Mae Gwasanaeth Iechyd yr Ymennydd wedi cael ei lansio yng Nghymru i gefnogi cyn-chwaraewyr rygbi.

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cydweithio â Chymdeithas Chwaraewyr Rygbi Cymru (WRPA) a Rygbi’r Byd i lansio’r gwasanaeth fydd yn cefnogi cyn-chwaraewyr all fod yn dioddef yn sgil ergydion i’r pen.

Mae’r gwasanaeth ar gael yn rhad ac am ddim, ac mae’n seiliedig ar wasanaethau tebyg yn Iwerddon ac Awstralia.

Yn rhan o’r rhaglen mae:

  • rhaglen ymwybyddiaeth ac addysg
  • holiadur ar-lein ac asesiad gwybyddol gan ymarferydd
  • asesiad o arwyddion o niwed i’r ymennydd
  • cyngor ynghylch rheoli ffactorau all achosi perygl
  • arwyddbostio ar gyfer unrhyw un mae angen gofal arbenigol arnyn nhw.

Mae’r gwasanaeth newydd yn cyd-fynd â thechnoleg arbenigol newydd ac arbrofi â rheolau’r gêm ar lawr gwlad yng Nghymru a thu hwnt i’w gwneud hi’n gamp fwy diogel.

Mae Undeb Rygbi Cymru’n talu’r holl gostau sydd ynghlwm wrth sefydlu’r gwasanaeth, ynghyd â chostau cyflogi staff i’w redeg.

Bydd cyn-chwaraewyr hefyd yn cael gwybod am gategori aelodaeth arbennig sy’n rhoi mynediad iddyn nhw at gefnogaeth ar gyfer eu lles meddyliol, eu datblygiad personol, cyngr ynghylch gyrfaoedd tu hwnt i’r cae chwarae, a chyfleoedd i ymgysylltu â’r gymuned.

Bydd unrhyw un sy’n arddangos arwyddion o niwed i’r ymennydd yn cael eu cyfeirio at arbenigwr ar gyfer profion.

Bydd y gwasanaeth ar gael i unrhyw gyn-chwaraewr, boed yn ddyn neu’n fenyw, sydd wedi cynrychioli Cymru mewn rygbi pymtheg neu saith bob ochr, unrhyw un sydd wedi chwarae’n broffesiynol yng Nghymru ers Awst 1995, ac unrhyw un fu’n chwarae rygbi élit yng Nghymru cyn 1995.

‘Lles chwaraewyr yn hanfodol’

“Rydyn ni wrth ein boddau o gael cydweithio â Rygbi’r Byd a’r WRPA wrth lansio’r gwasanaeth hwn yng Nghymru,” meddai Prav Mathema, Rheolwr Gwasanaethau Meddygol Undeb Rygbi Cymru.

“Mae lles chwaraewyr yn hanfodol, ac mae’n bwysig i ni allu darparu gwasanaeth eang a hygyrch gydag arweiniad arbenigol, fel bod chwaraewyr yn cael mynediad at yr adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw i fyw bywyd iach a llawn tu hwnt i rygbi.

“Rydyn ni’n teimlo bod y gwasanaeth hwn yn dangos ein hymrwymiad parhaus i gefnogi’r rheiny sydd wedi chwarae’r gêm ar lefel élit yng Nghymru a’u lles parhaus y tu hwnt i’w dyddiau’n chwarae’r gêm.”

Dywed Abi Tierney, Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, ei bod hi’n “hanfodol ein bod ni’n parhau i flaenoriaethu addysg, iechyd a lles ar bob lefel o’r gêm” fel bod modd iddyn nhw “fod yn Undeb sy’n arwain”.

Dywed yr Athro Eanna Falvey, Prif Swyddog Meddygol Rygbi’r Byd, fod y gwasanaeth yn “rhoi rhywle i unrhyw chwaraewr sy’n poeni fynd er mwyn cael tawelu eu meddyliau”.

Atega’r neges mai “lles chwaraewyr yw’r brif flaenoriaeth”.

Dywed yr WRPA fod y gwasanaeth yn “gam mawr arall yn y cyfeiriad cywir”.