Mae cynllun i osod 44 o gynwysyddion ym mhentref arfordirol Rhosneigr wedi cael ei gymeradwyo, er gwaethaf rhybudd fod iddo “elfen ddiwydiannol i gefn gwlad, lle mae twristiaid yn dod ar ymweliadau”.
Mae Clwb Golff Ynys Môn wedi cael caniatâd i osod y cynwysyddion storio ar dir ar eu safle.
Dywedodd cynrychiolydd ar ran y clwb wrth gynllunwyr yr ynys fod y busnes mewn perygl o fynd i’r wal ar ôl mwy na chanrif pe na bai’n cael cymorth i arallgyfeirio – a byddai potensial i bump o swyddi gael eu colli.
Roedd y cynnig yn galw am newid defnydd tir i leoli 44 o gynwysyddion, 39 ohonyn nhw’n safonol a’r pump arall yn fach, gyda gwaith tirlunio.
Fe wnaeth Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion Cyngor Ynys Môn gytuno i gais y clwb ar safle tir llwyd 0.18 hectar ar Ffordd yr Orsaf – sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio ar gyfer storio ac fel maes parcio wrth gefn.
Wrth gymeradwyo’r cais, aeth cynghorwyr yn groes i argymhelliad y swyddog cynllunio.
Clwb cymunedol Cymraeg
Fe wnaeth yr asiant Berwyn Owen ddisgrifio’r clwb Cymraeg “bach ac unigryw”, gan ddweud ei fod yn agor ei ddrysau i ddigwyddiadau cymunedol.
Mae’r rhain yn cynnwys sesiynau bingo i’r henoed bob pythefnos, ciniawau i staff yr Awyrlu yn y Fali, a the cynhebrwng.
Maen nhw hefyd wedi cynnal digwyddiadau codi arian ar gyfer elusennau a sefydliadau.
“Yn llythrennol, mae cannoedd o bobol leol wedi mwynhau’r hyn sydd gennym i’w gynnig; mae nifer yn mwynhau chwarae golff neu, fel fi, colli eu peli golff!” meddai.
“Mae’r clwb yn bodoli ers 110 o flynyddoedd, ac mae hyn o ganlyniad i’n haelodau, ceidwaid y tir, staff a gwirfoddolwyr sy’n gweithio i sicrhau bod y clwb yn parhau’n lle braf a chroesawgar.
“Ond fel cyfleusterau lleol eraill, mae’r clwb yn ei chael hi’n anodd.
“Fedr y llond dwrn o aelodau ddim fforddio ffioedd aelodaeth anferth, ac mae angen trwsio’r adeilad.
“Oni bai ein bod ni’n arallgyfeirio, mae’n bosib na fydd y clwb golff yma ymhen blwyddyn.
“Byddai’n golled fawr i’n cymuned.
“Yr unig ffordd o achub y clwb ydi arallgyfeirio.
“Dw i’n siarad fel unigolyn pryderus, er mai fi ydi’r asiant.
“Fel rhywun sydd wedi byw ym Môn ar hyd fy oes, mae llawer yn y fantol yma.
“Dw i’n eich annog chi, fel pwyllgor cynllunio, i’n cefnogi ni wrth i ni frwydro i gadw’r adnodd chwaraeon a chymunedol yma, nid yn unig ar gyfer y rhai sy’n ei fwynhau heddiw ond, gobeithio, i’r rhai allai ei fwynhau ymhen blynyddoedd.”
Cefnogaeth a gwrthwynebiad
Nododd Berwyn Owen y daeth 34 llythyr o gefnogaeth a dau wrthwynebiad i law.
Dywedodd y swyddog cynllunio Rhys Jones fod aelodau’r pwyllgor wedi ymweld â’r safle ar Fehefin 19.
Roedd y safle tu allan i ffiniau datblygu Rhosneigr, ger safle carafanau symudol a sefydlog i’r gogledd, ac mae llwybr yng nghefn y safle’n arwain at ardal wylio ym maes parcio safle’r Awyrlu yn y Fali.
Roedd y meini prawf polisi’n gofyn am “dystiolaeth gymhellol” i ddangos yr angen am y datblygiad, ond doedd hi ddim wedi cael ei rhoi.
Doedd y datblygiad ddim yn cael ei ystyried “o’r raddfa a’r math o ddatblygiad sy’n dderbyniol yn y lleol blaenllaw hwn”.
“Mae’n dod ag elfen ddiwydiannol i gefn gwlad,” meddai.
Byddai modd ei weld o’r A480, ac fe allai fod yn weledol “ymwthiol”.
Yr argymhelliad oedd ei wrthod.
Y Gymraeg
“Efo’r digwyddiadau maen nhw’n eu cynnal yn y clwb golff, os ewch chi yno unrhyw ddiwrnod o’r wythnos fe glywch chi’r Gymraeg,” meddai’r Cynghorydd Douglas Fowlie.
“Mae hi’n bwysig iawn.
“Mae’r safle rhwng carafanau, y clwb golff, clwb chwaraeon, iard adeiladwyr, cledrau’r rheilffordd a llain lanio.
“Fyddwn i ddim yn ei alw’n gefn gwlad agored.
“Mae’n sefydliad nid-er-elw heb gyfrannau.
“Mae wrth galon y gymuned yn Rhosneigr ac, ynyswyr, cafodd ei sefydlu dros 100 mlynedd yn ôl.”
Wrth ymateb, dywedodd Rhys Jones ei fod yn teimlo nad yw’r safle’n “briodol” ar gyfer 44 o gynwysyddion.
“Mae’r tir yn wastad, mae’n ardal boblogaidd ymhlith twristiaid, mae’n agos at yr arfordir, yn weladwy ac… fe fydd yn cymryd blynyddoedd i’r coed dyfu.”
Dywedodd y byddai’n dod ag “elfen ddiwydiannol i gefn gwlad agored, lle mae twristiaid yn dod ar ymweliadau”.
Mynegodd ei gydymdeimlad â sefyllfa’r clwb, ac er bod dyfodol y clwb yn “ystyriaeth bwysig”, doedd dim tystiolaeth wedi cael ei chyflwyno i ddangos sut mae’r clwb golff yn wynebu anawsterau ariannol, meddai.
“Mae busnesau’n cael eu cymeradwyo fel bod amrywiaeth yn parhau,” meddai’r Cynghorydd Neville Evans.
“Dyna maen nhw’n ceisio’i wneud.”
Fe fu’n cynnal trafodaethau â Golff Cymru, ac fe ddarllenodd e lythyr gan Dylan Griffiths, oedd yn anfon ei “gefnogaeth lwyr” i’r clwb a’u cais.
“Yn anffodus, daeth incwm eilaidd yn hanfodol i gynaliadwyedd rhai o’n clybiau golff,” meddai yn ei lythyr.
Fe wnaeth y Cynghorydd Neville Evans gynnig derbyn y cais, a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Jeff Evans.
Cafodd ei gymeradwyo, gyda saith pleidlais o blaid.