Mae trigolion sy’n byw yn natblygiad Celestia ym Mae Caerdydd wedi cael gwybod na fydd gwaith i drwsio diffygion tân difrifol sy’n effeithio ar ddiogelwch o fewn yr adeilad yn cael ei gwblhau am dair blynedd arall.

Mae golwg360 wedi derbyn tystiolaeth gan yr ymgyrchwyr Welsh Cladiators sy’n dangos bod y datblygwr tai Redrow wedi cytuno ym mis Ebrill eleni i wneud y gwaith o fewn dwy flynedd ar ôl cychwyn y gwaith ddechrau’r flwyddyn nesaf.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae Redrow wedi ailadrodd bod y prosiect dwy flynedd ar y trywydd iawn.

Ers hynny, mae cynrychiolwyr prydleswyr o fewn adeilad Celestia wedi derbyn gohebiaeth sy’n datgan y bydd y gwaith yn cymryd yn hirach na’r disgwyl.

Ar Hydref 23, dywedodd Redrow mewn cyfarfod â chwmni prydleswyr Celestia (CMCL) y bydd y gwaith i drwsio diffygion o fewn yr adeilad yn cymryd dwy flwyddyn a hanner.

Ddau ddiwrnod yn ddiweddarach, ar Hydref 23, cyflwynodd Redrow gynllun gwaith fydd yn cymryd tair blynedd.

Mae hyn yn golygu deuddeg mis arall o fyw mewn tai sydd yng nghanol safle adeiladu.

Er y bydd Redrow yn goruchwylio’r prosiect, mae golwg360 yn deall y bydd contractiwr yn gwneud y gwaith ei hun.

Cyn dewis contractiwr sy’n cael ei ffafrio, mae Redrow wedi derbyn tri chynnig neu dendr.

Jayne Bryant

Diffyg “atebolrwydd a thryloywder”

Yn y Senedd ddoe (dydd Mawrth, Tachwedd 12), fe wnaeth Aelodau’r Senedd ofyn i Jayne Bryant, yr Ysgrifennydd newydd ar gyfer Tai yng Nghymru, i roi pwysau ar Redrow i rannu’r rhestr o gytundebau posib o’r broses dendro efo CMCL i sicrhau bod yna ddim cynnig arall i wneud y gwaith o fewn dau fis ond am bris llai.

Yn ôl yr hyn mae golwg360 yn ei ddeall, oherwydd hyd y broses, mae prydleswyr Celestia eisiau sicrwydd nad yw Redrow wedi derbyn cynnig am waith dros gyfnod o ddwy flynedd am fwy o arian.

“Atebolrwydd a thryloywder yw’r ddau brif fater yma,” meddai Rhys ab Owen yn y Senedd.

“Ar ddiwedd mis Hydref, wnaethon nhw (prydleswyr Celestia) ddarganfod mewn cyfarfod, lle’r oedd swyddogion Llywodraeth Cymru hefyd yn bresennol, fod y gwaith adfer am gymryd dwy flynedd a hanner.

“Ddau ddiwrnod yn ddiweddarach, wnaeth e gynyddu i dair blynedd, a hynny heb reswm i egluro pam.

“Dychmygwch fod tri chwmni wedi tendro i wneud gwaith yn eich tŷ chi a does dim modd i chi weld y manylion tendro o gwbl – mae e’n magu sinigiaeth a phryder, ac nid dyna’r tryloywder rydyn ei angen yma.”

Gofynnwyd sawl gwaith i Jayne Bryant roi pwysau ar Redrow i rannu’r wybodaeth dendro â’r prydleswyr, ond wnaeth hi ddim rhoi addewid i wneud hynny.

“Rwy’n ymwybodol o’r amserlen waith ddiweddaraf yn dilyn terfyn proses dendro gystadleuol,” meddai.

