Mae p’un ai rygbi neu bêl-droed yw camp genedlaethol Cymru’n gwestiwn oesol, ond mae ymchwil newydd yn awgrymu mai rygbi yw’r ateb ar hyn o bryd.
Mae’r tîm pêl-droed cenedlaethol yn profi adfywiad o dan Craig Bellamy eleni, ond blwyddyn siomedig gafodd ein tîm rygbi yn y crys coch o dan Warren Gatland, heb yr un fuddugoliaeth yn ystod y flwyddyn galendr.
Er gwaetha’r canlyniadau a’r gwahaniaethau amlwg ym mherfformiadau’r timau pêl gron a’r bêl hirgron yn 2024, mae’n ymddangos mai rygbi sydd ar y brig serch hynny wrth edrych ar y diddordeb sydd gan bobol mewn dechrau chwarae camp newydd.
Harlow Leisurezone sydd wedi cynnal yr arolwg, sy’n defnyddio nifer y chwiliadau ar-lein sy’n ymwneud â dosbarthiadau pêl-droed a rygbi.
Ar gyfartaledd, roedd 1,750 o chwiliadau ar beiriant pori am rygbi bob mis dros y flwyddyn ddiwethaf, o gymharu â 1,400 ar gyfer pêl-droed.
Ymchwil fesul dinas
Ar y cyfan, mae pêl-droed yn fwy poblogaidd na rygbi yn ein dinasoedd – gyda 60% o’n dinasoedd yn chwilio’n amlach am ddosbarthiadau’r bêl gron na’r bêl hirgron.
Pêl-droed oedd ar y brig yn Abertawe, Casnewydd a Wrecsam, trai bod Bangor a Chaerdydd yn ffafrio rygbi.
Yn Harlow Leisurezone, mae mynd i gemau chwaraeon yn rhan annatod o ddathliadau’r Nadolig i lawer o bobol, ac mae gwersi a dosbarthiadau chwaraeon yn rhan bwysig o baratoadau rhai pobol ar gyfer y Flwyddyn Newydd, wrth i rai pobol wneud Addunedau Blwyddyn Newydd.
“Mae yna rai canlyniadau diddorol yn y data hwn sy’n dangos pwysigrwydd chwaraeon ym mywydau pobol, p’un a ydyn nhw’n mwynhau pêl-droed neu rygbi,” meddai David Marrington, Rheolwr Iechyd a Ffitrwydd y cwmni.
“Mae’n galonogol gweld cynifer o bobol yn rhoi cyfranogiad mewn chwaraeon ar frig eu hagenda ffitrwydd ar gyfer y flwyddyn i ddod.
“Waeth beth ydych chi’n ei ffafrio, mae’r campau traddodiadol megis pêl-droed a rygbi’n cynnig cyfle gwych i gyfarfod â phobol eraill a gwneud ymarfer corff fel rhan o gymuned.”
P'un yw camp genedlaethol Cymru?🤔
— Golwg360 (@Golwg360) December 11, 2024