Byddai gweld Plas Tan-y-Bwlch yn mynd i ddwylo preifat yn “torri calon rhywun”, yn ôl trigolion lleol sy’n poeni am ddyfodol y plasty a’r tir o’i gwmpas.

Mae’r adeilad rhestredig Gradd II ym Maentwrog, rhwng Blaenau Ffestiniog a Phorthmadog, ar werth am £1.2m.

Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri sy’n berchen ar y plas, gafodd ei adeiladu fel cartref preifat i’r teulu Oakeley, perchnogion chwareli yn yr ardal, ers bron i hanner can mlynedd.

Yn ôl Awdurdod y Parc, mae eu sefyllfa ariannol yn golygu nad ydy hi’n bosib iddyn nhw barhau i ariannu’r plas, sy’n dyddio’n ôl i’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Mae’r Awdurdod yn dweud eu bod nhw wedi cysylltu â chwmnïau lleol, a bod trafodaethau ag un cwmni cymunedol yn parhau.

Plas Tan-y-Bwlch, Maentwrog

‘Gwerthu bob dim sydd gennym ni’

Yn ogystal â’r plas ei hun, sy’n cael ei ddefnyddio fel Canolfan Astudiaethau Amgylcheddol i’r Parc Cenedlaethol, mae’r gwerthiant yn cynnwys llyn a choedlan sy’n boblogaidd gyda cherddwyr cŵn a theuluoedd lleol.

Yn ôl gwefan Carter Jones, yr asiant sy’n rhestru’r eiddo, mae’r safle’n 103 erw, ac yn cynnwys cynllun trydan hydro a chlwstwr o adeiladau megis yr hen stablau a chalet.

Ar hyn o bryd, mae yna “fynediad caniataol” i’r llwybrau o amgylch Llyn Mair, gafodd ei greu yn 1889 gan William Oakeley fel anrheg i’w ferch ar ei phen-blwydd yn 21 oed.

Golyga’r ‘permissive footpaths’ fod tirfeddiannwr wedi rhoi caniatâd i’r cyhoedd ddefnyddio’r llwybr, ond nad ydyn nhw am roi hawl tramwy (right of way) ar y tir.

“Mae’r gymuned yn poeni’n ofnadwy bod Plas Tan-y-Bwlch ar werth, a hefyd y tiroedd tu cefn i’r plas hyd at Lyn Mair,” meddai Llinos Alun, sy’n byw gerllaw yn Llan Ffestiniog, wrth golwg360.

“Mae fan hyn yn safle mae’r gymuned wedi’i ddefnyddio ers cenedlaethau i fwynhau efo teuluoedd a cherdded; mae meddwl y bysa fan hyn yn gallu bod yn eiddo preifat yn torri calon rhywun.”

Mae llwch mam Llinos Alun wedi’i wasgaru ger Llyn Mair hefyd, a dywed y byddai’n “warthus” pe bai’n mynd i ddwylo preifat.

“Er bod pobol, efallai, yn meddwl y bysa’r Awdurdod yn gwneud siŵr y bysa yna amodau o fewn y gwerthiant, does gen i ddim ffydd yn hynny,” meddai wedyn.

“Mae yna hydro yn rhan o’r gwerthiant yma hefyd, felly pam ein bod ni’n mynd a gwerthu bob dim sydd gennym ni i rywun os does wybod lle i gael manteisio ar beth sydd gennym ni fel cymuned yn yr ardal yma?”

Francesca Williams a Llinos Alun

Mae golwg360 wedi holi Carter Jones a oes yna unrhyw amod yn y gwerthiant fyddai’n atal perchnogion preifat newydd – pe bai rhai – rhag cau’r llwybrau, ond dydyn nhw ddim wedi ateb.

Fel y cyfryw, gall tirfeddianwyr gau llwybrau sydd â mynediad caniataol.

Mae Llinos Alun hefyd yn cwestiynu pam nad ydy Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi ymgynghori â chymunedau lleol ar ddyfodol y plas cyn ei roi ar werth.

