Bydd tîm pêl-droed Cymru’n wynebu Gwlad Belg yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2026.

Bydd tîm Craig Bellamy hefyd yn herio Gogledd Macedonia, Kazakhstan a Liechtenstein wrth iddyn nhw geisio sicrhau eu lle ar yr awyren i Ganada, Mecsico a’r Unol Daleithiau.

Cafodd yr enwau eu tynnu o’r het yn Zurich fore heddiw (dydd Gwener, Rhagfyr 13).

Bydd y gemau rhagbrofol yn cael eu cynnal rhwng mis Mawrth a mis Tachwedd y flwyddyn nesaf.

Bydd y deuddeg tîm sy’n gorffen ar frig eu grwpiau’n cymhwyso’n awtomatig, gyda’r pedwar lle arall yn mynd i’r pedwar enillydd grŵp gorau yng Nghynghrair y Cenhedloedd oedd heb orffen ar frig neu yn ail safle eu grwpiau.

Bydd yr 16 tîm yn y gemau ail gyfle’n mynd i un o bedwar llwybr, gyda phedwar tîm ym mhob llwybr.

Bydd gemau ail gyfle’n cael eu cynnal dros un cymal, gyda rownd gyn-derfynol a rownd derfynol fis Mawrth 2026.