Mae “cais anghyffredin” i newid enw cymuned wedi cael ei gymeradwyo gan Gyngor Gwynedd.

Mae Cyngor Cymuned Llanaelhaearn wedi llwyddo yn eu cais i newid yr enw er “tegwch” i boblogaeth fawr pentref cyfagos.

Roedd Cyngor Gwynedd wedi derbyn y cais gan Gyngor Cymuned Llanaelhaern i ddiweddaru’r enw hanesyddol – o ‘Llanaelhaearn’ i ‘Trefor a Llanaelhaearn’.

Cafodd y newid ei gymeradwyo gan gynghorwyr yng nghyfarfod llawn Cyngor Gwynedd ddydd Iau diwethaf (Rhagfyr 5).

Cefndir

Roedd yr enw gwreiddiol wedi deillio o’r hen drefn blwyfol, gyda’r hen blwyf eglwysig yn cael ei alw’n ‘Llanaelhaearn’, medd dogfen y cyngor cymuned.

Mae eglwys Llanaelhaearn yn dyddio’n ôl i’r chweched ganrif, a daeth plwyf Llanaelhaearn yn enw gan lywodraeth leol ar gyfer ardal “eang, wasgaredig” o’r unfed ganrif ar bymtheg, medd yr adroddiad.

Eglurodd llythyr at Gyngor Gwynedd gan y cyngor cymuned lleol mai pentref cyfagos Trefor yw ardal fwyaf poblog y gymuned bellach – ond nad oedd yr enw’n cael ei gydnabod yn enw’r gymuned newydd.

Roedd data diweddar wedi dangos bod 511 o etholwyr yn Nhrefor, a 287 yn Llanaelhaearn.

“Dylid nodi bod yna ddeuddeg o gynghorwyr cymuned, ac mai’r trefniant yw fod dau draean – wyth o’r deuddeg – yn cynrychioli pentref Trefor,” meddai’r llythyr.

Dywed fod y cyngor cymuned wedi derbyn llythyr gan drigolion Trefor fis Medi 2021 yn galw am “degwch i bentref Trefor”.

‘Hawl’

Wrth gyflwyno’r mater, dywedodd y Cynghorydd Menna Trenholme, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Corfforaethol a Chyfreithiol, ei fod yn “gais anghyffredin”.

“Mae gan Gyngor Gwynedd yr hawl i newid enw cymuned os daw cais gan y cyngor cymuned perthnasol,” meddai.

“Yr argymhelliad ydy bod yr enw’n cael ei newid o ‘Llanaelhaearn’ i ‘Trefor a Llanaelhaearn’.”

Fe wnaeth cynghorwyr gymeradwyo’r cais, gyda 53 yn pleidleisio o blaid.

Bydd hysbysiad yn cael ei ddanfon at weinidogion yn Llywodraeth Cymru, y Comisiwn Ffiniau i Gymru, Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Arolwg Ordnans, a’r Cofrestrydd Cyffredinol, a bydd yr hysbysiad yn cael ei gyhoeddi.

Ar hyn o bryd, mae Cyngor Gwynedd yn cwblhau proses Arolwg Cymunedol yn unol â Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) Cymru 2013, gan edrych ar ffiniau cymunedol a threfniadau etholiadol.

Ond wnaeth y broses honno ddim cynnig modd i newid enw cymuned bresennol, meddai adroddiad y Cyngor.