Mewn cyfnod pan fo’n hawdd teimlo’n negyddol am bolisïau “gwyrdd” a dyfodol y ddaear, mae pennaeth Climate Cymru yn dweud ei bod hi’n bryd i wleidyddion “sefyll i fyny” i heriau newid hinsawdd.

Daw sylwadau Sam Ward yn fuan ar ôl ethol Donald Trump yn Arlywydd yr Unol Daleithiau’r wythnos ddiwethaf.

Mae’r darpar Arlywydd wedi ailadrodd ei fwriad i dynnu’r Unol Daleithiau allan o Gytundeb Paris, sydd â’r nod o sicrhau bod targed “sero net erbyn 2050” yn rhan gyfreithiol o’r agenda, fydd yn gweld gwledydd nad ydyn nhw’n bwrw eu targedau’n wynebu’r canlyniadau.

Hefyd, roedd Trump wedi rhoi pwyslais yn ystod ei ymgyrch lwyddiannus i fod yn arlywydd nesa’r Unol Daleithiau ar “drill, baby, drill!”, sy’n cyfeirio at ddefnyddio mwy o danwyddau ffosil.

Ond yn ôl Sam Ward, ni ddylai un gwleidydd “gwenwynig” fedru “diffinio ein dyfodol cyfunol”.

“Mae’n rhaid i ni sianelu’r rhwystredigaeth yma,” meddai wrth golwg360.

“Mae yna lot o bobol yma yng Nghymru sydd ddim yn hapus [efo buddugoliaeth Trump], ond mae’n rhaid i ni ganolbwyntio ar weithredu a gweithio tuag at drawsnewid yma.”

‘Bosib i ni ei wneud e heb America’

Yn ôl Sam Ward, mae Donald Trump “wedi ceisio dadwneud y gwaith da” sydd wedi cael ei wneud i drawsnewid y ffordd rydyn ni’n defnyddio tanwyddau ffosil, gan ddefnyddio mwy o ynni adnewyddadwy.

Dywed nad oedd o wedi llwyddo i’w ddadwneud yn ystod ei gyfnod cyntaf yn Arlywydd.

“Felly, er bod o’n gallu smalio ei fod o’n unben rhyngwladol, mae’n flin gen i ddweud y bydd pethau yn parhau hebddo fo,” meddai.

Mae Wythnos Hinsawdd Cymru yn cyd-daro â chynhadledd newid hinsawdd COP29, sy’n cael ei chynnal yn Azerbaijan.

Ymhlith y rhai sydd wedi bod yn bresennol yn ystod yr wythnos mae Syr Keir Starmer, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, ac Ed Miliband, Ysgrifennydd Ynni San Steffan.

Dywed Sam Ward fod rhai elfennau o agenda gynnar y Llywodraeth Lafur newydd yn San Steffan i’w cymeradwyo.

“Mae yna rywfaint o uchelgais, yn enwedig o gwmpas amcanion sy’n ymwneud ag ynni fel rhan o gynlluniau Llywodraeth y Deyrnas Unedig,” meddai.

“A dw i’n gobeithio y bydd o’n drawsnewidiol i ni fel cymdeithas, ond mae o angen ychydig o amser i gicio i mewn.”

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi creu’r cwmni cyhoeddus GB Energy i fanteisio ar gyfleoedd i adeiladu seilwaith ar gyfer ynni adnewyddadwy.

Mae’r Llywodraeth hefyd wedi rhoi addewid o £8.3bn o fuddsoddiad i’r cwmni yn ystod y cyfnod seneddol presennol.

Dywed Sam Ward ei fod yn gobeithio y bydd GB Energy yn dilyn yr un model ag Ynni Cymru a Thrydan Gwyrdd Cymru.

Mae Ynni Cymru a Thrydan Gwyrdd Cymru wedi’u dylunio mewn ffordd sy’n sicrhau bod “prosiectau ynni cymunedol yn cael eu hyrwyddo, ac yn creu ynni sy’n dod ag elw yn ôl i bobol Cymru”.

Er bod y cynllun wedi cael ei gefnogi gan rai, mae nifer yng Nghymru wedi ei feirniadu hefyd, gan ei fod yn defnyddio lleoliadau Ystâd y Goron ar yr arfordir.

Dydy Cymru ddim yn derbyn cyfran o’r arian sy’n cael ei godi drwy brosiectau sydd ar Ystâd y Goron, gan nad yw’r Ystad wedi’i datganoli i Gymru.

Wythnos Hinsawdd Cymru

Mae Wythnos Hinsawdd Cymru yn gyfle i bobol ddod at ei gilydd i drafod yr argyfwng hinsawdd, ac hefyd i rannu llwyddiant mewn meysydd penodol.

Roedd digwyddiad yn Techniquest Caerdydd ddoe (dydd Mawrth, Tachwedd 12) ar gyfer sioe cerbydau modur trydan.

Roedd gweithdai a sgyrsiau hefyd gan Chris a Julie Ramsey, anturiaethwyr a theithwyr sy’n bencampwyr cerbydau trydan.

Fe fu’r gŵr a gwraig ar daith lwyddiannus o Begwn y Gogledd i Begwn y De – llwybr 17,000 milltir sy’n gwthio capasiti cerbydau trydan i’r eithaf.

Roedd cyfle hefyd i gwrdd â Kevin Brooker, deiliad record byd Guinness, enillodd wobr yn 2023 am yrru’r pellter hiraf erioed, 311.18 milltir, mewn fan drydan ar un gwefriad.

‘Cymru’n chwarae ei rhan’

“Rhan o fy rôl i yw sicrhau bod Cymru’n chwarae ei rhan wrth fynd i’r afael â newid hinsawdd,” meddai Huw Irranca-Davies, Dirprwy Brif Weinidog Cymru ac Aelod Cabinet Llywodraeth Cymru â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd.

“Mae hyn yn cynnwys lleihau allyriadau o drafnidiaeth sef y trydydd sector allyrru carbon mwyaf yng Nghymru, ac mae hyn yn golygu newid y ffordd rydym i gyd yn teithio.

“Mae cerbydau trydan yn rhan, ond nid y cyfan o’r ateb, ochr yn ochr â llai o geir ar ein ffyrdd, a mwy ohonom yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, cerdded a beicio lle gallwn ni.

“Ond i lawer, rwy’n cydnabod nad yw hyn bob amser yn ymarferol, yn enwedig gan fod rhan fawr o’n gwlad yn wledig.

“Dyna pam mae angen i ni weld symudiad cyflym tuag at dechnolegau dim allyriadau mewn cerbydau, ochr yn ochr â buddsoddiad parhaus yn ein trafnidiaeth gyhoeddus a’n seilwaith teithio llesol.”

I Sam Ward, mae’r wythnos yn gyfle i arddangos yr hyn mae Climate Cymru yn sefyll drosto, sef “cyfeillgarwch amgylcheddol” a “chyfiawnder cymdeithasol”.

Erbyn hyn, mae rhwydwaith Climate Cymru yn cynrychioli 380 o sefydliadau yng Nghymru, ac yn ceisio sicrhau bod eu lleisiau ar faterion hinsawdd a chyfiawnder yn cael eu clywed gan wleidyddion.

Darllenwch ragor o wybodaeth am ddigwyddiadau Climate Cymru.