Bydd y Gymraes Amy Dowden yn holliach i ddawnsio yn ystod taith Strictly Come Dancing.
Cafodd y ddawnswraig 34 oed anaf i’w throed, oedd wedi ei chadw hi allan o ddiwedd y gyfres, wrth i’w phartner JB Gill o’r band JLS gyrraedd y rownd derfynol.
Dychwelodd hi i’r gyfres yn gynharach eleni yn dilyn triniaeth am ganser y fron.
Bydd JB Gill hefyd yn dawnsio gyda Lauren Oakley, oedd wedi bod yn eilydd i Amy Dowden yn niwedd y gyfres.
Bydd y canwr Opera Wynne Evans hefyd yn cymryd rhan yn y daith.
Cafodd y gyfres ei hennill gan y digrifwr Chris McCausland, oedd wedi colli ei golwg yn oedolyn ifanc, ond fydd e ddim yn rhan o’r daith oherwydd ei ymrwymiadau yn y byd comedi.
Bydd y daith, sy’n dechrau ar Ionawr 17, yn mynd i Sheffield, Newcastle, Glasgow, Lerpwl, Leeds, Manceinion a Nottingham, gan orffen yn yr O2 Arena yn Llundain ar Chwefror 9.
Bydd y beirniaid – Shirley Ballas, Anton Du Beke, Craig Revel Horwood a Motsi Mabuse yn ymddangos yn ystod y daith hefyd.