Bydd tîm pêl-droed menywod Cymru’n herio Ffrainc, Lloegr a’r Iseldiroedd yn Ewro 2025.

Byddan nhw’n chwarae yng Ngrŵp B ar ôl cymhwyso ar gyfer twrnament mawr am y tro cyntaf erioed.

16 tîm fydd yn cystadlu am y tlws, gyda phedwar grŵp o bedwar gwlad yr un.

Cymhwysodd y Swistir yn awtomatig gan mai nhw fydd yn cynnal y twrnament, ac hefyd wedi cymhwyso mae Norwy, sydd dan reolaeth Gemma Grainger, rhagflaenydd Rhian Wilkinson, rheolwr presennol Cymru.

Roedd Jess Fishlock, un o sêr Cymru, a’r is-reolwr Jon Grey yn y gynulleidfa yn Lausanne i weld yr enwau’n dod allan o’r het.

Cymru yn erbyn Lloegr

Bydd Cymru’n herio Lloegr, deiliaid y tlws ar ôl ennill y twrnament diwethaf, yn St Gallen ar Orffennaf 13.

Hon fydd gêm ola’r grwpiau, felly gallai fod yn gêm dyngedfennol.

Byddan nhw hefyd yn herio’r Iseldiroedd, sef y pencampwyr blaenorol, a Ffrainc, oedd wedi cyrraedd rownd gyn-derfynol yr Ewros diwethaf.

Cyn i’r enwau gael eu tynnu o’r het, roedd Jill Scott, chwaraewr Lloegr, yn edrych ymlaen at y posibilrwydd o herio Cymru yn y twrnament.

“Mae hi mor arbennig,” meddai wrth y BBC am gemau rhwng y ddwy wlad.

“Roeddwn i mor hapus drostyn nhw pan wnaethon nhw gymhwyso.

“Dw i’n siŵr fod yna lawer o gefnogwyr Cymru sydd wedi cyffroi i gael gweld pwy fyddan nhw’n eu hwynebu.

“Byddai’n wych, ond oni fyddai’n well fel gêm yn y rowndiau terfynol, felly byddwn i wrth fy modd yn eu gweld nhw’n herio’i gilydd,” meddai am Loegr.

“Byddai’n wych i’r cefnogwyr, ond efallai y tu hwnt i’r grwpiau.”


Grŵp A – Y Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ, Y Ffindir

Grŵp B – Sbaen, Portiwgal, Gwlad Belg, Yr Eidal

Grŵp C – Yr Almaen, Gwlad Pwyl, Denmarc, Sweden

Grŵp D – Ffrainc, Lloegr, Cymru, Yr Iseldiroedd