“Mae swyddogion yn gweithio â’r ddwy ochr i’w hannog nhw i weithio â’i gilydd er mwyn symud ymlaen mor gyflym ag sy’n bosib.

“Mae proses dendro wedi ystyried nifer o ffactorau, fel diogelwch i drigolion ac ansawdd y gwaith, nid dim ond y gost.”

Mae hyn yn rhywbeth mae’r prydleswyr yn ei ddeall, ond maen nhw eisiau atebolrwydd a thryloywder yng nghyd-destun y frwydr hir ac anodd â Redrow.

Grenfell, Llundain

Adroddiad Grenfell

Mae diffygion tân o fewn adeiladau uchel fel Celestia ym Mae Caerdydd wedi bod o dan y chwyddwydr yn ddiweddar, yn dilyn cyhoeddi’r adroddiad terfynol i’r hyn ddigwyddodd yn Nhŵr Grenfell yn Llundain yn 2017.

Bu farw 72 o bobol o ganlyniad i’r tân yn Grenfell, gyda chladin yn cael ei roi fel y “prif reswm” tu ôl i ledaeniad y tân ar y noson.

Dywedodd Jayne Bryant yn y Senedd y bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb i’r adroddiad yn y flwyddyn newydd.

Roedd diffygion tân i’w gweld mewn adeiladau fel Grenfell cyn 2017.

Er enghraifft, mae achos cyfreithiol rhwng prydleswyr yn adeilad Celestia a Redrow ar y gweill ers 2010.

Dros y blynyddoedd diwethaf, ac o ganlyniad i newid i’r Ddeddf ar Adeiladau Aneffeithiol (DPA), mae disgwyl achos llys ar ddechrau 2026.

Wrth siarad â golwg360 ym mis Medi, disgrifiodd un o brydleswyr Celestia effaith feddyliol ac ymarferol y sefyllfa.

“Rydych chi’n gallu deall y lefel o rwystredigaeth sydd gan gynifer o bobol fod [y gwaith atgyweirio] yn cymryd cymaint o amser,” meddai Jane Dodds, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.

“Mae’r iechyd meddwl a’r trawma mae pobol yn ei ddioddef ar hyn o bryd yn yr adeiladau yma – ac mae hyn yn mynd yn ôl nifer o flynyddoedd – yn sylweddol.

“Mi fydd hi’n wyth mlynedd ers i 72 o bobol golli eu bywydau yn Grenfell, a dydi hi wir ddim yn dderbyniol fod y sefyllfa yma [yn Celestia] wedi cymryd cymaint o amser.”

Ymateb Redrow

“Yn dilyn proses ddethol drylwyr, rydym wedi penodi contractiwr arbenigol i gwblhau’r gwaith atgyweirio, gan ddechrau fis Chwefror 2025,” meddai llefarydd ar ran Redrow.

“Rydyn ni mewn trafodaethau â’r cwmni rheoli ynghylch yr anghyfleustra gafodd ei achosi gan y sgaffaldau sydd eu hangen ac, yn ddibynnol ar y canlyniad, gallai’r prosiect bara chwe mis yn hirach na’r cynllun gwreiddiol, ond rydym wedi ymrwymo i’w gwblhau mor gyflym â phosib – gyda chyn lleied o effaith ar drigolion â phosib.

Ymateb Llywodraeth Cymru

“Rydym yn ymwybodol o’r amserlen waith arfaethedig gaiff ei chynnig ar ddiwedd proses dendro gystadleuol,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Roedd y broses dendro yn ystyried nifer o ffactorau megis diogelwch preswylwyr, ansawdd, a safon y gwaith, nid cost yn unig.

“Rydym wedi ymrwymo i sicrhau’r safonau uchaf o ddiogelwch adeiladau yng Nghymru, ac rydym yn ymgysylltu’n frwd â holl ddatblygwyr mawr Cymru ar raglen waith helaeth i fynd i’r afael â materion diogelwch tân allanol a mewnol.”