Mae dyn â nam golwg gafodd ei orfodi i chwarae pêl-droed dros Loegr, gan nad oedd gan Gymru dîm ar y pryd bellach, “yn dangos bod bywyd ychwanegol i’w fyw efo nam golwg”.

Cafodd Nick Thomas o Dalysarn ger Caernarfon ddiagnosis o afiechyd stargardt yn ddeunaw oed.

Mae’n gyflwr sy’n effeithio’r golwg canolog.

Erbyn hyn, mae bron yn llwyr ddibynnol ar olwg perifferol.

‘Yr unig beth oedd yn gyson yn fy mywyd i’

Mae chwaraeon wedi bod yn bwysig iawn Nick Thomas erioed, yn enwedig wrth i’w olwg ddirywio.

Er gwaetha’r heriau meddygol, mae’r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn “llwyddiannus ofnadwy” iddo, ac yntau’n bara-saethwr sydd “ar dop y gêm”.

Cafodd o ddwy strôc o fewn pymtheg mis, ond mae wedi parhau i gael “canlyniadau cryf mewn cystadlaethau mawr”, meddai.

Fis Chwefror eleni, fe ddaeth yn bencampwr para-saethyddiaeth dan do Prydain am y tro cyntaf, ac fe enillodd fedal efydd wrth gynrychioli Prydain ym Mhencampwriaeth Para-saethyddiaeth Ewrop yn Rhufain rai misoedd wedyn.

Fe enillodd ddwy fedal arian ym Mhencampwriaeth Anabledd Cenedlaethol a Phencampriaeth Chwaraeon Awyr Agored Prydain ym mis Medi.

Mae hyn oll wedi rhoi’r cyfle iddo gynrychioli Prydain ym Mhencampwriaeth Para-saethyddiaeth y Byd yng Nghorea fis Medi nesaf.

“Dw i wedi bod yn gwneud chwaraeon trwy fy oes; dyna oedd fy mhethau i yn tyfu fyny,” meddai wrth golwg360.

“Mae hwnnw wedi cario ymlaen yn y byd para-chwaraeon hefyd.

“Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, dw i’n teimlo fy mod i wedi cyflawni tipyn ac yn edrych ymlaen at beth sydd i ddod y flwyddyn nesaf.

“Pan wyt ti’n cael diagnosis [o stargardt], fel oeddwn i, yn hogyn ifanc, rwyt ti’n treulio amser yn cael dy ben rownd beth mae hynny’n feddwl i ti wrth symud ymlaen yn dy fywyd, mewn ffordd.

“I fi’n bersonol, chwaraeon oedd yr unig beth oedd yn gyson yn fy mywyd i.

“Dyna oedd yr unig beth o’n i’n disgyn yn ôl arno fel coping mechanism, mewn ffordd.

“Fy ffordd i o ymdopi efo bob dim oedd yn mynd ymlaen ar yr adeg honno oedd lluchio fy hun mewn i chwaraeon.”

“Cefnogaeth isel ofnadwy” gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru ers talwm

Mae Nick Thomas yn disgrifio pêl-droed fel ei “gariad cyntaf”.

Fe wynebodd rwystredigaeth pan nad oedd hi’n bosib iddo ddatblygu ymhellach yn y gamp oherwydd y nam ar ei olwg.

Er mwyn iddo gyrraedd y lefel uchaf yn y maes pêl-droed yn ystod degawd cynta’r ganrif hon, roedd yn rhaid iddo fynd i chwarae dros y ffin yn Lloegr, gan nad oedd gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru dîm yn benodol i bobol â nam golwg bryd hynny.

Er gwaethaf ei ymdrechion i sefydlu tîm am gyfnod o ddwy flynedd, ychydig iawn o ddiddordeb oedd gan y Gymdeithas Bêl-droed a’r cyhoedd, ac felly fe ddechreuodd chwarae yng Nghynghrair Prydain yn Loughborough.

“Mi oeddwn i’n cael lot o stick am fod yn Gymro Cymraeg yn chwarae i Loegr, ac yn rhwystredig ofnadwy achos dw i’n Gymro Cymraeg pur,” meddai.

