Guto Bebb sydd wedi’i benodi’n Gadeirydd dros dro S4C, yn ôl Newyddion S4C.
Bydd yn olynu Rhodri Williams, gyhoeddodd yn ddiweddar ei fod e am gamu o’i rôl ddiwedd y mis yma ar ôl penderfynu peidio ceisio ail dymor wrth y llyw.
Bu Guto Bebb, sy’n enedigol o Sir y Fflint ond yn byw yng Nghaernarfon, yn Aelod Seneddol Ceidwadol dros Aberconwy, ac yn Weinidog yn Swyddfa Cymru a’r Weinyddiaeth Amddiffyn.
Mae ei gefndir ym myd busnes, ac yntau’n gweithio am gyfnod i’r Ymgynghoriaeth Datblygu Economaidd a Siop Lyfrau.
Ar hyn o bryd, mae’n Rheolwr Gyfarwyddwr Grŵp Undeb Amaethwyr Cymru, ond bydd yn camu i’r rôl newydd ar Ebrill 1 ac yn aros yn y rôl tan o leiaf Fawrth 31, 2025.
Croeso gofalus i’r penodiad
Mae Jo Stevens, llefarydd materion Cymreig y Blaid Lafur yn San Steffan, wedi rhoi croeso gofalus i’r penodiad, gan ddweud bod angen i’r “gwaith caled… o fynd i’r afael â phryderon ynghylch llywodraethiant, arweinyddiaeth a diwylliant y sefydliad dechrau ar unwaith”.
“Rhaid i’r Ysgrifennydd Diwylliant osod disgwyliadau clir a mynnu safonau uchel o atebolrwydd drwy gydol y broses hon,” meddai.
“Mae angen darlledwr cyhoeddus ar Gymru sy’n bwrw iddi, gan feithrin eu staff a’u sgiliau, dangos rhaglenni ardderchog, a dangos gwerth am arian trethdalwyr.”