Mae un o’r trigolion sy’n byw yn un o fflatiau cwmni Celestia ym Mae Caerdydd yn dweud bod datblygwyr drwg yn achosi straen meddwl.

Yn dilyn cyhoeddi adroddiad Grenfell, fe fu Mark Thomas yn siarad â golwg360 am drafferthion cyfreithiol sydd wedi codi iddo fe yn y brifddinas.

Ddoe (dydd Mercher, Medi 4), cafodd rhan derfynol yr adroddiad ei gyhoeddi, ac mae’n beirniadu cwmnïau adeiladu, llywodraethau San Steffan ers 1992 a’r awdurdod lleol yn Llundain.

Er bod ei sefyllfa ei hun yn dal yn fregus, dywed Mark Thomas fod casgliadau’r adroddiad “yn gadarnhaol” ac “yn meddwl lot”.

Bu farw 72 o bobol, ac fe gafodd y tŵr o fflatiau yn Llundain, oedd yn gartref i fwy na 200 o bobol, ei ddinistrio ar Fehefin 14, 2017.

Mae’r Welsh Cladiators yn gweithredu ar ran pobol sy’n byw mewn adeiladau anniogel, ac mae Mark Thomas, sy’n aelod o’r ymgyrch, wedi bod yn ymladd achos yn erbyn y cwmni adeiladu Redrow yn sgil deunyddiau anniogel gafodd eu defnyddio ar ei fflat ym Mae Caerdydd.

‘Mae’n eich llyncu chi’

Yn ôl Mark Thomas, mae ei fflat wedi bod yn destun ymchwiliad yr awdurdod tân saith gwaith dros y bum mlynedd ddiwethaf.

“Dwi’n mynd i’r gwely, a phan ydych chi’n dihuno mae’n eich llyncu chi,” meddai.

“Mae’r cyfrifoldeb rwyt ti’n ei gario a’r pryder a’r ymgais i geisio sicrhau bod yr adeilad yn ddiogel – a dw i’n meddwl ein bod ni wedi gwneud gwaith gwych i wneud hynny, ac mae’n siŵr o fod yn saffach nawr nag erioed – ond dw i’n mynd i’r gwely a’r peth cyntaf rwy’n ei wneud yw dihuno yn y bore yn meddwl amdano fe.

“Mae’n eich amgylchynu chi.

“Dwi’n nabod lot o drigolion sydd wedi wynebu problemau meddyliol difrifol o ganlyniad i hyn.”

Problemau pellgyrhaeddol

Dywed Mark Thomas fod nifer o bobol yn y fflatiau lle mae’n byw wedi symud allan ac wedi gwerthu am lai o arian na’r disgwyl, a bod iechyd un unigolyn wedi dirywio o ganlyniad i’r driniaeth gan Redrow, fu’n gyfrifol am welliannau i fflatiau Celestia.

“Mae yna bobol sydd eisiau cael plant, ac maen nhw’n teimlo’n gaeëdig i’w lleoliad yn yr adeilad,” meddai.

“I bobol sydd yn byw yn y llefydd yma, mae e’n dominyddu eu bywydau nhw.

“Achos dydych ddim yn gallu gwerthu nac ailforgeisi; rydych chi’n sownd yn yr unfan.

“A dyna’n union sut roeddwn i’n teimlo yn y llys; mae e mor bell i ffwrdd o’r hyn rydyn ni’n ei haeddu.”

“Tebygrwydd mawr” rhwng helyntion Tŵr Grenfell a Swyddfa’r Post

Rhys Owen

“Mae yna anghydbwysedd mawr o ran pŵer rhwng sefydliadau corfforaethol a’r bobol fach – mae hyn yn amlwg iawn”