Mae un sy’n lesddeiliad yn adeilad Celestia ym Mae Caerdydd yn dweud bod problemau tân a diogelwch yr adeilad sy’n ymwneud â chladin yn y fflatiau’n “dominyddu” bywydau’r rhai sy’n byw ac yn berchen ar eiddo yno.

Fe fu Mark Thomas yn siarad â golwg360 am ei bryderon ef ac eraill am fyw mewn adeilad sydd â diffygion tân a diogelwch difrifol profedig.

Mae Mark Thomas yn annog Grŵp Gweithredu Celestia a’r Welsh Cladiators i fynd i’r afael â’r hyn mae’n ei ddisgrifio fel “trachwant corfforaethol” gan “bobol mewn siwtiau sgleiniog”.

Cafodd Grŵp Gweithredu Celestia, oedd ymhlith y cyntaf i dynnu sylw at ddatblygiad anniogel yng Nghymru, ei sefydlu yn 2019, gyda’r Welsh Cladiators yn dod i’r amlwg yn fuan wedyn.

Dywed Mark Thomas fod y ddau grŵp yn credu mai “nawr yw’r amser am ddeddfau a sancsiynau cadarn” ar ddatblygwyr yn sgil adroddiad ymchwiliad Grenfell gafodd ei gyhoeddi’n llawn yr wythnos ddiwethaf.

Beth sy’n digwydd yn Celestia?

Mae Mark Thomas yn berchen ar fflat yn adeilad Celestia ym Mae Caerdydd, gafodd ei adeiladu gan gwmni Redrow, ers 2007.

Fel eraill, fe wnaeth e brynu’r fflat ar sail addewid ei fod yn prynu eiddo mewn datblygiad o safon uchel ym Mae Caerdydd, sy’n newydd ac yn esblygu.

Dywed ei fod e, perchnogion a lesddeiliaid eraill wedi dod yn ymwybodol o ddiffygion tân yn 2019 yn sgil tân Grenfell, ond roedd diffygion eraill yn ymwneud â’r adeilad yn amlwg mor bell yn ôl â 2010.

Ar ôl tân Grenfell, fe ddaeth i’r amlwg nad oedd gan y wal allanol amddiffynfa rhag tân, sy’n wendid cyffredin ymhlith y miloedd o adeiladu fu’n destun archwiliadau ers y drasiedi.

Mae hyn yn golygu y byddai’r adeilad yn llosgi’n gynt nag un sydd â’r warchodaeth yn ei lle.

Ond roedd diffygion eraill, gan gynnwys ansefydlogrwydd yr adeilad, hefyd yn amlwg ers 2010.

Does gan yr adeilad ddim amddiffynfa rhag tân o fewn y wal, sy’n golygu y byddai’r adeilad yn llosgi’n gynt nag adeilad sydd â’r amddiffynfa honno yn ei lle.

Tra nad oes gan yr adeilad fflamadwy iawn ACM oedd wedi achosi cymaint o ddifrod yn Grenfell, mae gan Celestia gladin pren sydd hefyd wedi cael cryn sylw ers y tân yn Grenfell, ac mae angen ei adnewyddu – rhywbeth mae Redrow bellach wedi cytuno i’w wneud.

Yn 2019, cyflwynodd Gwasanaeth Tân ac Achub y De saith Rhybudd Gorfodi Tân (FEN) mae modd eu gorfodi yn ôl y gyfraith, ar Gwmni Rheoli Celestia oedd yn gofyn am weithredu ar unwaith.

Gallai peidio â chydymffurfio fod wedi golygu y byddai’n rhaid gwagio’r adeilad.

Roedd y gwaith adnewyddu’n golygu gosod systemau larwm tân newydd, cyflwyno oriawr ddeffro 24/7, a chydrannau tân mewnol oedd ar goll.

Talodd Redrow ryw £1.5m am y prosiect cydrannau tân a mesurau cysylltiedig.

