Aeth 100 niwrnod heibio bellach ers i Eluned Morgan ddod yn Brif Weinidog Cymru.

Mae’r cyfnod hwn wedi gweld sawl newid calonogol dan oruwchwyliaeth y Prif Weinidog, ond mae sawl rheswm gan ei llywodraeth i bryderu hefyd.

Mae Eluned Morgan wedi bod yn adlewyrchu ar lwyddiannau Llywodraeth Cymru ers Awst 6, gan sôn am ei balchder o gael ei hethol i’r swydd.

“Pan ddes i’n Brif Weinidog, gwnes i addewid i roi llais i’r rhai sy’n rhy aml wedi cael eu gwthio i’r cyrion, i gefnogi rhannau o Gymru sy’n rhy aml wedi teimlo eu bod yn cael eu hanghofio, ac i bob amser fod yn Brif Weinidog sy’n gwrando,” meddai.

“Ond yn fwy na hynny – gwnes i addo bod yn Brif Weinidog sy’n canolbwyntio ar gyflawni.

“Ar ôl 100 niwrnod yn y swydd, gallwn ni ddangos sut mae’r Llywodraeth hon yn cyflawni – nid addewidion yn unig, ond gweithredu pendant i’n cymunedau.”

Ymhlith y llwyddiannau mae’r Prif Weinidog am eu dathlu yn ystod y cyfnod cyntaf hwn mae:

  • sicrhau prydau ysgol am ddim i bob plentyn
  • agor ysgol feddygol newydd yn swyddogol yn y gogledd
  • buddsoddi £28m er mwyn cwtogi rhestrau aros y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru.

Mae’r Prif Weinidog wedi gwneud sawl ymdrech ddiplymyddol i hyrwyddo Cymru dramor hefyd.

Buodd hi yn Iwerddon yn cyfarfod â’r Tánaiste, Micheál Martin, ychydig wythnosau yn ôl, ac yn croesawu gwesteion o Alabama i Gaerdydd cyn hynny.

Menyw wrth y llyw am y tro cyntaf

Roedd penodi Eluned Morgan yn Brif Weinidog yn hynod arwyddocaol yn hanesyddol – hi ydy’r fenyw gyntaf yn hanes Cymru i fod yn arwain y wlad.

Mae’n werth nodi bod hawliau menywod wedi dod yn bwnc llosg ar sawl achlysur dros y 100 niwrnod allweddol hyn.

Ym mis Hydref, aeth deiseb am y menopôs ac iechyd menywod gerbron y Senedd, gyda chymeradwyaeth y Prif Weinidog.

Ond roedd ambell rwystredigaeth o ran ymdrechion o blaid cydraddoldeb rhywiol yn y cyfnod hwn hefyd.

Ym mis Medi, penderfynodd y Senedd ohirio’r nod hirfaith o gyflwyno cwotâu rhywedd, fyddai wedi sicrhau bod 50% o ymgeiswyr pob plaid mewn etholaethau’n fenywod.

Dywedodd Sian Gwenllian, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, ei bod hi’n “hynod siomedig” ynghylch y penderfyniad, yn enwedig “fod hyn wedi dod gan Brif Weinidog benywaidd cyntaf Cymru”.

Diwygiadau etholiadol

Ond mae sawl diwygiad cyfansoddiadol blaengar arall wedi llwyddo dan oruwchwyliaeth Eluned Morgan.

Ym mis Medi, rhoddodd y Prif Weinidog sêl bendith i ddeddf sy’n golygu bod pawb yng Nghymru am gael eu cofrestru fel pleidleiswyr yn awtomatig.

Yn ogystal, dan lywodraeth Eluned Morgan gafodd y cynllun ar gyfer etholaethau newydd ei gyhoeddi.

Mae disgwyl y bydd y cynllun yn golygu y bydd etholiad 2026 yn cynrychioli ewyllys gwleidyddol Cymru’n fwy trylwyr.

Pwyslais ar swyddi

Pan ddychwelodd y Senedd o wyliau’r haf ym mis Medi, rhestrodd Eluned Morgan ‘swyddi,’ ‘cyfle i bob teulu’ a ‘thwf’ ymhlith blaenoriaethau ei llywodraeth newydd, ac mae’n ymddangos bod gweinyddiaeth y Prif Weinidog wedi gweithredu ar yr amcanion economaidd hyn.

Mewn datganiad i’r wasg heddiw, fe wnaeth Eluned Morgan ymfalchïo ei bod hi wedi medru sicrhau codiad cyflog yn uwch na chwyddiant i weithwyr y sector cyhoeddus.

Mae’r Prif Weinidog hefyd wedi cyfeirio at lwyddiant ymdrechion ei llywodraeth i greu a diogelu swyddi yn y sector preifat.

Yng Nglannau Dyfrdwy, mae’n ymddangos bod buddsoddiad gan y Llywodraeth wedi llwyddo i warchod 300 o swyddi ym Melin Bapur Shotton.

Ond mae gweithwyr dur Port Talbot wedi bod yn llai ffodus, gyda Phlaid Cymru’n beirniadu’r Prif Weinidog am beidio â bod yn ddigon dewr yn wleidyddol i rwystro cau’r ffwrnais yno.

Dan gysgod Syr Keir Starmer

Mae’n bosib bod y newid mwyaf sydd wedi nodweddu cyfnod Eluned Morgan wrth y llyw y tu hwnt i’w grym hi ei hun.

Ac eithrio’r mis byr pan fu Vaughan Gething yn disgwyl am olynydd, dyma’r tro cyntaf ers 2010 i’r un blaid fod yn llywodraethu yn San Steffan ac ym Mae Caerdydd.

Mae perthynas Eluned Morgan a Keir Starmer – ac, i raddau helaeth, â Thrysorlys y Canghellor Rachel Reeves – wedi llywio cryn dipyn o’r sgwrs ynghylch ei harweinyddiaeth.

Aeth y Prif Weinidog i gyfarfod cyntaf Cyngor y Gwledydd a’r Rhanbarthau ym mis Hydref.

Mewn cyfweliad ag S4C, ceisiodd hi awgrymu fod ganddi gymaint o ddylanwad dros Syr Keir Starmer ag sydd ganddi dros Donald Trump – hynny yw, y nesaf peth i ddim.

Serch hynny, mae rhai o benderfyniadau mwyaf dadleuol Syr Keir Starmer, megis cael gwared ar daliadau tanwydd gaeaf, wedi dod yn bwnc llosg yn y Senedd.

Eluned Morgan oedd dan y lach yng Nghymru, hefyd, am yr hyn gafodd ei gyhoeddi yng Nghyllideb Rachel Reeves fis diwethaf.

Yn ôl Plaid Cymru, roedd diystyru Cymru yn y Gyllideb yn dangos bod Eluned Morgan “wedi methu prawf cyntaf ei harweinyddiaeth”.

Cawn weld ymhen hir a hwyr a fydd modd i Eluned Morgan sefydlu perthynas fwy cydradd â’i chyd-bleidwyr yn Llundain.