Dyma gyfres newydd sy’n agor y drws ar rai o gaffis Cymru, lle byddwn ni’n siarad efo perchnogion y busnesau yma sydd, yn aml, yn ganolbwynt y gymuned. Y bwyd, y coffi, y cwsmeriaid, yr heriau a’r troeon trwstan – bydd digon ar y fwydlen i gnoi cil drosto.

Yr wythnos hon, Hana Dyer, perchennog Nest yn Rhuthun, Sir Ddinbych sy’n cael sgwrs dros baned efo golwg360


Rydan ni wedi bod ar agor rŵan ers bron i bedwar mis, ac yn dal i drio cyfarwyddo efo bob dim ar ôl agor yng nghanol prysurdeb gwyliau’r haf – roedd hi’n wallgof! Tan fis Ebrill eleni ro’n i’n berchen ar siop goffi llawer llai yn y dref. Ar ôl rhedeg Y Caban am bum mlynedd roedd hi bendant yn amser ehangu i safle mwy, lle ro’n i’n gallu cynnig lot mwy.

Caffi Nest, Rhuthun

Rydan ni’n gweini coffi a chacen ar hyn o bryd, a’r syniad ydy gwneud brecinio a chinio (ac efallai clwb swper bob mis) yn y flwyddyn newydd. Mae hyn yn rhywbeth roedden ni wedi bwriadu gwneud yn syth ar ôl agor, ond mae wedi bod mor brysur ers y diwrnod cyntaf, wnaethon ni benderfynu cyflwyno pethau’n araf.

Un o gacennau Marina

Mae ein cwsmeriaid i gyd mor wahanol, mae’n wych ein bod ni’n gallu cynnig rhywbeth ar gyfer cymaint o wahanol grwpiau. Mae gynnon ni bobl sy’n dod i mewn ar eu pen eu hunain gyda llyfr am ychydig o lonyddwch a thawelwch, teuluoedd, ffrindiau’n dal i fyny dros goffi, mamau newydd, neiniau a theidiau yn dod â’r wyrion am drît ar ôl ysgol, mae’n eang iawn.

Matcha latte a chacen yn Nest

Rydan ni’n gwneud ein gorau i gadw popeth mor lleol â phosibl – rydan ni’n cael ein cacennau gan Marina (Marina’s Italian Cookery), a Dafydd (Welsh Whisk) – mae’r ddau yn lleol i Ruthun; mae’n llefrith yn dod o fferm Pentrefelin yn Llandyrnog, daw’r coffi o Wrexham Bean, ac mae’r blodau sych bendigedig yn cael eu gwneud gan yr hyfryd Sioned [Edwards] Pont y Tŵr [ger Rhuthun]. Os ydan ni’n cefnogi busnesau lleol, mae’r arian yn mynd mewn i’n heconomi leol ac mae’n golygu ein bod ni hefyd mor gynaliadwy â phosib.

Mae’r addurniadau blodau sych gan Sioned Edwards o Bont y Twr

Rydan ni wedi dechrau cynnal digwyddiadau cerddoriaeth fyw bob mis. Mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n fandiau o’r ardal leol – mae’n dda gallu hyrwyddo bandiau newydd ac mae’n golygu bod pobl yn dod i adnabod bandiau lleol sydd wir yn gwneud cerddoriaeth wych. Yn ystod y digwyddiadau yma rydan ni’n cynnig amrywiaeth o gwrw lleol, fel Wild Horse o Landudno, coctêls, a gwirodydd unigryw fedrwch chi ddim prynu mewn archfarchnad. Dydd Sadwrn yma (Rhagfyr 14) mae gynnon ni Doggy LeBosch yn perfformio a Jacob Elwy y penwythnos wedyn. ‘Dan ni’n gobeithio dod ag ychydig o adloniant i Ruthun cyn y Nadolig!

Y clwb rhedeg sy’n dechrau ac yn gorffen yn Nest

I’r rhai sydd eisiau gwneud rhywbeth mwy iachus, ‘dan ni newydd ddechrau clwb rhedeg ein hunain bob nos Iau am 7pm. Mae’n addas ar gyfer pobl o bob gallu, ac yn fwy o glwb cymdeithasol. Ar ddiwedd y 5k mae pawb yn dod at ei gilydd am goffi a sgwrs, ac mae gostyngiad o 10% i’r rhedwyr.

Yr awyrgylch cartrefol yn Nest, Rhuthun

Mae yna heriau i redeg siop goffi, yn enwedig gan nad ydw i’r person mwya’ trefnus! Ond mae mwy o fanteision nag anfanteision – ‘dan ni’n cyfarfod pobl newydd ac yn gweld wynebau cyfarwydd bob dydd, mae ein cwsmeriaid rheolaidd yn teimlo fel teulu erbyn hyn a dw i’n teimlo’n ffodus iawn i gael y gefnogaeth yna bob dydd.

Caffi Nest yn nhref Rhuthun, Sir Ddinbych