Mae ymgyrchydd gyda’r Welsh Cladiators yn dweud ei fod yn “amheus” a fydd unrhyw newidiadau mawr yn sgil adroddiad yr ymchwiliad i dân Tŵr Grenfell, sydd wedi’i gyhoeddi’r wythnos hon.
Ddoe (dydd Mercher, Medi 4), cafodd rhan derfynol yr adroddiad ei gyhoeddi, ac mae’n beirniadu cwmnïau adeiladu, llywodraethau San Steffan ers 1992 a’r awdurdod lleol yn Llundain.
Bu farw 72 o bobol, ac fe gafodd y tŵr o fflatiau yn Llundain, oedd yn gartref i fwy na 200 o bobol, ei ddinistrio ar Fehefin 14, 2017.
Mae’r Welsh Cladiators yn gweithredu ar ran pobol sy’n byw mewn adeiladau anniogel, ac mae un aelod, Mark Thomas, wedi bod yn ymladd achos yn erbyn y cwmni adeiladu Redrow yn sgil deunyddiau anniogel gafodd eu defnyddio ar ei fflat ym Mae Caerdydd.
O ran cael cyfiawnder i’r rhai sydd wedi dioddef, gan gynnwys dioddefwyr tân Tŵr Grenfell, mae’n cymharu’r sefyllfa â helynt gweithwyr Swyddfa’r Post gafodd eu cyhuddo ar gam o dwyll ariannol pan mai system gyfrifiadurol oedd ar fai.
“Rydym wedi bod yma o’r blaen, efo sgandal y Swyddfa Bost er enghraifft dros yr ugain mlynedd diwethaf,” meddai wrth golwg360.
“Ac mae’r tebygrwydd rhwng beth sydd wedi digwydd yma efo Grenfell a’r Swyddfa Bost yn glir.
“Mae yna anghydbwysedd mawr o ran pŵer rhwng sefydliadau corfforaethol a’r bobol fach; mae hyn yn amlwg iawn.
“Rwy’ wedi gweld yn fy achos llys fy hun fod y corfforaethau yma, yn syml, yn mynd i drïo gwario mwy na chi – a hefyd i chwarae pob trick in the book.”
‘Degawdau o fethiannau’
Yn ôl yr adroddiad, digwyddodd y tân yn Nhŵr Grenfell yn Llundain, oedd wedi arwain at 72 o farwolaethau, o ganlyniad i “ddegawdau o fethiannau” gan lywodraethau a’r diwydiant adeiladu.
Mae’r adroddiad 1,700 tudalen yn datgelu sut wnaeth nifer o unigolion a sefydliadau anwybyddu pryderon am ddiogelwch gan arbenigwyr a thrigolion sy’n byw mewn adeiladau â chladin tebyg i’r hyn oedd i’w weld yn Nhŵr Grenfell.
Daeth yr adroddiad i’r casgliad fod:
- Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ymwybodol o ddiogelwch gwael ers 1992, a thân mewn fflat ar lawr uchel adeilad yn Huyton, Glannau Mersi
- tystiolaeth yn dilyn profion diogelwch yn 2001 fod y deunydd yn “llosgi’n gyflym”, ond na wnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig ymateb
- y Sefydliad Ymchwil Adeiladu wedi cael ei ddylanwadu gan gwmnïau adeiladu gwael
- cwmnïau fel Arconic, sydd yn gwerthu’r deunydd, wedi “celu” y gwirionedd am ddifrifoldeb defnyddio’r deunydd mewn adeiladau
- “merry-go-round of buck-passing” wedi bod yn digwydd wrth gwblhau gwaith ar yr adeilad, a bod hynny wedi cyfrannu at ddirywiad yn niogelwch yr adeilad
- Gwasanaeth Tân Llundain yn amharod i ddelio â thân mewn fflat ar lawr uchel
Dywed llefarydd ar ran teuluoedd Grenfell eu bod nhw wedi cael eu “hesgeuluso gan anonestrwydd”.
“Rydym ni wedi dod i’r casgliad fod y tân yn Nhŵr Grenfell yn ganlyniad i ddegawdau o fethiannau gan y llywodraeth a chyrff eraill sydd â chyfrifoldeb yn y diwydiant adeiladu i edrych yn ofalus ar beryglon deunyddiau llosgadwy yn waliau allanol adeiladau uchel, ac i weithredu ar y wybodaeth oedd ar gael iddynt,” meddai Syr Martin Moore-Brooke, cadeirydd yr ymchwiliad.
“Y gwir syml yw y byddai’r holl farwolaethau wedi gallu cael eu hosgoi.”
Mewn datganiad yn San Steffan, dywedodd Syr Keir Starmer, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, fod teuluoedd Grenfell “wedi cael eu gadael i lawr mewn ffordd mor ddifrifol – cyn, yn ystod ac ar ôl y trychineb yma”.
“Ddylai hyn byth fod wedi digwydd,” meddai.
Canlyniadau
Bydd cwmnïau sy’n gysylltiedig â’r trychineb yn cael eu gwahardd rhag ennill cytundebau gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig o hyn ymlaen.
Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn disgwyl yr holl dystiolaeth erbyn dechrau 2026, ond bydd angen iddyn nhw ei hadolygu oherwydd bod “cymaint o dystiolaeth” ac o ganlyniad i “gymhlethdod yr achos”, ac felly fydd unigolion na sefydliadau ddim yn wynebu cyhuddiadau troseddol cyn diwedd 2026.
Wrth i Syr Keir Starmer gyhoeddi ei ddatganiad yn San Steffan, roedd gwasanaethau tân wedi cael ei galw i dân mewn fflat ar lawr uchel yn Catford yn Llundain.
Does dim awgrym fod gan y fflatiau yma yr un cladin â Thŵr Grenfell, ond mae’r ffaith ei fod wedi digwydd ar ddiwrnod cyhoeddi’r adroddiad yn siŵr o bwysleisio pwysigrwydd y mater i gymaint o bobol ledled y Deyrnas Unedig.