Bydd cyfarfod nesaf yr Awdurdod yn cael ei gynnal am 10 o’r gloch fore Mercher (Medi 11) ym Mhlas Tan-y-Bwlch, ac mae Llinos Alun yn annog pawb sy’n poeni i gyfarfod yno i ddangos eu pryder.

‘Golygu gymaint i ni’

Dywed Francesca Williams, sy’n byw ychydig filltiroedd o Lyn Mair ym mhentref Gellilydan, ei bod hi’n dod yno bron yn ddyddiol er mwyn cerdded ei chi.

“Mae’r Plas yn symbolaidd ofnadwy, mae o’n meddwl lot o bethau… os ydy hwnna’n mynd yn ôl i rywun efo lot o bres sy’n mynd i gael gwneud wbath wbath maen nhw eisiau, rydyn ni’n colli blynyddoedd o gwffio i gael ein clywed fel cymuned,” meddai wrth golwg360.

“Ddaru fi ddwyn fy mhlant i fyny’n fan yma. Fysa hi’n bechod methu dod â chenedlaethau nesaf fi i fan hyn.

“Mae o’n lle i bobol heb bres ddod am y prynhawn efo picnic, mae o’n golygu gymaint i ni.”

Mae hi hefyd yn cwestiynu pris Plas Tan-y-Bwlch.

O gymharu, mae hen dŷ pum llofft efo pedair erw o dir gerllaw ar werth am £725,000 a phlasty pum llofft gyda thair erw ger Gellilydan yn costio £700,000.

“£1.2m, dydy hynny ddim yn bris mawr i le mor fawr,” meddai Francesca Williams.

“Beth mae’r Parc yn mynd i’w wneud efo’r pres yna wedyn, dydy o ddim byd.”

Mae Francesca Williams a Llinos Alun am weld y safle’n mynd i gwmni cymunedol.

Llyn Mai

‘Toriadau sylweddol iawn’

Yng nghofnodion agenda cyfarfod Awdurdod y Parc ar gyfer dydd Mercher (Medi 11), maen nhw’n nodi y byddai cael gwared ar y plas o’u meddiant yn golygu eu bod nhw’n arbed tua £240,000 o’u cyllideb sylfaenol pe bai’n cael ei werthu neu ei drosglwyddo i sefydliad cymunedol lleol.

Mewn datganiad, dywed y Parc Cenedlaethol eu bod nhw “wedi ceisio nifer o wahanol opsiynau yn ystod y pymtheg mlynedd diwethaf er mwyn darganfod model busnes fyddai’n lleihau’r gost i’r Awdurdod o gynnal canolfan Plas Tan y Bwlch”.

“Mae’r Awdurdod yn awyddus i sicrhau dyfodol llewyrchus i’r Plas ond rhaid cydnabod bellach nad yw yn ein gallu i ariannu’r ganolfan ein hunain,” meddai llefarydd.

“Mae hyn o ganlyniad i doriadau sylweddol iawn yn ein cyllidebau, a gydag ychwanegiad chwyddiant, nid yw’n gynaliadwy i’r busnes barhau ar y model presennol.”

Maen nhw wedi cysylltu â chwmnïau lleol, ac yn dweud bod trafodaethau’n parhau ag un cwmni cymunedol.

“Bu i’r Awdurdod hefyd benderfynu y byddai angen opsiwn pellach, os nad yw trafodaethau o’r fath yn llwyddiannus, ac i’r diben yma mae penderfyniad hefyd wedi ei wneud i hysbysebu’r ffaith ein bod yn agored i gynigion ar y farchnad agored,” meddai wedyn.

“Trychineb” pe bai Plas Tan y Bwlch yn mynd i ddwylo “cyfalafwyr”

Catrin Lewis

Yn ôl Twm Elias, mae angen sicrhau cymorth ariannol yn y tymor byr, fel bod y Plas yn gallu parhau i weithredu er budd pobol leol yn y dyfodol