Er bod digwyddiadau yn y Dwyrain Canol yn aml yn medru ymddangos yn anghysbell neu’n aneglur i ni yma yng Nghymru, mae gan Gymru ddylanwad byd-eang go iawn a dyletswydd i gydnabod hynny, yn ôl Llywydd Cymdeithas Gwrdaidd Cymru Gyfan.
Fe fu Salah Rasool yn siarad â golwg360 am y bennod ddiweddaraf yn hanes Syria.
Wrth drafod hanes y Cwrdiaid sydd bellach wedi ymgartrefu yng Nghymru, a’r cysylltiadau rhwng y ddwy genedl, fe fu’n tynnu sylw at bwysigrwydd undod a chyd-ddealltwriaeth rhwng diwylliannau lleiafrifol y byd.
‘Dim dewis ond ffoi’
Cenedl heb wladwriaeth ydy Cwrdistan, sydd â’i thiriogaeth hanesyddol wedi’i rhannu rhwng pedair gwlad yng ngorllewin Asia, sef Twrci, Syria, Irac ac Iran.
Fel yr eglura Salah Rasool, mae’r Cwrdiaid “yn ei chanol hi” bob tro mae gwrthdaro mawr yn y Dwyrain Canol.
Mae’r Cwrdiaid wedi’u gorthrymu ers amser maith, meddai, ond fe ddechreuodd y sefyllfa waethygu yn y 1990au, pan oedd y Cwrdiaid yng ngogledd Iraq yn nwylo’r unben Saddam Hussein.
Dyna pryd ddechreuodd yr allfudo o Gwrdistan tua’r Gorllewin – i Ganada, yr Almaen a’r Deyrnas Unedig.
“Yn y 1960au a’r 1970au, roedd y rhan fwyaf o bobol Gwrdaidd yma yn y Deyrnas Unedig yn astudio gydag ysgoloriaeth,” meddai Salah Rasool wrth golwg360.
“Lleiafrif bychan iawn oedd y rheiny.
“Ond yn dilyn trais a chyflafan Saddam, doedd dim dewis gan lawer o bobol ond ffoi.”
Yn y 30 mlynedd ddiwethaf, dim ond gwaethygu wnaeth y sefyllfa.
Mae cwymp Saddam Hussein, goresgyniad Irac gan yr Unol Dalieithau a’r Deyrnas Unedig, y rhyfel cartref yn Syria, twf y grwpiau Islamyddol ISIS ac Al-Qaeda, ac erledigaeth gynyddol gan Dwrci wedi cyfrannu at sefyllfa fregus iawn yng Nghwrdistan, gan ysgogi mwy a mwy o Gwrdiaid i symud oddi yno.
“Mae cynnydd sylweddol o ran mewnfudwyr o Gwrdistan wedi bod yn y deng mlynedd ddiwethaf,” meddai Salah Rasool, oedd wedi mudo i Abertawe yn 2002, ac sydd bellach yn un o benaethiaid Cyngor Ffoaduriaid Cymru.
“Pan ddes i i Gymru yn wreiddiol, dim ond rhyw bymtheg o bobol Gwrdaidd oedd yn byw yn Abertawe.
“Erbyn hyn, mae’n agosach at 4,000.
“Mae’r un cynnydd wedi bod ledled Cymru.”
‘I gyd yn alltud’
Y cynnydd hwn yn y boblogaeth Gwrdaidd oedd yn gyfrifol am benderfyniad Salah Rasool i sefydlu Cymdeithas Gwrdaidd Cymru Gyfan.
“Roedd rhwydwaith o’r enw ‘Cymru Cwrdi’ yn bodoli ers 2014,” meddai.
“Yna, yn ystod y cyfnod clo, fe ddaeth criw ohonon ni at ein gilydd a phenderfynu y bydden ni’n hoffi ceisio trefnu gweithgareddau cymunedol yn fwy cyson, yn enwedig am fod cynifer ohonon ni wedi magu’n plant ni yma ac eisiau i’r genhedlaeth newydd fedru cynnal ein diwylliant a’r iaith.”
Mae acronym Saesneg y gymdeithas – KAWA – yn cyfeirio at un o arwyr chwedlonol y Cwrdiaid, y gof Kawe-y Asinger, arweinydd gwrthsafiad hynafol yn erbyn gorchfygiad y genedl.
“Mae hyrwyddo cyfunedd y gymuned, sy’n aml yn rhanedig yng Nghwrdistan am ein bod ni’n perthyn i bedair gwladwriaeth wahanol, yn gyfle mae bod yng Nghymru wedi’i gynnig i ni am y tro cyntaf,” meddai Salah Rasool.
“Cwrdiaid o Dwrci, o Irac, o Syria – rydyn ni i gyd yn alltud oherwydd ein hunaniaeth ni, ac yn medru uniaethu â’n gilydd oherwydd hynny.”
Mae’r gymdeithas yn trefnu digwyddiadau cymdeithasol ar gyfer gwyliau pwysig, yn cynnal dosbarthiadau dysgu Cwrdeg, ac yn trafod ac yn cydweithredu gyda Llywodraeth Cymru am faterion pwysig.
