“Clyfar ta rhy wirion?” Dyna’r cwestiwn mae Gwilym Dwyfor, colofnydd Golwg, yn ei godi ar ôl gwylio cyfres newydd Michael Sheen.
The Way sydd dan y chwyddwydr ym mhennod ddiweddaraf podlediad Golwg, Ar y Soffa.
Mae’r gyfres, sydd wedi cael ei chreu gan James Graham, Michael Sheen ac Adam Curtis, wedi’i gosod yn y 2020au ac yn dilyn teulu sy’n ceisio dianc o wledydd Prydain yn sgil gwrthdaro sifil gwrth-Gymreig yn dilyn terfysgoedd ym Mhort Talbot.
Ond mae argraff Gwilym Dwyfor a’i gyd-adolygydd Kate Woodward, sy’n ddarlithydd Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth, ohoni yn eithaf cymysg.
Mae’r gyfres, sy’n cynnwys actorion fel Michael Sheen, Steffan Rhodri, Mali Harries a Mark Lewis Jones, wedi derbyn ymateb cymysg gan adolygwyr teledu’n gyffredinol hefyd.
“Y prif air, y gair cyntaf i mi sgrifennu [yn fy nodiadau] oedd ‘dystopaidd’,” meddai Gwilym Dwyfor ym mhennod ddiweddaraf Ar y Soffa, sydd allan heddiw (Mawrth 14).
“Mae o’n eithaf clyfar yn y ffordd mae o ar y ffin rhwng bod yn hollol swreal a bod yn hollol absẃrd a hollol afrealistig, ond eto mae o bron iawn yn gredadwy hefyd.
“Mae o’n troedio rhwng cydbwysedd, weithiau roeddwn i’n ffeindio fo’n mynd i wneud fi feddwl: ‘Ydy hwn yn glyfar ta ydy o jest yn mynd ychydig bach yn rhy wirion rŵan?’”
‘Cymysglyd’
Defnyddia’r gyfres ddarnau ffilm o’r archif hefyd, ac mae’r pentyrru yn “creu cyfanwaith sy’n teimlo’n gymysglyd”, meddai Kate Woodward.
“Mae o wedi ei wreiddio yn ein hanes ni fel cenedl, ond ar yr un pryd mae e’n pentyrru mythau hefyd, mythau sydd yn bodoli yn yr ardal felly dydyn nhw ddim yn mythau sydd wedi eu creu ar gyfer y gyfres,” meddai.
“Maen nhw’n taflu llwyth o bethau atom ni, ac efallai gyda thair pennod does dim amser i’r pethau yma setlo a dwyn ffrwyth ymhellach yn y gyfres – [maen nhw’n] cael eu cyflwyno a’u defnyddio yn syth.
“Felly roedd yr holl beth yn teimlo ychydig bach yn wallgof yn y bennod gyntaf, i fi ta beth!”
Gallwch wrando ar y podlediad yma, ac mae’r penodau blaenorol yn trafod Bariau a Pren ar y Bryn ar gael hefyd.