Mae Jack Shore, yr ymladdwr crefftau ymladd cymysg (MMA) wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol o’r gamp.
Mewn datganiad, dywed fod cyfres o anafiadau wedi gadael eu hôl ar ei iechyd meddwl.
Daw ei ymddeoliad ar ôl i’r ymladdwr 29 oed o Abertyleri benderfynu peidio llofnodi cytundeb newydd gyda’r UFC, sef haen ucha’r gamp y bu’n rhan ohoni ers 2019.
Yn ystod ei yrfa, mae e wedi ennill 17 allan o ugain o ornestau yn y gawell, gan gynnwys ennill chwech allan o naw o ornestau yn yr UFC.
Daeth un o’r colledion hynny yn ei ornest olaf yn erbyn Youssef Zalal fis diwethaf.
Mae e wedi diolch i’r UFC, ei deulu, ei ffrindiau, ei hyfforddwyr a’r gampfa.