Mae Cyngor Gwynedd wedi pleidleisio o blaid cefnogi galwadau Siân Gwenllian i sefydlu ysgol ddeintyddol ym Mangor.
Cafodd y cynnig gan y Cynghorydd Elin Walker Jones, cynghorydd ward Glyder, ei basio yng nghyfarfod llawn y Cyngor, gan nodi’r “prinder sylweddol o wasanaethau deintyddol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng ngogledd Cymru”, a bod “achos cryf ar gyfer sefydlu Ysgol Ddeintyddol ym Mangor”.
Dywed hefyd fod “nifer sylweddol o fyfyrwyr sy’n dymuno astudio deintyddiaeth yn gorfod gadael Cymru oherwydd diffyg capasiti mewn ysgolion deintyddol”, ac y “gallai ysgol ddeintyddol newydd ym Mangor chwarae rôl allweddol wrth hyfforddi mwy o ddeintyddion yn lleol, gan gynnig gwell siawns o gadw’r gweithlu deintyddol yn y rhanbarth a darparu gwasanaethau hanfodol yn lleol”.
Roedd y cynnig hefyd yn galw ar y Cyngor i gefnogi’r ymgyrch i sefydlu Ysgol Ddeintyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor.
‘Argyfwng’
“Rydan ni i gyd yn gwybod bod argyfwng ym maes deintyddiaeth,” meddai’r Cynghorydd Elin Walker Jones.
“Mae teuluoedd cyfan yn methu â chael apwyntiadau, a phenllanw’r argyfwng yw problemau iechyd hirdymor, ac yn yr achosion mwyaf eithafol, pethau fel sepsis.
“Mae recriwtio mwy o ddeintyddion yn ffordd ymarferol o fynd i’r afael â’r argyfwng, a lle gwell na Bangor?
“Mae Arfon yn ardal sy’n gyfuniad o’r trefol a’r gwledig.
“Yn ogystal â hynny, mae’n ardal Gymraeg, felly byddai deintyddion yn graddio gyda’r sgiliau llawn sydd eu hangen i wasanaethu’r ardal hon.
“Mae’r dystiolaeth yn glir – byddai Ysgol Ddeintyddol yn ychwanegiad synhwyrol i’r addysg feddygol sydd eisoes ar gael ym Mangor!”
‘Cam ymlaen’
Fe fu Siân Gwenllian, yr Aelod o’r Senedd dros Arfon, yn ymgyrchu ers tro i sefydlu ysgol ddeintyddol yn y gogledd.
Dywed y byddai ysgol o’r fath yn ychwanegiad pwysig i’r Ysgol Feddygol gafodd ei hagor yn ddiweddar, ac yn atgyfnerthu statws Bangor fel canolfan ragoriaeth genedlaethol ar gyfer hyfforddiant meddygol.
Mae hi wedi croesawu’r bleidlais yng Nghyngor Gwynedd.
“Mae cefnogaeth Cyngor Gwynedd i fy ngalwad am sefydlu Ysgol Ddeintyddol ym Mangor yn gam ymlaen yn ein hymgyrch,” meddai.
“Ym mis Medi, fe welson ni benllanw blynyddoedd o ymgyrchu a misoedd o ymchwil gyda lansiad swyddogol fy adroddiad Llenwi’r Bwlch: Yr achos dros hyfforddi deintyddion ym Mangor.
“Roedd canfyddiadau’r adroddiad yn glir: mae achos cadarn ar gyfer ail Ysgol Deintyddiaeth yng Nghymru, ac yn benodol iddi gael ei sefydlu ym Mangor.
“O safbwynt iechyd cyhoeddus a’r achos economaidd dros yr ysgol, mae arbenigwyr yn y maes a phartneriaid lleol yn glir bod angen i’r datblygiad hwn ddigwydd.
“Dw i’n croesawu penderfyniad Cyngor Gwynedd i gefnogi fy ymgyrch a dw i’n annog eraill i ychwanegu eu llais at yr ymgyrch, naill ai drwy ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol neu drwy lofnodi fy neiseb.”