Mae gwasg sydd ond yn cyhoeddi cyfieithiadau o lyfrau sydd wedi’u sgrifennu’n wreiddiol mewn ieithoedd lleiafrifol gan fenywod wedi gweithio â’r Gymraeg am y tro cyntaf.

Bydd cyfieithiad Saesneg Susan Walton o nofel Gymraeg Sian Northey, Yn y Tŷ Hwn, yn cael ei gyhoeddi gan 3TimesRebel wythnos nesaf.

Bibiana Mas, sy’n dod o Gatalwnia ond yn byw yn yr Alban, sy’n rhedeg y wasg a’i nod ydy “rhoi llais i’r anweledig”.

This House ydy’r chweched nofel i 3TimesRebel gyhoeddi ers i’r busnes gael ei sefydlu flwyddyn a hanner yn ôl.

Hyd yn hyn, maen nhw wedi cyhoeddi cyfieithiadau o nofelau Catalaneg, Galiseg, Basgeg a Fflemeg, ac mae llyfrau Cwrdeg ac Astwrieg ar y ffordd.

‘Gwneud menywod yn weladwy’

Er ei bod hi wedi gweithio fel llyfrwerthwr ac wedi gwneud gradd feistr mewn Cyhoeddi, doedd gan Bibiana Mas, sy’n byw ac yn gweithio yn Dùn Dè (Dundee), ddim mwy o brofiad yn y maes cyn sefydlu’r wasg.

Ar ôl mynd drwy ysgariad a bod allan o’r byd gwaith am tua phedair blynedd cyn hynny wrth fagu’i phlant, penderfynodd ddychwelyd i fyd gwaith.

Ond methodd â dod o hyd i waith, ac arweiniodd hynny at sefydlu’r wasg.

“Roeddwn i’n anweledig, ac fe wnaeth hynny wneud i fi deimlo’n rhwystredig iawn,” meddai wrth golwg360.

“Meddyliais, pam na wnâi ddefnyddio’r holl rwystredigaeth a gwylltineb o fod yn anweledig fel menyw, achos fy mod i wedi penderfynu magu fy mhlant am ychydig flynyddoedd, a dilyn breuddwyd o sefydlu gwasg fy hun.

“Roedd y ffocws yn glir, gwneud menywod yn weladwy. Rydyn ni wastad un cam tu ôl i bawb.

“Beth yw’r peth arall sydd ddim yn cael ei weld na’i glywed yn aml? Lleisiau awduron sy’n sgrifennu’n wreiddiol mewn iaith leiafrifol.

“Yng Nghatalwnia, mae hi’n anodd cael eich gwaith wedi’i gyfieithu i Saesneg, dw i’n dychmygu bod yr un yn wir yng Nghymraeg.

“Dw i’n canolbwyntio ar roi llais i’r anweledig.”

‘Diddordeb mawr mewn cyfieithiadau o’r Gymraeg’

Cafodd Yn y Tŷ Hwn ei gyhoeddi’n wreiddiol yn 2011, ac mae’r nofel yn ymdrin â galar, unigedd ac angen menyw i gael ei rhyddhau oddi wrth ei gorffennol.

Dyma’r tro cyntaf i Bibiana Mas weithio gyda’r Gymraeg, a daeth Susan Walton, sydd wedi bod yn cyfieithu llyfrau o’r Gymraeg i Saesneg i Wasg Carreg Gwalch ers 2009, ati gyda’r cais a’r cyfieithiad.

Mae llwyddiant diweddar y cyfieithiad Saesneg o Llyfr Glas Nebo gan Manon Steffan Ros, wnaeth ennill gwobr Yoto Carnegie, yn dangos “bod y byd yn barod am gyfieithiadau o lyfrau Cymraeg”, medd y wasg.

“Mae’n gyffrous iawn, mae wedi bod yn brofiad hyfryd [gweithio â’r Gymraeg],” ychwanega Bibiana Mas.

“Dw i’n gallu gweld o’r cyfryngau a blogiau llyfrau bod diddordeb mawr mewn cyfieithiadau Saesneg o lyfrau Cymraeg.

“I fi, mae cael rhywun o’r Deyrnas Unedig yn bwysig, i roi llais i ieithoedd sy’n eu hanghofio yma hefyd.

“Cymraeg ydy’r gyntaf, a gobeithio y bydd gen i Gaeleg ryw ddiwrnod hefyd.

“Dw i’n hapus iawn i weithio gyda’r Gymraeg, a dw i’n awyddus i gael mwy o awduron Cymraeg.”

  • Bydd This House allan ar Fawrth 21.