Cafodd y gwaith cymhleth ei gwblhau yn ystod cyfnod Covid yn 2020-21, ond fe fu gofyn i Celestia fynd i’r afael â’r diffyg amddiffynfeydd allanol rhag tân a diffygion difrifol eraill.

Maes o law, llofnododd Redrow Gytundeb Datblygwyr Llywodraeth Cymru, ac maen nhw wedi ymrwymo’n gyhoeddus i drwsio amddiffynfeydd waliau allanol Celestia a diffygion eraill, ond mae nifer o faterion i’w datrys o hyd sy’n destun camau cyfreithiol hirdymor sy’n mynd yn ôl cyn Cytundeb Llywodraeth Cymru.

Mae grŵp bach o lesddeiliaid Celestia – ynghyd â’r Cwmni Rheoli CMCL – yn cymryd camau cyfreithiol sy’n anelu at ddarparu datrysiad ehangach i fethiannau Celestia.

“Ar hyn o bryd, os ydych chi’n byw mewn adeilad â diffygion tân ac adeiladu, mae gennych chi ddau opsiwn wrth geisio rhyw fath o iawndal,” meddai Mark Thomas wrth golwg360.

Naill ai mae modd dibynnu ar gytundeb datblygwyr Llywodraeth Cymru, sy’n union yr un fath â chytundeb datblygwyr Lloegr y cafodd datblygwyr eu gwthio, fwy neu lai, i’w lofnodi gan Michael Gove yn sgil trasiedi Grenfell.

Mae’r gwaith o dan y cytundeb hwnnw wedi’i gyfyngu i ddiffygion tân sy’n peryglu bywydau.

Dydych chi ddim yn gallu hawlio am unrhyw ddiffygion adeiladu difrifol eraill all fod yn eich adeilad, ac allwch chi ddim hawlio am gostau sy’n gysylltiedig â gosod larymau tân newydd neu oriawr ddeffro drud.

Ond mae Llywodraeth Cymru wedi galw’n barhaus ar i ddatblygwyr wneud y peth iawn a rhoi iawndal i lesddeiliaid am gostau ychwanegol – mae rhai wedi gwneud hynny, ond dydy eraill ddim.

Dydy datblygiadau unigol a’u lesddeiliaid ddim yn gweld cytundeb Llywodraeth Cymru gan ei fod rhyngddyn nhw a’r datblygwyr.

Yn ail, fel lesddeiliad, mae modd ceisio iawndal drwy hawlio yn unol â’r Ddeddf Mangreoedd Diffygiol, sy’n gallu rhoi mwy o iawndal i lesddeiliaid ac yn benodol yr hawl i hawlio am ddiffygion adeiladu difrifol nad ydyn nhw’n ymwneud â thân.

Mae hefyd yn rhoi’r hawl i hawlio am yr holl gostau ychwanegol mae lesddeiliaid wedi’u dioddef, ac yn ymestyn i golledion tymor hir posib yng ngwerth eiddo o ganlyniad i’r diffygion.

Mae cwmpas y Ddeddf yn fwy, ac mae’n rhoi ateb gwell i lesddeiliaid na natur eithaf cyfyng cytundeb Llywodraeth Cymru.

O ganlyniad i’r costau uchel iawn a’r peryglon yn ymwneud â hawlio yn ôl y ddeddf, mae’r rhan fwyaf o lesddeiliaid yng Nghymru a Lloegr wedi dewis defnyddio cytundebau datblygwyr eu llywodraethau.

Ond ryw ddwy flynedd yn ddiweddarach, mae nifer yn sylweddoli nad oes grym gan y cytundeb, ac mae’r gwaith o geisio datrysiad yn cymryd yn rhy hir.

Yn y cyfamser, mae lesddeiliaid yn parhau i gronni costau oriawr ddeffro, premiwm yswiriant uwch a mwy.

