Mae cynllun i leoli 44 o gynwysyddion mewn tref ar lan y môr ar Ynys Môn wedi’i gymeradwyo gan gynllunwyr unwaith yn rhagor.

Mae’r cynllun wedi achosi pryder y byddai’n cyflwyno “elfen ddiwydiannol” i gefn gwlad agored mewn ardal mae twristiaid yn ymweld â hi.

Fis diwethaf, cafodd Clwb Golff Sir Fôn ganiatâd i osod unedau storio ar eu tir.

Cafodd y cynllun ei gyfeirio’n ôl at Bwyllgor Cynllunio’r Cyngor wedi i gynghorwyr fynd yn erbyn argymhelliad y swyddog i beidio â’i ganiatáu.

Cafodd ei gymeradwyo unwaith yn rhagor, yn groes i awgrym y swyddog, mewn ail ddadl yn ystod cyfarfod Pwyllgor Cynllunio a Threfnu Cyngor Ynys Môn ddoe (dydd Mercher, Medi 4).

Goblygiadau

Dywedodd cynrychiolydd ar ran y clwb wrth gynllunwyr yr ynys fis Gorffennaf y byddai’r clwb, sydd wedi goroesi dros ganrif o hanes, dan fygythiad o gau’n barhaol a cholli pum swydd, pe na bai cyfle iddo fedru arallgyfeirio.

Roedd y clwb wedi cynnig newid defnydd eu tir i leoli 39 cynhwysydd maint arferol a phum cynhwysydd llai.

Cytunodd y cynllunwyr i ganiatáu cais y clwb.

Dywedodd Rhys Jones, yr Uwch Swyddog Cynllunio, fod cyfarfod wedi’i gynnal rhwng y cynllunwyr, y clwb a’u hasiant.

Cafodd tystiolaeth ei chyflwyno oedd yn dangos bod y clwb mewn trafferth ariannol a bod yr adran yn “fodlon” bod “cyfiawnhad digonol” dros fod angen i’r clwb arallgyfeirio.

Ond wrth ymateb i dystiolaeth yn dadlau y byddai tirlunio’n dechrau o fewn pum mlynedd, dywedodd yr Uwch Swyddog Cynllunio ar gyfer Tirlunio a Choed ei fod yn teimlo na fyddai plannu’n medru cychwyn am o leiaf ddeg i bymtheg mlynedd.

Mae’r safle mewn “lleoliad agored” ac yn agored i niwed gan wyntoedd uchel ac aer hallt, ac fe fyddai plannu felly wedi’i rwystro.

Byddai hyn yn golygu y byddai’r safle’n “weledol ymwthiol am gyfnod estynedig”, meddai.

Am fod y safle wedi’i leoli 150m o ffin ddatblygu Rhosneigr, roedd Rhys Jones wedi dadlau bod angen ei ystyried yn “gefn gwlad agored” yn nhermau cynllunio.

Er iddo gydymdeimlo â sefyllfa ariannol y clwb, a chydnabod ei fod yn “adnodd pwysig i’r gymuned”, doedd hynny ddim yn trechu pryderon cynllunio.

‘Annerbyniol’

Ei gyngor unwaith yn rhagor oedd gwrthod y cais, gan ddod i’r casgliad bod y safle mewn “lleoliad blaenllaw mewn cefn gwlad agored”, ac y byddai’n arwain at ddatblygiad adeiladol “annerbyniol” fyddai’n gwrthdaro â pholisi.

Dywedodd yr aelod lleol, y Cynghorydd Douglas Fowlie, ei fod yn “hynod ddiolchgar” i’r pwyllgor am eu synnwyr cyffredin wrth gymeradwyo’r cynllun y tro diwethaf.

Fe dderbyniodd fod dwylo’r swyddogion “wedi’u clymu” gan ddiffiniadau cynllunio megis “cefn gwlad agored”.

“Ond yn fan’ma, rydych chi ar waelod rhedfa, mae carafannau ym mhobman, mae yna iard adeiladu, mae tŷ, tŷ i’r clwb, a chlwb chwaraeon,” meddai.

“Dw i ddim yn cytuno efo diffiniad y safle fel cefn gwlad agored.”

O safbwynt materion polisi, fe honnodd fod yr iaith Gymraeg yn “ffynnu” yn y clwb, gyda digwyddiadau cymdeithasol rheolaidd, a’i fod yn darparu “lles” i bobol leol.

Dywedodd y Cynghorydd Neville Evans mai un gwyn yn unig dderbyniodd o, ond fod “dwsinau o bobol” wedi ei longyfarch am gefnogi’r clwb.

Ac yntau’n Aelod Portffolio Hamdden a Thwristiaeth, roedd yn cefnogi’r cais, gan ddadlau bod y clwb yn rhan o “gynnig twrisitiaeth Ynys Môn”.

“Mae amheuaeth fod y safle’n cyfri fel cefn gwlad agored,” meddai, gan ychwanegu “nad yw carafannau’n ddim gwahanol i gynwysyddion”.

‘Elfen ddiwydiannol’

“Rydym ni’n teimlo y byddai 44 cynhwysydd mewn ardal dwristaidd yn dod ag elfen ddiwydiannol i’r ardal ac yn tynnu oddi ar y cynnig i dwristiaid,” meddai Rhys Jones.

“Dwi’n anghytuno bod carafannau’n debyg i gynwysyddion – pe baech chi’n cyfnewid yr holl garafannau ar yr ynys am gynhwysyddion dwi’n sicr na fyddai twristiaid yn hapus iawn.”

Anghytuno oedd y Cynghorydd Jeff Evans.

“Mi ddylen ni fod yn edrych am ffyrdd i helpu’r clwb, nid i’w gau e i lawr,” meddai.

“Dw i ddim yn credu ei fod yn gefn gwlad agored – efallai bod opsiwn arall; mae hynny’n cyfeirio at fryniau a dyffrynnoedd, nid lle’n agos at garafannau, gwersyll yr Awyrlu, busnesau a thai, nid cefn gwlad agored ydy hynny.”

Ond doedd y Cynghorydd Llewelyn Jones ddim yn teimlo mai cymeradwyo’r cynllun oedd y “ffordd gywir” i helpu’r clwb.

Awgrymodd y dylid trafod â’r clwb i weld a oedd ffyrdd eraill o helpu’r busnes, gan gynnwys cael ysgolion i gymryd rhan.

Teimla na fyddai’r cynllun yn “gweddu’r amgylchedd”, gan annog derbyn argymhelliad y swyddog i’w wrthod.

Ychwanegodd Rhys Jones fod y clwb “yn cael ei redeg yn arbennig o dda”, ond nododd ei fod wedi’i effeithio gan yr hinsawdd economaidd gyfredol.

Cynigiodd y Cynghorydd Neville Evans dderbyn y cais, wedi’i eilio gan Jeff Evans, gan ennill saith pleidlais.

Cynigiodd y Cynghorydd Robert Llywelyn Jones wrthod y cais, wedi’i eilio gan y Cynghorydd Trefor Lloyd-Hughes, ond tair pleidlais yn unig enillon nhw.

Poeni am effaith datblygu clwb golff Cymraeg ar dwristiaeth

Dale Spridgeon, Gohebydd Democratiaeth Leol

Cais i godi 44 o gynwysyddion ar dir Clwb Golff Rhosneigr wedi’i gymeradwyo er gwaetha’r pryderon