Cymry a Chwrdiaid yn “deall ein gilydd”
Wrth drafod y gwaith ymgyrchu mae’r Gymdeithas yn cyfrannu ati, dywed Salah Rasool fod “Cymru wedi bod gymaint yn fwy agored a chroesawgar na Lloegr” i’r Cwrdiaid.
“Mae hynny’n rhannol oherwydd polisi Cenedl Noddfa Llywodraeth Lafur Cymru, a’r agwedd greulon oedd gan y Llywodraeth Geidwadol yn Lloegr,” meddai.
Yn 2019, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i gynllun Cenedl Noddfa’r Cenhedloedd Unedig i wneud eu gorau i warchod ffoaduriaid a cheiswyr lloches.
“Mae’r ffoaduriaid a’r ceiswyr lloches sy’n ceisio dod yma wedi sylwi ar hynny, ac yn gwerthfawrogi’r peth,” meddai wedyn.
Ond y tu hwnt i bolisi mewnfudo’r Llywodraeth, mae rhinweddau eraill gan Gymru sydd at ddant y Cwrdiaid.
Mae Salah Rasool yn credu bod tirwedd Cymru’n atgoffa nifer o’i gyfeillion o Gwrdistan, sydd hefyd yn hynod wyrdd a mynyddig.
Yn ogystal, meddai, “mae’r Cwrdiaid a’r Cymry yn medru deall ei gilydd”.
“Mae bod mewn cymuned leiafrifol, yn enwedig cymuned ieithyddol leiafrifol, mewn gwladwriaeth fwy yn brofiad hynod benodol.
“Mae Arabiaid a Thwrciaid yn y Dwyrain Canol, yr un fath â Saeson yn y Deyrnas Unedig, yn aml yn cwestiynu gwerth dysgu iaith leiafrifol, neu gynnal diwylliant lleiafrifol.
“Ond mae cenhedloedd bychain sydd wedi’u gorthrymu’n hanesyddol yn deall.”
Dywed fod hanes gwrthsafiadau’r Gwyddelod ac, o ganlyniad, hanes y gwledydd Celtaidd eraill, yn gyfarwydd i nifer o bobloedd gorthrymedig y Dwyrain Canol ac yn ysbrydoliaeth iddyn nhw.
“Dyna un o’r prif resymau roeddwn i eisiau dod yma i Gymru,” meddai.
‘Pryderus iawn’
Mae Salah Rasool wir am i’r Gymdeithas fedru “addysgu pobol yma yng Nghymru” am y sefyllfa yn y Dwyrain Canol, yn enwedig yn sgil cwymp yr arweinydd Bashar al-Assad yn Syria yn ddiweddar, sy’n peri gofid i Gwrdiaid.
Yn ystod y rhyfel cartref, llwyddodd Cwrdiaid Syria a’u cynghreiriaid i sefydlu llywodraeth ddemocrataidd, sosialaidd a seciwlar yng ngogledd-ddwyrain y wlad.
Cytunodd llywodraeth wan Assad i drefnu cadoediad gyda nhw, ond mae’r gyfundrefn newydd yn Damascus, sydd â gwreiddiau Islamyddol, yn fygythiad i’r setliad hwn.
Mae pryderon fod Twrci’n cefnogi’r grwpiau hyn, fel rhan o’u hymdrechion i leihau dylanwad y Cwrdiaid a’u gallu i alw am hunanlywodraeth.
“Rydyn ni i gyd yn falch fod Assad wedi gadael, ond does dim llawer o hyder gennym ni y bydd y llywodraeth newydd lawer gwell,” meddai.
“Ac am fod Twrci’n aelod pwysig o gynghrair NATO, rydyn ni’n gofidio na fydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ddigon dewr i’w gwrthwynebu.”
Ar ben bygythiad Twrci, mae Israel wedi manteisio ar wendid Syria i gipio rhagor o diriogaeth yn ne-orllewin y wlad.
Mae’r gymuned yma yng Nghymru yn “bryderus iawn” am eu teuluoedd a’u ffrindiau sy’n byw yno o hyd.
‘Pa warantu?’
Mae polisïau mewnfudo a cheisiadau lloches Llywodraeth Lafur newydd y Deyrnas Unedig yn ychwanegu at eu rhwystredigaeth hefyd.
Mae’r Llywodraeth Lafur yn San Steffan wedi cyhoeddi eu bod nhw am rewi ceisiadau lloches o Syria, er gwaetha’r amheuon na fydd heddwch yn y wlad am amser maith.
Mae Salah Rasool yn pwysleisio’n danbaid fod hyn yn groes i amcanion y Llywodraeth i leihau nifer y ceisiadau wrth gefn yn y Deyrnas Unedig.
“Am beth gwirion.
“Am beth hollol ddianghenraid.
“Am beth mor afrealistig i’w wneud yn ystod y cyfnod bregus hwn, pan fo cyfundrefn newydd â gwreiddiau Islamyddol yn llywodraethu yn Syria.
“Pa warantu sydd gan fenywod, pobol LDHT, lleiafrifoedd ethnig a chrefyddol yn Syria nawr?
“Mae angen bod pobol Cymru, pobol y Deyrnas Unedig, yn medru amgyffred hynny, ac yn medru amgyffred y gwahaniaeth mae eu gwlad nhw’n medru ei wneud.”