Mae’r cerddor Gruff Rhys wedi cyhoeddi na fydd yn perfformio mewn gŵyl gerddoriaeth yn yr Unol Daleithiau er mwyn dangos ei wrthwynebiad i’r rhyfel yn Gaza.
Daeth y cyhoeddiad mewn datganiad ar ei gyfrif Instagram, gan ddweud ei fod yn tynnu allan o ŵyl South by South West (SXSW) yn nhalaith Tecsas gan fod nifer o’i noddwyr â chysylltiadau ag ymgyrch filwrol Israel yn Gaza.
“Yn dilyn yr holl drais eithafol mae dinasyddion Gaza a thu hwnt wedi dioddef rwy’n teimlo mai’r defnydd gorau o’m platfform yn sioeau swyddogol SXSW eleni yw peidio â pherfformio fy ngherddoriaeth,” medd prif leisydd y Super Furry Animals.
Ychwanegodd ei fod wedi “siomi yn bersonol” gan ei fod yn “caru perfformio ei gerddoriaeth.”
“Rwyf yn teimlo’n eithaf rhagrithiol gan fy mod i, heb os, gyda chysylltiadau i sawl ymgyrch neu fudiad amherffaith cyfalafol arall fel rhan o’m nghyfranogiad brwdfrydig yn y diwydiant cerddoriaeth,” meddai.
“Fodd bynnag, rwy’n teimlo bod hon yn foment hanesyddol unigryw a sobreiddiol iawn. A bod gwerth i ystumiau symbolaidd.”
Aeth yn ei flaen i ddweud mai “cerddor nid gwleidydd” ydyw ond fel pleidleisiwr a rhan o ddemocratiaeth ei fod wedi “digalonni’n llwyr” yn rôl y Gorllewin yn y rhyfel yn Gaza.
Dros 80 yn tynnu allan
Daw fel un o dros 80 o artistiaid ac aelodau’r panel sydd wedi cyhoeddi na fyddan nhw’n cymryd rhan yn yr ŵyl bellach.
Mae’r band Gwyddelig, Kneecap, hefyd wedi cyhoeddi eu bod am dynnu allan.
Daeth cysylltiadau’r ŵyl gyda sawl cwmni arfau sydd ynghlwm ag Adran Amddiffyn yr Unol Daleithiau i’r amlwg yn dilyn protest gan Austin for Palestine Coalition.
Cafodd Gruff Rhys ei gyhoeddi ar restr o gerddorion a fyddai’n perfformio yn yr ŵyl trwy eu partneriaeth gyda Focus Wales.
Roedd Focus Wales eisoes wedi cyhoeddi naw cerddor gyda chysylltiadau Cymreig oedd am berfformio yn yr ŵyl gan hefyd gynnwys HMS Morris, Minas ac Otto Aday.
Dywedodd Gruff Rhys nad oedd wedi cymryd y cyfle i berfformio “yn ganiataol” a bod Focus Wales wedi bod yn “gefnogol iawn” o’i waith dros y blynyddoedd.
“Mae fy nghysylltiad personol a chariad tuag at Focus Wales yn gwneud hyn yn anodd,” meddai.
“Mae Focus Wales wedi ymrwymo i gyflwyno’r gorau o Gymru i gynulleidfa ryngwladol (ac i’r gwrthwyneb) ac ar lefel bersonol wedi bod yn gefnogol iawn o fy ngwaith trwy roi cyfleoedd i mi berfformio mewn sawl gŵyl a trwy gynnig eu hamser a’u harbenigedd i mi.”
Mewn ymateb i’r boicot yn erbyn yr ŵyl dywedodd Greg Abbott, llywodraethwr talaith Tecsas, eu bod yn “falch o fyddin yr Unol Daleithiau yn Tecsas.”
“Os nad ydych chi’n ei hoffi, peidiwch â dod yma,” meddai.