Mae rhestr fer Gwobrau Tir na n-Og, sy’n dathlu straeon i blant a phobol ifanc, wedi cael ei chyhoeddi.

Eleni, mae dau enwebiad i Casia Wiliam, yn ogystal ag enwebiadau i awduron megis Megan Hunter a Caryl Lewis.

Mae gan y wobr ddau gategori, sef Cynradd ar gyfer llenyddiaeth sydd wedi ei dargedu at blant pedair i 11 oed ac Uwchradd sy’n edrych ar lenyddiaeth ar gyfer pobol ifanc 11 i ddeunaw oed.

Bob blwyddyn, caiff y rhestrau byrion a’r enillwyr eu dewis gan baneli annibynnol.

Sioned Dafydd oedd cadeirydd y panel Cymraeg eleni tra bod Sara Yassine, Siôn Lloyd Edwards a Rhys Dilwyn Jenkins hefyd yn feirniaid.

“Roedd cytundeb ymysg y panel fod pawb wedi cael blas ar y darllen a bod plant Cymru yn ffodus iawn o gael y fath ystod o lyfrau safonol i’w mwynhau a’u trysori,” medd Sioned Dafydd, Cadeirydd y Panel.

“Diolch i’r holl weisg, yr awduron a’r dylunwyr am oriau o bleser ac ymgolli!

“Credwn bod llyfrau ymysg y casgliad eleni a fydd yn ffefrynnau gan blant Cymru a bydd ambell lyfr yn sicr o gael ei fyseddu a’i ddarllen yn dawel ac ar goedd drosodd a throsodd am flynyddoedd i ddod.”

“Cymaint o deitlau gwych”

Gwobrau Tir na n-Og, sy’n cael eu trefnu gan Gyngor Llyfrau Cymru, yw’r gwobrau hynaf ar gyfer llenyddiaeth plant a phobl ifanc yng Nghymru.

Mae Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru, wedi llongyfarch yr awduron a darlunwyr sy’n ymddangos ar y rhestr fer.

“Roedd y ceisiadau’n ardderchog unwaith eto eleni a hoffwn ddiolch i’r paneli beirniaid am eu holl waith i ddewis y rhestrau byrion o blith cymaint o deitlau gwych,” meddai.

“Rydw i’n edrych ymlaen yn arw at weld pa lyfrau fydd yn fuddugol yn yr haf ac yn dymuno pob lwc i bawb.”

Bydd y rhestr fer ar gyfer y llyfrau Saesneg yn cael ei datgelu am hanner dydd ddydd Gwener, Mawrth 15 gan Ellis Lloyd Jones a’r Cyngor Llyfrau ar eu sianelau cyfryngau cymdeithasol.

Bydd enillwyr y categorïau Cymraeg yn cael eu cyhoeddi ar Fai 29 ar Faes Eisteddfod yr Urdd ym Meifod, ac enillydd y categori Saesneg ar Fai 17 yng nghynhadledd CILIP Cymru, sy’n cefnogi’r gwobrau, yng Nghaerdydd.

Yn ogystal, bydd cyfle unwaith eto i blant a phobol ifanc ddewis enillwyr categori arbennig, sef Gwobr Barn y Darllenwyr.


Dyma’r rhestrau byrion ar gyfer y gwobrau eleni…

Rhestr Fer Cynradd

Jac a’r Angel gan Daf James, darluniwyd gan Bethan Mai (Y Lolfa)

Mari a Mrs Cloch gan Caryl Lewis, darluniwyd gan Valériane Leblond (Y Lolfa)

Wyneb yn Wyneb gan Sioned Wyn Roberts (Atebol)

Y Gragen gan Casia Wiliam, darluniwyd gan Naomi Bennet (Cyhoeddiadau Barddas)


Rhestr Fer Uwchradd

Astronot yn yr Atig gan Megan Angharad Hunter (Y Lolfa)

Fi ydy Fi gan Sian Eirian Lewis, darluniwyd gan Celyn Hunt (Y Lolfa)

Sêr y Nos yn Gwenu gan Casia Wiliam (Y Lolfa)