Heddiw, dw i’n edrych nôl ar fy mhrofiad yn gwirfoddoli fel yr ‘ysgol brofiad orau erioed’.

Dechreuais wirfoddoli o oed ifanc iawn i fy nghlwb pê-droed lleol, Nantlle Vale, er nad oeddwn yn deall ystyr y term yr adeg honno. Heddiw, dw i’n gwerthfawrogi fy nghyfnod efo’r clwb a’r pwyllgor fel un i’w drysori am byth.

Mae cartref Clwb Pêl-droed Nantlle Vale dri chae o ‘nghartref i, felly daeth yn gam naturiol gyda fy nheulu i ddilyn y clwb o oed ifanc iawn, gan ddilyn ôl traed rhai aelodau o fy nheulu i wirfoddoli.

Dechreuais fynd rownd efo bocs raffl o oed ifanc iawn, cyn cymryd rôl ‘Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol’ yn 14 oed; swydd gefais fy ysbrydoli i’w gwneud gen Daniel Bell, rheolwr y tîm cyntaf ar y pryd, a fedra i ddim diolch digon iddo am fy arwain mewn i’r maes.

Roedd y rôl yma yn un wnes i fwynhau ei gwneud am bedwar tymor, o ffilmio fideos uchafbwyntiau i gyfweliadau a chreu posteri. Roeddwn wrth fy modd yn helpu’r clwb, ond yn ogystal yn hyrwyddo fy nghlwb lleol, gan roi Dyffryn Nantlle ar y map. Nid oeddwn erioed wedi ystyried y sgiliau fyswn yn eu datblygu wrth ddechrau gwirfoddoli gyda’r clwb. Heb anghofio gallu cyfarfod ffrindiau oes, fel Kim Warrington-Davies, cadeirydd y clwb, sydd yn un o fil yn rhedeg y clwb.

Heddiw, wrth astudio Cymraeg efo Newyddiaduraeth yn Mhrifysgol Bangor, dw i’n sylwi pa mor lwcus a gwerthfawr oedd y profiad yno i mi. Cefais y cyfle i ddatblygu sgiliau sylfaenol mewn unrhyw weithle, er enghraifft cyfathrebu, gwaith tîm a threfnu’n ifanc. Yn ogystal, cefais y cyfle i wneud gwaith digidol – fel cyfweliadau, fideos ac ysgrifennu i’r wasg, sef fy aseiniadau yn y brifysgol erbyn heddiw.

Oherwydd fy ngwaith gyda Chlwb Pêl-droed Nantlle Vale, dw i’n is-gadeirydd Cyngor Ieuenctid Cymdeithas Bêl-droed Cymru heddiw, ac yn aelod balch o dîm marchnata Clwb Pêl-droed Caernarfon.

Nid oedd gen i nod o gwbl pan ddechreuais heblaw am gynyddu proffil y clwb. Sylweddolais gynnydd y clwb pan ddaeth Cymru C i hyfforddi ar gae Faes Dulyn yn 2021, a chefais fy ethol yn rhan o Gyngor Ieuenctid Cymru, a finnau’n is-gadeirydd erbyn heddiw. Yn rhan o glwb, rydych yn cael eich arwain i weithio gyda phobol wahanol o ddiwylliannau a chefndiroedd amrywiol, sy’n sgil i unrhyw weithle. Yn ogystal, cefais y cyfle i gydweithio a chyd-drafod beth sydd orau i’r clwb, o’r timau dan 6 oed hyd at y tîm cyntaf.

Yn aml iawn, mae gwirfoddoli yn gallu ymddangos yn derm sy’n codi ofn ac sy’n dychryn pobol ifanc, ac fe all fod yn gymhleth. Fodd bynnag, credaf fod gwirfoddoli yn hwyl er mwyn datblygu eich sgiliau, helpu eich cymuned, a mwynhau ar yr un pryd. Does yna fyth unrhw ofynion o ran oriau ac ati, ac nid oes angen i chi helpu’n wythnosol – dim ond pryd ydych chi ar gael.

Yn ogystal, wrth wirfoddoli, does dim contract fel petai – os nad ydych yn mwynhau, mae yna wastad clybiau, mudiadau a chanolfannau o’n cwmpas sydd yn chwilio am gefnogaeth. Yn wir, mae’n eich arwain i gyfarfod pobol newydd na fyddech yn dod ar eu traws fel rheol, sy’n eich ysbrydoli hyd yn oed yn fwy yn eich gyrfa. Er nad ydych yn ennill arian, mae’r cyfloedd gewch chi mor werthfawr i’ch CV, a phan oeddwn yn ysgrifennu datganiad personol i’r brifysgol, sylweddolais faint roedd gwirfoddoli wedi fy siapio fel person.

Oherwydd fy mod wedi rhoi oriau i’r clwb, dw i wedi cael profiadau gwaith gyda thimau cenedlaethol Cymru a Sgorio, gan fod yn ddigon ffodus i dderbyn cyfleoedd cyflogedig mewn swyddi marchnata i GISDA a Bro360.

Mae’n ystrydeb heddiw fod gwirfoddoli’n ddiflas ac nad ydych chi’n cael unrhyw werth ohono. Ond rydych yn rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned. Mae’n agor drysau i gymaint o bethau gwahanol a chymaint o elfennau o’ch bywyd. Mae’n gyfle i adeiladu sgiliau am ddim sydd o ddiddordeb i chi, ac i rwydweithio.

Yn bennaf, fyswn i ddim wedi cael y cyfle i fynd gyda thîm Chaernarfon fel crëwr cynnwys digidol i’r UEFA Conference League os na fyswn i wedi rhoi’r oriau i mewn i wirfoddoli gyda Nantlle Vale.

Mae’r sgiliau ddatblygais ym Maes Dulyn yn sgiliau dw i’n parhau i’w defnyddio yn fy rôl ar yr Oval heddiw. Roeddwn wedi gwireddu breuddwyd wrth allu goruchwylio’r cyfryngau cymdeithasol mewn gemau mor fawr i’r Cofis yr haf yma. Dw i’n cofio cyrraedd stadiwm Legia Warsaw gan feddwl ‘Waw! Hogan o Gae, fel dw i! Be’ ddiawl dw i da mewn stadiwm a chyfleusterau fel hyn?’

Mae cymaint y gall gwirfoddoli ei gynnig i chi. Cerwch amdani!

Erbyn heddiw, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi gwneud llawer o waith arbennig i gydnabod gwirfoddolwyr ar lawr gwlad yng Nghymru.