Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi penderfynu tynnu Plas Tan-y-Bwlch oddi ar y farchnad agored am nawr.

Roedd y plasty ym Maentwrog ger Blaenau Ffestiniog wedi bod ar y farchnad am £1.2m ers mis Awst yn dilyn trafferthion ariannol yn gynharach eleni.

Mae disgwyl i Awdurdod y Parc ryddhau manylion pellach am ddyfodol Plas Tan y Bwlch yng nghyfarfod yr Awdurdod ar Ebrill 30, 2025.

Wrth roi Plas Tan-y-Bwlch ar y farchnad agored ym mis Awst eleni, cafodd pryderon eu codi ymhlith y gymuned leol ynglŷn â sicrwydd mynediad yn y dyfodol i Lyn Mair a’r coetiroedd cyfagos.

‘Archwilio pob opsiwn’ ar gyfer dyfodol Plas Tan-y-Bwlch

Wrth ymateb i bryderon lleol, cynhaliodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri sesiwn galw heibio ym mis Hydref. Daeth 180 o bobl i’r sesiwn.

Roedd yr Awdurdod wedi cynnal cyfarfod ar Dachwedd 13 gyda’r aelodau yn pleidleisio i dynnu Plas Tan-y-Bwlch oddi ar y farchnad ‘dros dro’ gan sicrhau rhagor o amser i brynwyr posibl a grwpiau cymunedol ddatblygu eu cynlluniau ymhellach.

Yn ôl Parc Cenedlaethol Eryri, bydd hyn yn “galluogi’r Awdurdod i archwilio pob opsiwn ar gyfer dyfodol y safle yn llawn.”

Mae Awdurdod y Parc yn pwysleisio eu bod nhw’n parhau i fod yn agored i drafodaethau gyda grwpiau cymunedol a phrynwyr preifat gan nodi nad oes modd cadw’r prif adeilad yn nwylo’r Awdurdod heb bartner bellach.

Mae disgwyl trefnu sesiwn galw heibio ar ddechrau’r gwanwyn gan sicrhau fod y gymuned yn derbyn unrhyw ddiweddariadau a datblygiadau pellach yn sgil dyfodol Plas Tan-y-Bwlch.