Mae tîm criced Morgannwg wedi curo Surrey o saith wiced ar yr Oval yng Nghwpan Undydd Metro Bank.

Dim ond 34 pelawd barodd batiad Surrey, wrth i Jamie McIlroy, Dan Douthwaite, Ben Kellaway ac Andy Gorvin gipio dwy wiced yr un.

Prif sgoriwr Surrey oedd Ben Foakes, wicedwr Lloegr, gyda’i 44 yn achub batiad ei dîm i raddau, a tharodd Conor McKerr 25.

Ond prif bwnc trafod y batiad hwnnw oedd gallu’r troellwr ifanc Ben Kellaway i fowlio â’i ddwy law, wrth iddo fe gipio wiced â’r naill law a’r llall.

Cwrso’n rhwydd

Collodd Morgannwg eu tair wiced o fewn 13.5 pelawd, ond roedden nhw eisoes ar 99 erbyn hynny, ac fe gyrhaeddon nhw’r nod oddi ar 15.5 pelawd.

Sgoriodd Colin Ingram 39 heb fod allan, ar ôl i Eddie Byrom sgorio 28 ar frig y rhestr fatio.

Mae Morgannwg bellach wedi ennill dwy gêm allan o ddwy, a byddan nhw’n herio Swydd Nottingham a Sussex ar gae’r Gnoll yng Nghastell-nedd yr wythnos hon gan obeithio parhau â’u rhediad di-guro yn y gystadleuaeth.

Yn y cyfamser, colli oedd hanes dau dîm y Tân Cymreig yn erbyn yr Oval Invincibles yn y Can Pelen.

Collodd y dynion o ddeg rhediad, a’r menywod o chwe wiced.

Surrey v Morgannwg

Roedd y sir Gymreig wedi dechrau eu hymgyrch 50 pelawd gyda buddugoliaeth dros Swydd Gaerloyw