething fel rhywbeth “anghyfforddus iawn”, ac wedi argymell ei fod yn rhoi’r arian yn ôl.
Dyma un o’r enghreifftiau cyntaf, yn gyhoeddus, o raniadau o fewn y blaid.
Roedd anghytundeb rhwng y cyn-Brif Weinidog Mark Drakeford a Lynne Neagle, yr Ysgrifennydd Addysg, am y penderfyniad i beidio bwrw ymlaen efo cynllun (gafodd ei lunio gan Lywodraeth Mark Drakeford) i ddiwygio tymhorau’r Senedd.
Ddaru’r ddwy enghraifft yma ddangos un peth yn glir i bawb – bod Llafur Cymru yn rhanedig, ac am y tro cyntaf yn barod i ddangos hyn yn gyhoeddus.
101 diwrnod o Eluned Morgan
Mae heddiw yn nodi 101 diwrnod o arweinyddiaeth Eluned Morgan.
Er bod dadl i’w chael am yr hyn mae hi wedi’i gyflawni hyd yn hyn, o safbwynt y Blaid Lafur yn fewnol yng Nghymru, mae hi wedi medru uno’r blaid i ryw raddau.
Does dim anghytundebau agored wedi bod, ac mae hi’n ymddangos ei bod yn derbyn cefnogaeth lawn gan yr aelodaeth.
Wedi dweud hynny, nid yw undod y Blaid Lafur yn mynd i fod yn ddigon i fedru denu’r gefnogaeth sydd ei hangen ar y blaid wrth fynd i mewn i 2026.
Mae llawer wedi cael ei ddweud am y buddiannau fydd yn dod i Gymru o ganlyniad i ddwy Lywodraeth Lafur ar y naill ochr i’r M4.
Yn wir, mae £1.7bn o arian canlyniadol Barnett yn dod i Gymru, gyda £25m yn ychwanegol i ddiogelu mwyngloddiau.
Ond tu hwnt i hyn, mae gweithwyr dur Tata wedi colli’u swyddi ar ôl i Syr Keir Starmer, Jo Stevens a Llywodraeth San Steffan gytuno, fwy neu lai, i’r un cytundeb ag a gafodd ei roi gan y Ceidwadwyr, a does dim arian ychwanegol o HS2.
Hefyd, does dim manylion ynglŷn â’r “bartneriaeth” newydd rhwng byrddau iechyd yng Nghymru a’r Ymddiriedolaethau yn Lloegr.
Mae’r gynhadledd yn gyfle i’r Blaid Lafur ddangos i bobol Cymru bod dwy Lywodraeth Lafur mewn grym ym Mae Caerdydd a San Steffan yn gallu dod â newidiadau gwirioneddol i’w bywydau.
Llafur Newydd Cymru?
Mae ambell i Aelod o’r Senedd wedi cyhoeddi nad ydyn nhw’n bwriadu sefyll yn 2026.
Mae Vaughan Gething wedi cyhoeddi ei fod am gamu i lawr, gydag adroddiadau bod y cyn-Brif Weinidog eisiau sedd yn Nhŷ’r Arglwyddi.
Mae Lee Waters wedi cyhoeddi ei fod am gamu o’r neilltu hefyd, ac wedi dweud bod “newid yn dda” o fewn pleidiau gwleidyddol.
Rydym yn disgwyl i Aelodau eraill o’r Senedd gyhoeddi dros y misoedd nesaf mai hon fydd eu Senedd olaf.
Felly, er bod rhai enwau newydd wedi sefyll yn ystod yr etholiad cyffredinol eleni – Martha O’Neil yng Nghaerfyrddin, er enghraifft – mae’r gynhadledd yn gyfle i Aelodau’r Senedd y dyfodol wneud eu cais i fod yn lleisiau newydd o fewn y blaid.
Mae’n debyg y bydd cyflwyno enwau a chymeriadau newydd yn angenrheidiol i blaid sydd wedi cael ei disgrifio fel un “flinedig” ar ôl bod mewn grym ers 25 mlynedd.
Mewn cyd-destun lle mae Plaid Cymru yn tyfu mewn poblogrwydd, a hefyd twf Reform (yn enwedig yn ne Cymru), does dim dianc rhag pwysigrwydd y gynhadledd yma.
Bydd golwg360 yn gohebu’n fyw o Landudno.