Mae pryderon wedi’u codi am ddyfodol canol tref Llanbed yng Ngheredigion, yn dilyn adroddiadau bod Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant am symud cyrsiau yn y Dyniaethau i’w campws yng Nghaerfyrddin.

Fe gyhoeddodd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ddydd Llun (Tachwedd 11) y gallai cyrsiau sy’n cael eu cynnal ar y campws yn Llanbed symud i Gaerfyrddin o fis Medi nesaf.

Mae pryder y gallai’r campws yn Llanbed gau’n barhaol o ganlyniad i’r newid.

‘Rhan anhepgor o’r dref’

Mae Gareth Jones yn gyn-brifathro, ond bellach mae’n rhedeg caffi, Yr Hedyn Mwstard, sydd gyferbyn â’r campws.

Byddai cau’r campws yn ergyd fawr i ddyfodol y dref a’i hunanaieth.

“Mae’r coleg wedi bod yn Llanbed ers 200 mlynedd, felly mae’n rhan anhepgor, yn hanesyddol, yn ddiwylliannol ac economaidd, o’r dref a’r ardal – y sefydliad addysg uwch cyntaf i ddyfarnu graddau yng Nghymru,” meddai wrth golwg360.

“Roedd cael sefydliad mor fawr hefyd mewn tref fach yn lluosogi a dwysáu ei ddylanwad a’i effaith ar y gymuned, ac o dynnu’r sefydliad allan does dim dwywaith y bydd hynny’n cael canlyniadau pellgyrhaeddol, nid yn unig yn faterol ond o ran meddylfryd a hunan-werth yr ardal yn ogystal.

“Mae’n unigryw hefyd: bu cyfran helaeth o fyfyrwyr yn dewis dod yma oherwydd natur wledig, fechan ac agosatoch Cymraeg a Chymreig Llanbed a’r cylch.”

‘Trobwll’

Mae Gareth Jones hefyd yn gofidio am natur penderfyniad y brifysgol, sydd wedi ei synnu er nad oedd yn hollol ddigynsail.

“Mae’r coleg wedi bod yn lleihau ers sawl blwyddyn – roedd 1,500 o fyfyrwyr yma yn y 1990au – ond mae’r cyhoeddiad ar yr un pryd wedi bod yn annisgwyl ac yn ysgytwad.

“Oherwydd, tra’r oedd bywyd, roedd gobaith.

“Rhaid dweud ei bod yn ymddangos fod y coleg ei hun wedi gwneud penderfyniadau, neu wedi gorfod gwneud penderfyniadau ers tro i gwtogi ar y cyrsiau a’r staffio ar gampws Llanbed, ac unwaith roedd hynny wedi digwydd roedd yn drobwll ynddo’i hun, gyda llai o resymau i ddenu myfyrwyr yma.”

Mae hefyd yn pryderu am ddyfodol y campws, yn enwedig am nad yw’r Brifysgol wedi cadarnhau unrhyw gynlluniau pendant eto.

Mae cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal heddiw (dydd Mercher, Tachwedd 13).

“Mae’n hawdd gwneud cyhoeddiad fel sydd wedi ei wneud, ond nid yw’n ennyn hyder ynom yma yn Llanbed oni bai fod mwy o sicrwydd yn cael ei roi o ba fath o gynlluniau sydd gan y coleg mewn golwg o ran defnydd o’r campws yn y dyfodol,” meddai wedyn.

“Mae’n debyg fod rhyw fwriadau ganddyn nhw ond, heb fanylion, all neb fod yn sicr o’r hyn a ddaw.”

Mae disgwyl y daw cyhoeddiadau pellach gan y Brifysgol wedi’r cyfarfod cyhoeddus ar y campws heddiw.