Mae Siân Doyle, cyn-Brif Weithredwr S4C gafodd ei diswyddo’n ddiweddar yn sgil honiadau am amgylchedd gwaith y sianel, wedi’i chludo i’r ysbyty yn dilyn gorddos, yn ôl datganiad gan ei gŵr.

Mae’n debyg iddo ddod o hyd iddi’n “anymatebol” yn ystod y nos.

Daw hyn yn dilyn adroddiad beirniadol gafodd ei gyhoeddi gan gwmni cyfreithiol Capital Law ddoe (dydd Mercher, Rhagfyr 6), yn dweud bod ei rheolaeth o’r sianel yn “unbenaethol”.

Cafodd yr adroddiad ei gomisiynu gan Rhodri Williams, cadeirydd S4C, fis Mai.

Ond mae gŵr Siân Doyle wedi amddiffyn cymeriad ei wraig, gan ddweud nad oedd yn adnabod y cymeriad sydd wedi’i ddarlunio yn yr adroddiad, y ddynes mae’n ei garu ers 37 o flynyddoedd, na’r ddynes mae ei ffrindiau a’i chyn-gydweithwyr yn ei hadnabod.

Datganiad

“Fel ei gŵr, mae’n rhaid i mi siarad nawr ar ei rhan,” meddai’r datganiad.

“Yn y 24 awr ddiwethaf, mae fy ngwraig wedi ei beirniadu’n hallt yn y wasg yn dilyn gyrfa ryngwladol 30 mlynedd oherwydd adroddiad unochrog, a gomisiynwyd a gyfarwyddwyd gan Gadeirydd S4C.

“Roedd Siân mor falch o fod wedi cael cais i ddod allan o’i hymddeoliad i arwain sefydliad yr oedd hi, fel merch ifanc, wedi ymgyrchu dros ei sefydlu.

“Ond newidiodd y balchder yna’n rhwystredigaeth, ac yna siom, ofn ac yn olaf anobaith.

“Mae Siân wedi siarad am rôl y Cadeirydd yn hyn, ond mae bwrdd S4C hefyd yn gyfrifol; mae eu diffyg gofal dros Siân, a diffyg trosolwg a herio o’r Cadeirydd, yn haeddu atebion.”

s4c”Mae’r person a’i hadlewyrchwyd ddoe yn yr adroddiad ‘annibynnol’ yn ôl pob sôn, yn hollol wahanol i’r fenyw dwi wedi ei charu ers 37 o flynyddoedd, na’r fenyw mae ei ffrindiau a chyn-weithwyr yn ei hadnabod.

“Rydw i wedi gwylio gydag arswyd ac anghrediniaeth wrth i fy ngwraig gael ei herlid dros y saith mis diwethaf.

“Mae’r driniaeth ohoni wedi bod yn ofnadwy, gyda manylion personol, meddygol wedi eu rhannu gyda’r wasg ac ymosodiadau cyson ar ei chymeriad a’i henw da.

“Mae’n rhaid i hyn stopio.

“Ni ddylai unrhyw fudiad gael ei reoli fel hyn, heb sôn am un sy’n derbyn arian cyhoeddus.

“Yr wythnos ddiwethaf fe wnaeth Siân alw ar Lucy Frazer, yr Ysgrifennydd Gwladol dros DCMS [Yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon] sy’n gyfrifol am S4C, i ddechrau ymchwiliad i reolaeth y mudiad.

“Mae Siân wedi ceisio ar sawl achos i godi pryderon gyda’r llywodraeth yn San Steffan, ond dyw’r ysgrifennydd wedi gwneud dim.

“Rydw i bellach yn mynnu bod preifatrwydd fy ngwraig a fy nheulu’n cael ei barchu, fel ei bod hi’n gallu, gyda gobaith, gwella ac fe allwn symud ymlaen gyda’n bywydau.”

Cadeirydd S4C am fynd gerbron pwyllgor yn San Steffan

Bydd Rhodri Williams yn rhoi tystiolaeth i wrandawiad atebolrwydd, i archwilio trefniadau llywodraethiant y sefydliad a gweithrediad y bwrdd unedol

Cyhoeddi adroddiad Capital Law i amgylchedd gwaith S4C

Mae’r adroddiad yn nodi nad oes tystiolaeth ddogfennol i brofi nifer o’r enghreifftiau, na thystiolaeth gan fwy nag un tyst, ond fod yna “thema amlwg”

‘Honiadau parhaus am S4C yn peri pryder’

Mae’r pryder “yn fwy felly o ystyried pa mor bwysig yw llwyddiant y sianel i’r Gymraeg a Chymru fel gwlad”, medd cadeirydd un o bwyllgorau’r Senedd

“Gall S4C ddechrau symud ymlaen”

Yr ymateb yn dilyn diswyddiad y Prif Weithredwr Siân Doyle

Diswyddo Prif Swyddog Cynnwys: “S4C yn gorfod gwneud penderfyniad fel hyn”

Arwel Ellis Owen, cyn-Brif Weithredwr y sianel, yn ymateb ar ôl i Llinos Griffin-Williams adael ei swydd tros honiadau o gamymddwyn

Un o benaethiaid S4C wedi gadael ei rôl tros honiadau o ymddygiad amhriodol

Yn ôl adroddiadau, bu iddi “wneud sylwadau anaddas” tuag at aelodau o’r cwmni cynhyrchu Whisper