Wrth annog rhedwyr i gofrestru’r mis yma, mae trefnwyr Rasys Nos Galan yn Aberpennar yn dweud bod y digwyddiad “yn cynrychioli Rhondda Cynon Taf yn ei chyfanrwydd”.

Bydd rhaid i gyfranogwyr cofrestru’r mis hwn er mwyn cymryd rhan yn y ras flynyddol ar Ragfyr 31.

Mae’r ras yn cynnwys nifer o gategorïau, gan gynnwys 5k i ddynion a menywod élit, a’r 600m ac 1.2k i blant, yn ogystal â rhedwr cudd sy’n cael ei ddatgelu ar y diwrnod.

“Mae Nos Galan yn ddigwyddiad sy’n cynrychioli Rhondda Cynon Taf yn ei chyfanrwydd,” meddai’r trefnwyr.

“Er bod y ras yn cael ei chynnal yn Aberpennar, yng Nghwm Rhondda, mae’n dathlu chwedl Guto Nyth Bran, oedd yn arfer byw yn y Rhondda.

“Cafodd y digwyddiad ei greu gan Bernard Baldwin er mwyn dathlu chwedl y dyn cyflymaf yn y byd ac i ailddweud ei stori.

“Mae Rhondda Cynon Taf yn falch iawn o’i hanes, diwylliant, chwedlau a mythau, ac rydym am eu hyrwyddo a’u dathlu cymaint ag y gallwn i annog trigolion i fod yn falch ac i gael pobol o’r tu allan i’r Cwm i ddod i ymweld.

“Mae’r gwobrau mae Nos Galan wedi’u hennill ac enw da’r digwyddiad yn golygu bod pobol ar draws y Deyrnas Unedig – ac weithiau’n bellach – yn teithio i Aberpennar ar Nos Galan i gymryd rhan.”

Blwyddyn gron o drefnu

Mae’r gwaith o drefnu’r Rasys yn para blwyddyn gyfan o un Nos Calan i’r llall, ac mae’r trefnwyr yn disgwyl miloedd o gystadleuwyr eto eleni.

“Mae Rasys Nos Galan yn denu dros 2,000 o redwyr bob blwyddyn ar draws pob un o’n categorïau,” medden nhw.

“[Mae’r trefniadau] yn dechrau bron ar unwaith wedi diwedd ras y flwyddyn flaenorol, gyda’r pwyllgor yn cwrdd ar ddechrau Ionawr er mwyn nodi’r weledigaeth a chynlluniau ar gyfer y flwyddyn i ddod.

“Yna, wrth i’r misoedd fynd ymlaen, mae’r paratoadau yn cyflymu, gyda chofrestru yn dechrau ym Medi, cyn cyflymu unwaith eto hyd at ddechrau’r digwyddiad ar Ragfyr 31.

“Mae’r pwyllgor, gyda help gweithwyr proffesiynol o fewn y diwydiant digwyddiadau, yn gweithio’n ddiflino i redeg y ras yn flynyddol.”

Ond gyda chymaint o amser ac egni yn cael ei roi i mewn i gynllunio digwyddiad o’r maint hwn, gall y gost fod yn broblem.

“Mae yna wastad pwysau cyllidebol wrth drefnu digwyddiadau, ac mae ceisio cydbwyso ffi mynediad fforddiadwy gyda chostau gweithredol yn gallu bod yn dynn ar adegau,” medd y trefnwyr.

“Ond, diolch i noddwyr, cymorth a ffioedd cofrestru, mae’r digwyddiad yn dychwelyd yn flynyddol.”

‘Cyffro’

Mewn datganiad, dywed y Cynghorydd Ann Crimmings, cadeirydd Pwyllgor Rasys Nos Galan, fod cryn dipyn o gyffro wrth aros i’r Rasys ddychwelyd i’r dref.

“Rydym yn croesawu rhedwyr o bob cwr o’r byd,” meddai.

“Wrth i’r rasys fynd i mewn i’w 66ain blwyddyn, rydym yn disgwyl i docynnau werthu’n gyflym.

“Rydym yn edrych ymlaen at groesawu trigolion ac ymwelwyr ar Nos Calan.”

Bydd y rownd gyntaf o docynnau ar werth ddydd Llun, Medi 16 am 10yb.