Mae gwleidyddion yng Ngwynedd yn galw ar Swyddfa’r Post i ailystyried cynlluniau i gau un o ganghennau’r sir.
Mae’r gangen ar y Maes yng Nghaernarfon yn un o bedair yng Nghymru sydd dan fygythiad.
Canghennau Stryd John Merthyr Tudful, Heol yr Orsaf Port Talbot a Stryd Wyndham Pen-y-bont ar Ogwr yw’r tair arall.
Yn sgil colledion ariannol, mae Swyddfa’r Post wedi dechrau trafodaethau am ddyfodol canghennau ledled y Deyrnas Unedig.
Gallai hyd at 115 o ganghennau gau i gyd, a gallai cannoedd o weithwyr golli’u gwaith yn sgil y newidiadau.
‘Tlodi digidol yn broblem go iawn yn ein cymunedau’
Mae Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd, yr Aelodau o’r Senedd Siân Gwenllian a Llŷr Gruffydd, a’r cynghorydd lleol Cai Larsen, wedi ysgrifennu at Swyddfa’r Post i fynegi eu pryderon.
Yn y llythyr at Neil Brocklehurst, Prif Weithredwr dros dro Swyddfa’r Post, maen nhw’n dweud ei bod hi’n “ddyletswydd” arnyn nhw i gynnig lefel o wasanaeth wyneb-yn-wyneb er mwyn ateb anghenion pobol leol.
“Mae gan Wynedd fel sir oedran cyfartalog uwch na Chymru gyfan, ac mae nifer o’n hetholwyr hŷn yn parhau heb fynediad i wasanaethau digidol.
“Yn ogystal â hynny, mae rhannau o Gaernarfon yn gyson ar frig y tabl o ran amddifadedd yng Ngwynedd, yn ôl Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (WIMD).
“Mae tlodi digidol yn broblem go iawn yn ein cymunedau, sy’n rhoi mwy o bwyslais ar yr angen am wasanaethau wyneb yn wyneb.
“Dylid nodi hefyd fod cangen Caernarfon yn gwasanaethu ardal ehangach, fwy gwledig na’r dref ei hun, a gyda diffyg isadeiledd trafnidiaeth gyhoeddus yn broblem enbyd yn yr ardal hon, mae disgwyl i etholwyr deithio ymhellach i gael mynediad i wasanaethau yn annheg.”
‘Hoelen olaf yn arch ein trefi’
Mae’r pedwar hefyd yn tynnu sylw at anghenion ieithyddol “unigryw” Caernarfon, sydd ddim bob amser yn cael eu diwallu gan wasanaethau ar-lein neu mewn trefi cyfagos.
“Fel cymuned Gymraeg ei hiaith, mae derbyn gwasanaethau trwy gyfrwng eu hiaith gyntaf yn hanfodol er mwyn cynnal ymddiriedaeth pobol leol yn Swyddfa’r Post,” medden nhw.
“Mae canol tref Caernarfon, fel canol trefi ar draws y wlad, wedi wynebu cyfnod heriol yn y blynyddoedd diwethaf, sefyllfa sydd wedi gwaethygu yn sgil Covid-19 a’r argyfwng costau byw.
“Ofnwn y bydd cael gwared ar wasanaethau fel Swyddfa’r Post yn hoelen olaf yn arch ein trefi.
“Ar adeg pan ddylai Swyddfa’r Post fod yn ymdrechu i adfer ffydd y cyhoedd yn ei wasanaethau, mae’r bwriad hwn yn diystyru anghenion eich cwsmeriaid, ac rydym yn eich annog i ailfeddwl unrhyw gynlluniau i gau eich cangen yng Nghaernarfon.”
Nod yr adolygiad, sy’n cael ei arwain gan gadeirydd newydd Swyddfa’r Post, yw addasu’r ffordd mae’r sefydliad yn cael ei redeg.
Dywedwyd wrth is-bostfeistri ddoe (dydd Mercher, Tachwedd 13) fod angen i Swyddfa’r Post gael “dechrau newydd”, ac y bydd y cynnig newydd yn eu rhoi nhw “wrth galon y busnes”, gyda’r nod o wella sefyllfa ariannol y busnes.