Mae Russell Martin, cyn-reolwr tîm pêl-droed Abertawe, wedi cael ei ddiswyddo gan Southampton.
Daw hyn ar ôl y grasfa o 5-0 yn erbyn Spurs ddoe (dydd Sul, Rhagfyr 15).
Bellach, maen nhw naw pwynt i ffwrdd o’r safleoeddd diogel ar waelod Uwch Gynghrair Lloegr.
Maen nhw wedi colli 13 o’u 16 gêm gynghrair y tymor hwn, ar ôl ennill dyrchafiad y tymor diwethaf.
Daeth eu hunig fuddugoliaeth yn erbyn Everton fis diwethaf.
Dim ond unarddeg o goliau maen nhw wedi’u sgorio hyd yma.
Mae Graham Potter, un arall o gyn-reolwyr yr Elyrch, wedi’i gysylltu â’r swydd, ac hefyd â swydd rheolwr Wolves.
Un arall sydd wedi’i gysylltu â Wolves yw’r Cymro Steve Cooper, yn dilyn diswyddo Gary O’Neil.