“Gall S4C ddechrau symud ymlaen” ar ôl i’r Prif Weithredwr Siân Doyle gael ei diswyddo, yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig.

Wrth gyhoeddi’r newyddion, dywedodd Awdurdod S4C mewn datganiad eu bod nhw “wedi ystyried y dystiolaeth” ddaeth i law yn sgil “ymarfer canfod ffeithiau” gan gwmni Capital Law i amgylchedd gwaith S4C.

Maen nhw’n dweud bod “pryderon difrifol” gan BECTU fis Ebrill eleni, a bod “y dystiolaeth a welsom yn adlewyrchu barn a phrofiadau 96 o bobol sy’n staff presennol neu gyn-aelodau o staff S4C neu’n bartneriaid”.

“Roedd natur a difrifoldeb y dystiolaeth a rannwyd yn peri gofid mawr,” meddai’r awdurdod.

“Yn ddi-os, mae wedi bod yn gyfnod heriol i lawer o unigolion.

“Fel Aelodau o’r Awdurdod, hoffem ymddiheuro am y straen a’r gofid a achosir gan yr ymddygiadau a brofwyd yn y gweithle.”

‘Sicrhau newid’

Aeth y datganiad yn ei flaen i ddweud ei bod hi’n “amlwg o’r dystiolaeth a dderbyniwyd bod angen cymryd camau i sicrhau newid o fewn S4C ac mae yna lawer i’w wneud i ddelio gyda’r holl faterion sy’n codi o’r wybodaeth a dderbyniwyd”.

“Mae Awdurdod S4C yn ymrwymiedig i sicrhau bod S4C yn fan lle mae ein staff yn hapus ac yn ddiogel – lle mae nhw’n teimlo y gallant berfformio ar eu gorau a ffynnu,” meddai.

“Rydym yn cydnabod bod angen i ni adfer hyder ac ymddiriedaeth yn y sefydliad – nid yn unig ymhlith ein staff ond gyda’n partneriaid yn y sector creadigol, cynulleidfaoedd yng Nghymru a thu hwnt.

“Er mwyn i ni ddechrau gwneud gwelliannau mae angen i ni wneud rhai newidiadau ar unwaith.

“Felly, ar ôl derbyn cyngor cyfreithiol manwl, gwnaeth aelodau Awdurdod S4C y penderfyniad anodd ond unfrydol i derfynu cyflogaeth y Prif Weithredwr.

“Byddwn yn gweithio tuag at benodi arweinydd newydd a all helpu i adfer S4C uchelgeisiol gyda ffocws o’r newydd ar gydweithio a llesiant ein cydweithwyr.

“Nid yw’r rhain byth yn benderfyniadau hawdd i’w gwneud. Fodd bynnag, rydym ni, fel Aelodau Awdurdod S4C, yn hyderus mai dyma’r penderfyniad cywir i’r sefydliad.”

Maen nhw’n dweud y byddan nhw “maes o law… yn cyhoeddi adroddiad sy’n egluro ymhellach natur y dystiolaeth a dderbyniwyd… y penderfyniadau a wnaed a’r camau y byddwn yn eu cymryd i sicrhau bod S4C yn darparu amgylchedd gwaith cadarnhaol a ffyniannus”.

Honiadau Siân Doyle

Wrth ymateb, roedd Siân Doyle wedi ymateb yn chwyrn i’r penderfyniad i’w diswyddo.

“Mae S4C yn sefydliad arbennig, ac mae hi wedi bod yn anrhydedd i gael bod yn Brif Weithredwr, ac i gael arwain tîm o bobol mor dalentog, ymroddgar a phroffesiynol dros y ddwy flynedd ddiwethaf,” meddai.

“Heddiw, cefais i fy niswyddo gan Gadeirydd S4C, Rhodri Williams, fel rhan o’r hyn dwi’n ei gredu sy’n enghraifft o ddiffyg llywodraethu digynsail gan gorff cyhoeddus.

“Cefais wybod am y penderfyniad mewn llythyr, a hynny heb rybudd, heb gyfarfod a heb weld copi o ymchwiliad Capital Law na unrhyw dystiolaeth, heb gael cyfle i ymateb a heb reswm dilys y tu ôl i’r penderfyniad.”

Mae hi’n honni iddi wynebu “triniath annheg a bwlio ehangach” gan Rhodri Williams, cadeirydd Awdurdod S4C, a hynny “dros y deufis diwethaf”.

“Rwy’n credu i mi gael fy nhrin yn y ffordd yma oherwydd fy mod i wedi bod yn barod i sefyll i fyny i’r Cadeirydd a’i ymddygiad,” meddai.

“Yn anffodus, rwy’n credu fod bod yn fenyw wedi bod yn ffactor sylweddol.”

‘Tynnu llinell’

Dywed Tom Giffard, llefarydd diwylliant y Ceidwadwyr Cymreig, ei fod yn gobeithio “yn dilyn yr adolygiad hirymaros hwn a’r camau penderfynol gafodd eu cymryd, fod modd i S4C ddechrau gwella, dechrau symud ymlaen ac y gall llinell gael ei thynnu o dan y mater”.

“Fel dw i’n deall, cafodd y penderfyniad hwn ei wneud yn unfrydol yn seiliedig ar gasgliadau’r adolygiad,” meddai.

“Rwy’n hyderus y bydd S4C yn gwneud y newidiadau diwylliannol angenrheidiol, ac y gall edrych ymlaen at ddyfodol mwy llewyrchus yn dilyn y bennod anffodus hon.”

Llinos Griffin-Williams wedi’i diswyddo gan S4C “yn seiliedig ar dystiolaeth a chyngor cyfreithiol”

Mae Llinos Griffin-Williams, sydd wedi’i chyhuddo o “gamymddwyn difrifol”, yn dweud bod “ymddygiad anaddas” yn ei herbyn

Diswyddo Prif Swyddog Cynnwys: “S4C yn gorfod gwneud penderfyniad fel hyn”

Arwel Ellis Owen, cyn-Brif Weithredwr y sianel, yn ymateb ar ôl i Llinos Griffin-Williams adael ei swydd tros honiadau o gamymddwyn

Un o benaethiaid S4C wedi gadael ei rôl tros honiadau o ymddygiad amhriodol

Yn ôl adroddiadau, bu iddi “wneud sylwadau anaddas” tuag at aelodau o’r cwmni cynhyrchu Whisper