Cytundeb

Yn ôl Mark Thomas, nid gweithredu fel ‘rheolwr prosiect’ yw gwaith Llywodraeth Cymru o safbwynt dwsinau o gytundebau adeiladu cymhleth, ond yn hytrach fe ddylai’r llywodraeth ddeddfu a chyflwyno sancsiynau i orfodi datblygwyr i geisio datrysiad yn gyflym.

Dyma alwad sydd bellach yn cael ei hailadrodd yn Lloegr gyda’r Llywodraeth Lafur newydd.

Mae Mark Thomas yn honni nad yw datblygwyr fel Redrow “eisiau cymryd cyfrifoldeb” am y costau ychwanegol i lesddeiliaid sy’n cael eu dal yng nghanol yr argyfwng, gan eu bod nhw’n ymwybodol o raddfa’r costau ychwanegol tu hwnt i Celestia.

“Dw i’n ei gymharu ag achos y Swyddfa Bost, lle mae’r ’dyn mawr’ yn mynd yn erbyn y ’dyn bach’. Dafydd yn erbyn Goliath.

“Mae [Redrow] wedi ceisio taflu pob tacteg gyfreithiol i’n hatal ni, gan gynnwys ceisio gwrthod ein hachos yn y llys ryw ddwy flynedd yn ôl, toc cyn i newidiadau arwyddocaol i’r gyfraith gael eu cyhoeddi.

“Ond fe wnaethon ni oresgyn yr heriau, ac rydym yn benderfynol o hyd o geisio cyfiawnder.

“Mae’r diwrnod yn dod lle rydych yn codi ac yn meddwl, ‘Dyma’r sefyllfa waethaf dw i wedi bod yn rhan ohoni’.

“Does yna ddim adeg, bron, lle dw i ddim yn mynd i’r gwely yn meddwl am y sefyllfa, ac mae’r un yn wir pan dw i’n codi.

“Rydyn ni, fel tîm, wedi gwneud gwaith ardderchog i fynd i’r afael â’r diffygion yn yr adeilad [Celestia], ac mae e’n sicr yn fwy diogel nag erioed.

“Ond dydy hyn ddim yn rhwystro difrifoldeb y sefyllfa rhag effeithio ar fywydau dydd i ddydd.

“Dw i’n nabod trigolion eraill sydd wedi dioddef iechyd meddwl gwael ofnadwy o ganlyniad i’r hyn sydd wedi bod yn digwydd.

“Dw i ddim am enwi’r person yma, ond dw i wedi gweld eu bod nhw wedi gwaethygu oherwydd y pwysau.”

Dywed Mark Thomas ei fod yn adnabod nifer o gyplau oedrannus sydd wedi gwerthu eu fflatiau am hanner y pris gwreiddiol er mwyn cael dianc rhag y sefyllfa.

‘Colli allan er mwyn cael dianc’

Ychwanega Mark Thomas ei fod yn adnabod nifer o gyplau oedrannus sydd wedi gwerthu eu fflatiau am hanner y pris gwreiddiol, ac wedi prynu fflatiau llai o faint er mwyn cael dianc rhag y sefyllfa.

“Mae’r bobol hynny wedi dweud eu bod nhw’n gofidio beth fyddan nhw’n gallu ei adael i’w hwyrion a’u hwyresau,” meddai.

“Mae pobol ifanc hefyd yn dioddef gan eu bod nhw eisiau symud, a dydyn nhw ddim yn gallu gwneud hynny oherwydd y sefyllfa ariannol o ganlyniad i’r hyn sydd yn digwydd; pobol ifanc sydd eisiau cael plant, ond dydyn nhw ddim yn gallu.”

Dywed fod byw mewn adeilad anniogel yn “dominyddu bywydau” pob cenhedlaeth.

“A chofiwch, fe wnaeth pawb ohonom bopeth yn iawn, drwy sicrhau cyllid, morgais, cyfreithiwr, tirfesurydd, ac fe wnaeth pob un ohonyn nhw ddweud fod popeth yn barod,” meddai.

“Ychydig a wyddem y bydden ni’n diweddu i fyny ynghanol yr hunllef yma.”

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru a Redrow plc.