Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cyflwyno deddf i ddileu euogfarnau anghyfiawn dderbyniodd is-bostfeistri yng Nghymru a Lloegr fel rhan o sgandal Swyddfa’r Post.
Bydd y ddeddfwriaeth, sy’n cael ei chyflwyno dydd Mercher (Mawrth 13), yn gwrthdroi euogfarnau’r rhai a gafwyd yn euog ar sail methiannau ym meddalwedd y cwmni Horizon.
Fe fydd y Bil Troseddau Swyddfa’r Post (System Horizon) arfaethedig yn anelu at glirio enwau cannoedd o reolwyr canghennau Swyddfa’r Post a gafodd eu canfod yn euog ar gam.
Bydd yr euogfarnau’n cael eu dileu yn awtomatig os ydyn nhw’n cyrraedd y meini prawf.
Er mwyn defnyddio’r ddeddf mae’n rhaid bod yr unigolyn wedi eu herlyn gan Swyddfa’r Post neu Wasanaeth Erlyn y Goron ar gyfer troseddau a gyflawnwyd mewn cysylltiad â busnes Swyddfa’r Post rhwng 1996 a 2018.
Mae rhaid i’r erlyniad fod ar gyfer trosedd perthnasol megis lladrad neu gyfrifo ffug ac wedi ei wneud yn erbyn is-bostfeistri, eu gweithwyr, eu teuluoedd neu weithwyr oedd yn gweithio mewn Swyddfa Bost a oedd yn defnyddio meddalwedd system Horizon hefyd.
Cafodd mwy na 700 o is-bostfeistri eu herlyn gan Swyddfa’r Post rhwng 1999 a 2015.
“Y cyfiawnder maent yn ei haeddu”
Bydd y rhai sydd ag euogfarnau wedi’u gwrthdroi yn derbyn taliad interim gyda’r opsiwn o gymryd cynnig sefydlog o £600,000 ar unwaith.
“Rwyf am dalu teyrnged i’r holl is-bostfeistri sydd wedi dangos cymaint o ddewrder a dyfalbarhad yn eu hymgyrch ffyrnig dros gyfiawnder ac i’r rhai na fydd, yn drasig, yn gweld y cyfiawnder y maen nhw’n ei haeddu,” medd y Prif Weinidog Rishi Sunak.
“Er fy mod yn gwybod na all unrhyw beth wneud iawn am yr hyn maen nhw wedi bod drwyddo, mae’r ddeddfwriaeth heddiw yn nodi cam ymlaen pwysig wrth glirio eu henwau o’r diwedd.”
Bydd iawndal o £75,000 hefyd yn cael ei dalu i is-bostfeistri sydd heb eu herlyn ond sydd wedi gwneud iawn am y colledion ffug o’u pocedi eu hunain.
Yn lle hynny, gall pobol hefyd ddewis wynebu asesiad ble nad oes terfyn ar gyfer swm yr iawndal.
Gobaith Llywodraeth y Deyrnas Unedig yw y bydd y ddeddfwriaeth yn dod yn gyfraith cyn gwyliau’r haf, wedi iddi dderbyn cydsyniad brenhinol.
“Mae is-bostfeistri wedi bod yn brwydro dros gyfiawnder ers blynyddoedd, a gobeithio mai cyflwyno deddfwriaeth heddiw yw’r golau ar ddiwedd y twnnel y maen nhw wedi bod yn aros amdano,” medd Kevin Hollinrake, gweinidog Swyddfa’r Post.