“Roeddwn i eisiau chwarae i Gymru, ac mi oedd y lefel allan yno yn barod â gwledydd eraill yn chwarae’r gêm, felly pam ddim Cymru?

“Dw i’n meddwl fod y lefel o gefnogaeth gafon ni gan y Gymdeithas Bêl-droed yn isel ofnadwy, ac roedd y gefnogaeth fwyaf ges i gan rai o swyddogion datblygu pêl-droed yn siroedd Gwynedd ac Ynys Môn.

“Roeddan nhw eisiau cychwyn [tîm], ond y lefel arall o hynny wedyn ydi, yn anffodus, doedd yna ddim llawer o bobol efo nam golwg yn troi i fyny i’r sesiynau chwaith.

“Roedd o reit amlwg doedd yna ddim digon o ddiddordeb gan y cyhoedd, felly roedd o’n rhwystredig ofnadwy i fi, oedd yn rili keen i roi’r crys coch ymlaen a gallu cynrychioli fy ngwlad.

“Diwedd y gân yw’r geiniog – it was not meant to be, yn anffodus – ac felly roeddwn i’n gorfod rhoi crys Lloegr ymlaen.

“Ond wrth sbïo yn ôl ar fy mywyd, dw i wedi cael profiadau gwych yn trafeilio o gwmpas y byd.

“Maen nhw’n brofiadau sydd wedi fy siapio i fel person, mewn ffordd.

“Ar ôl ymddeol, mi wnes i symud ymlaen i saethyddiaeth wedyn, a datblygu’n sydyn yn hwnnw hefyd.

“Felly, dw i wedi bod yn ffodus iawn i allu cynrychioli ar lefel uchel ofnadwy, dim ots pa chwaraeon dw i wedi trio mewn ffordd.

“Dw i’n cysidro fy hun yn lwcus fy mod i wedi gallu gwneud hyn, ond ar yr ochr arall, mae wedi bod yn ffordd o ymdopi efo pob dim.”

Cymdeithas Deillion Gwynedd

Mae Nick Thomas bellach yn gweithio fel swyddog datblygu i elusen Cymdeithas Deillion Gwynedd ym Mangor, ac mae’n awyddus iawn i ddefnyddio’i rôl er mwyn lledaenu’r neges fod “bywyd ychwanegol i’w fyw” gan bobol sydd â nam ar eu golwg.

Mae’r elusen yn gweithio’n agos gyda’u cleientiaid, gan ddarparu cefnogaeth ymarferol i’w helpu i fyw’n annibynnol.

“Dros y flwyddyn ddiwethaf, dw i wedi bod yn ceisio gwneud mwy o brosiectau gyda phlant a phobol ifanc sydd â nam golwg, er mwyn ehangu eu profiadau nhw yn gymdeithasol,” meddai.

“Y stori rydan ni’n ei chlywed gan lawer o’r cleientiaid yw eu bod nhw’n mynd i’r ysbyty ac yn cael y profion i gyd, a’u bod nhw’n cael y diagnosis reit erchyll yma.

“Maen nhw’n dweud, ‘Dyma beth ydi’r diagnosis’, a dyna fo mewn ffordd.

“Does yna ddim lot o gefnogaeth wedyn.

“Pan ges i’r cyswllt efo’r Gymdeithas, fe ddaeth y tîm allan ata’ i a dangos fod yna fywyd ychwanegol wedyn i’w fyw efo’r nam golwg.

“Roedd cael rhywun o’r Gymdeithas yn dod allan i siarad a chael y wybodaeth a’r gefnogaeth yna yn priceless, mewn ffordd.

“Ers i mi gael y gefnogaeth, roeddwn i wastad eisiau dod i mewn i’r maes yna a gallu bod y person sy’n rhannu profiadau a rhannu’r neges fod yna fywyd ychwanegol i’w fyw efo nam golwg.

“Mae’r gwasanaethau mae’r elusen yn eu cynnig yn rhad ac am ddim, ac rydan ni yma yn barod i gefnogi unrhyw un sydd â nam golwg.

“Dydyn nhw ddim yn gorfod bod wedi’u cofrestru’n ddall; os oes gan rywun unrhyw broblem golwg sydd methu cael ei gywiro gan lens neu sbectol, rydan ni yma i’w helpu.”