Mae Eluned Morgan wedi bod yn wynebu’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog heddiw (dydd Gwener, Rhagfyr 13), gyda phwyslais arbennig ar berthynas Cymru ag Ewrop a gweddill y byd.
Dywed y Prif Weinidog ei bod hi eisiau “perthynas mor agos ag sy’n bosib efo’r Undeb Ewropeaidd”, ond fod hynny’n ddibynnol ar rannu’r un safbwyntiau.
Daw hyn ar ôl i’r Canghellor Rachel Reeves fod yn galw am “ailosod y berthynas” â’r Undeb Ewropeaidd.
Pwysleisia Eluned Morgan hefyd fod cael dau Aelod Seneddol o Gymru yn weinidogion yng nghabinet Keir Starmer yn gyfrifol am gydberthynas ryngwladol – Nick Thomas-Symonds (Torfaen) a Stephen Doughty (De Caerdydd a Phenarth) – yn fanteisiol.
Dywed ei bod hi eisoes wedi cynnal trafodaethau â Nick Thomas-Symonds am y mater.
“Felly, mae gennym ni ddau berson Cymreig mewn swyddi allweddol yn nhermau cydberthynas ryngwladol nawr,” meddai.
Amcanion
Er nad yw’r rhan fwyaf o’r elfennau sy’n ymwneud â’r berthynas newydd â’r Undeb Ewropeaidd wedi’u datganoli, dywed Eluned Morgan fod yna amryw o feysydd mae Llywodraeth Cymru wedi’u nodi’n amcanion pwysig.
Un yw’r Cytundeb Milfeddygol, i’w gwneud hi’n haws i anifeiliaid anwes gael eu cludo o wledydd yr Undeb Ewropeaidd i Gymru.
Dywed Eluned Morgan ei bod hi eisiau “cydnabyddiaeth o gymwysterau proffesiynol” ac “ailymuno” mewn rhaglenni fel Erasmus – cynllun sy’n galluogi myfyrwyr o Ewrop i astudio yn y Deyrnas Unedig ac i’r gwrthwyneb.
“Rydyn ni wedi bod yn glir ein bod ni eisiau perthynas mor agos ag sy’n bosib [â’r Undeb Ewropeaidd],” meddai.
‘Y Deyrnas Unedig wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd i lawr’
O ran y berthynas yn fwy cyffredinol, dywed Eluned Morgan fod y berthynas agos rhwng llywodraethau Cymru ac Iwerddon yn ei galluogi hi i gael gwell syniad o’r hyn mae’r Undeb Ewropeaidd yn ei feddwl am y gwaith ailosodiad sydd ar y gweill.
Dywed ei bod hi’n amlwg fod “yr Undeb Ewropeaidd efallai yn eithaf trist” yn sgil penderfyniad y Deyrnas Unedig i adael yn 2016.
“Felly, dydy e ddim fel pe baen ni’n gallu mynd i mewn yno a mynnu bod yn rhan o hyn a’r llall,” meddai.
“Dw i’n meddwl ein bod ni wedi’u gadael nhw i lawr.”
Ychwanega fod diogelwch cenedlaethol yn faes lle mae llawer o debygrwydd o ran amcanion polisi ar draws y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd, yn wyneb bygythiad gan wledydd fel Rwsia.
‘Ffocws ar gyflawni’
Dywedodd Eluned Morgan wrth y pwyllgor ei bod hi’n awyddus i “ganolbwyntio ar gyflawni” yn lle creu strategaethau newydd – rhywbeth mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn beirniadaeth am ei wneud ers nifer o flynyddoedd.
“Dw i eisiau i ni fod yn rhagweithiol, yn hytrach bod yn ymateb i’r pethau sydd yn bwysig i ni,” meddai.
“Mae hyn yn gallu bod yn anodd, oherwydd ein bod ni’n gorfod dweud efallai ei bod hi ond yn bosib cyfarfod unwaith neu ddwywaith y flwyddyn.”
Yn allweddol i lwyddiant Strategaeth Ryngwladol Llywodraeth Cymru mae’r Gynhadledd Buddsoddi yng Nghymru, sydd “yn debygol o ddigwydd yn ystod yr hydref flwyddyn nesaf”, medd Eluned Morgan.
Dadansoddiad Rhys Owen, Gohebydd Gwleidyddol golwg360:
Roedd nifer o negeseuon cryf yn y sesiwn craffu y bore ’ma.
Y gyntaf oedd y pwyslais ar “gyflawni” yn lle creu strategaethau. Mae Llywodraeth Cymru wedi cael eu beirniadu yn sgil hyn dros y blynyddoedd, ac mae’n amlwg fod Eluned Morgan yn deall bod cyflawni yn bwysicach na chreu strategaethau wrth i ni symud i mewn i 2025.
Hefyd, roedd y neges yn glir i Keir Starmer. Mae Llywodraeth Cymru eisiau closio “mor agos ag sy’n bosib” at yr Undeb Ewropeaidd. Efallai, efo’i hanes hi yn Aelod o Senedd Ewrop, mae modd gweld rhywfaint o resymeg y tu ôl i’w barn hi.
Dydi Syr Keir Starmer ddim wedi mynd mor bell â dweud hyn, ond mae’n amlwg fod yna ymdrech i geisio “ailosod” ac adfywio’r berthynas dros y blynyddoedd sydd i ddod.