Mae dyn o Ben-y-bont ar Ogwr wedi’i garcharu am 18 mlynedd am geisio llofruddio ei wraig.
Cafodd Darren Brown, 35 oed, cyn-gynghorydd tref o ardal Wildmill ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ei arestio ym mis Gorffennaf y llynedd wedi iddo drywanu Corinne Brown, 34 oed.
Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i’r eiddo ychydig cyn 10:25yh ar ôl cael eu hysbysu fod menyw 34 oed wedi ei thrywanu.
Wedi i swyddogion arfog gyrraedd yr eiddo yn Wildmil, daethon nhw o hyd i’r ddynes wedi’i thrywanu ac fe gafodd Darren Brown ei arestio yn y fan a’r lle.
Cafodd Corinne Brown ei chludo i’r ysbyty ac mae hi bellach wedi gwella o’i hanafiadau. Roedd Corinne Brown a Darren Brown wedi gwahanu adeg y digwyddiad ond yn parhau i fyw yn yr un tŷ. Roedden nhw wedi cael ffrae oedd wedi arwain at yr ymosodiad ar Corinne Brown.
Pan gafodd Darren Brown ei arestio, dywedodd wrth swyddogion mai Corinne Brown oedd wedi bod yn dal y gyllell a’i bod hi’n gyfrifol am achosi’r anafiadau.
Yn ddiweddarach yn y cyfweliad, dywedodd Darren Brown ei fod wedi cymryd y gyllell oddi wrthi a bod yr anafiadau wedi eu hachosi wrth iddi ruthro tuag ato.
Yn ystod archwiliad o’r eiddo gan yr heddlu, daeth yn amlwg fod Darren Brown wedi dangos ymddygiad rheolaethol tuag at ei wraig ers blynyddoedd, er nad oedd adroddiadau blaenorol.
Roedd cloeon ar ddrysau’r tŷ a thystiolaeth yn dangos fod camerâu mewnol wedi’u cuddio.
Roedd un camera oedd yn cynnwys sain, wedi’i guddio yn ystafell wely Corinne Brown ac wedi recordio’r ymosodiad a’r hyn ddigwyddodd wedyn.
Roedd Darren Brown wedi gwadu ceisio llofruddio ei wraig ond wedi cyfaddef achosi niwed yn fwriadol.
Yn ôl yr Uwch Swyddog Ymchwilio, y Ditectif Arolygydd Owain Morrison, roedd Darren Brown wedi cynnal “ymosodiad parhaus gyda’r bwriad o geisio lladd Corrine Brown.”
Ychwanegodd fod y recordiad sain yn “dystiolaeth hollbwysig” oedd yn ategu adroddiad Corrine Brown.
“Mae’r ddedfryd heddiw yn dangos y byddwn ni yn mynd ar drywydd y rhai sy’n cyflawni trais yn erbyn merched ac yn dod â nhw o flaen eu gwell,” meddai.