Mae’r frwydr i sicrhau statws swyddogol i’r iaith Gatalaneg yn yr Undeb Ewropeaidd wedi cymryd cam ymlaen, wrth i Sbaen a Gwlad Pwyl baratoi i drafod y mater.
Cynrychiolydd o Wlad Pwyl fydd Llywydd nesaf Cyngor Ewrop o Ionawr 1.
Mae Sbaen eisoes wedi gwneud cais i sicrhau statws swyddogol i’r Gatalaneg, y Fasgeg a’r Galiseg.
Fe fu José Manuel Albares, Gweinidog Tramor Sbaen, a Radoslaw Sikorski, Gweinidog Tramor Gwlad Pwyl, yn cynnal trafodaeth ddoe (dydd Llun, Rhagfyr 16), ac maen nhw wedi cytuno i gyfarfod â’u hysgrifenyddion gwladol yn yr Undeb Ewropeaidd “yn fuan”.
Fis Rhagfyr y llynedd, nododd adroddiad y gallai gostio hyd at €132m i sicrhau statws swyddogol i’r ieithoedd.
Statws swyddogol a’r frwydr dros annibyniaeth
Daeth y cais gwreiddiol am statws swyddogol i’r Gatalaneg y llynedd.
Roedd yn un o ofynion plaid Esquerra Republicana pe baen nhw’n cefnogi ymgais Pedro Sánchez, Prif Weinidog Sbaen, i gael ei ailethol.
Cafodd y mater ei drafod sawl gwaith tra mai Gwlad Belg oedd wrth y llyw ar frig Cyngor Ewrop, ond doedden nhw ddim wedi gallu dod i gytundeb.
Er mwyn i’r ieithoedd ddod yn swyddogol yn Ewrop, byddai angen cydsyniad pob un o’r 27 o wledydd sy’n aelodau.
Ond mae nifer o wledydd, gan gynnwys y Ffindir, yn gwrthwynebu rhoi statws swyddogol i’r ieithoedd, a hynny yn sgil y gost a’r gwaith fyddai angen ei wneud er mwyn cyfieithu dogfennau a gwefannau swyddogol.
Dywed Gwlad Pwyl eu bod nhw’n barod i drafod y mater pe bai digon o gefnogaeth ymhlith aelodau Cyngor Ewrop.
Cefnogaeth
Fis Gorffennaf, cyhoeddodd Roberta Metsola, Llywydd Senedd Ewrop, y gallai’r mater fod yn destun dadl yn ystod y tymor presennol.
Er mwyn sicrhau bod modd defnyddio’r Gatalaneg yn Senedd Ewrop, byddai angen cefnogaeth saith is-lywydd.
Gan fod gan Sbaen gynrychiolydd ar y bwrdd newydd, mae’n bosib y gallai hynny ddigwydd yn gynt na’r disgwyl.