Mae dadwybodaeth (disinformation) yn “rhwystredig” ac yn achosi “heriau” i sefydliadau sydd yn ceisio gweithredu ar sero net i leihau effaith newid hinsawdd, yn ôl Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol.
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae dadwybodaeth ynglŷn â sero net a newid hinsawdd wedi cynyddu, yn enwedig ar yr asgell dde.
Mae Donald Trump, darpar Arlywydd yr Unol Daleithiau, wedi awgrymu’n gyson fod newid hinsawdd yn rywbeth “ffug”.
Yn ôl Derek Walker, mae “dadwybodaeth yn dod fyny’r agenda”.
“Dydy pobol efallai ddim yn credu bod [newid hinsawdd] yn bryder mawr iddyn nhw ac nad oes rhaid poeni,” meddai wrth golwg360.
Dywed Derek Walker fod ethol Donald Trump yn esiampl o hyn.
“Felly, mae’n rhaid i ni [ymgyrchwyr newid hinsawdd] barhau i wneud yr achos dros pam fod hyn yn rywbeth pwysig, ac egluro beth sydd yn digwydd yn ein byd rŵan.”
Cyfeiria Derek Walker at y llifogydd diweddar yn Sbaen, lle bu farw 224 o bobol, y rhan fwyaf yn Valencia, yn dilyn dyddiau o law trwm.
“Pan ydych yn gweld y llifogydd yma yn Sbaen, mae e’n glir bod y math yma o ddigwyddiad yn digwydd yn fwy aml, a bod e’n gallu digwydd yma (yng Nghymru) hefyd,” meddai.
Effaith y cyfryngau cymdeithasol
Yn ôl Derek Walker, un o’r prif resymau dros ddadwybodaeth ydi’r cyfryngau cymdeithasol.
Dywed nad yw’n “unigryw i’r ddadl newid hinsawdd” chwaith.
“Dydyn ni ddim yn gallu bod yn hunanfodlon am hyn,” meddai.
“Mae’n rhaid i ni egluro a gwneud yr achos drwy siarad efo pobol a chymunedau.”
Mae’r pwyslais ar gyfathrebu yn rywbeth mae Derek Walker “yn awyddus” i’w wneud fel rhan o’i swydd.
Datgarboneiddio yn TATA
Dywed Derek Walker fod pobol yn llawer mwy tebygol o wrando os ydyn nhw’n teimlo bod gweithredu sero net yn cael ei wneud “efo nhw, yn hytrach nag iddyn nhw.”
Un esiampl o hyn yw cau safle gwaith dur Tata ym Mhort Talbot er mwyn symud i ffordd fwy cynaliadwy o gynhyrchu dur.
Yn ôl Derek Walker, mae sefyllfa Tata yn enghraifft o “fethu cynllunio tymor hir”.
“Doedd yna ddim digon o gyfathrebu efo pobol yn y gymuned a’r gweithle i’w helpu nhw i ddeall beth yn union oedd angen digwydd i drawsnewid y diwydiant ar gyfer y dyfodol,” meddai.
“Ond hefyd, methiant i gynnal nifer y bobol sy’n cael eu cyflogi ac i wneud yn siŵr bod y diwydiant yn wyrddach.
“Ac roedd yna ychydig o benderfyniadau a buddsoddiadau munud olaf, ond rhy ychydig ac yn rhy hwyr.”