Bydd gan dîm criced Morgannwg chwaraewr o Sri Lanca am y tro cyntaf erioed y tymor nesaf, ar ôl denu’r bowliwr lled gyflym Asitha Fernando.
Bydd e ar gael am saith gêm gynta’r Bencampwriaeth.
Daeth ei gêm gyntaf dros ei wlad mewn gêm undydd yn erbyn Zimbabwe yn 2017, a’i gêm brawf gyntaf yn erbyn De Affrica yn 2021.
Cipiodd e bum wiced mewn batiad mewn gêm brawf am y tro cyntaf yn erbyn Bangladesh yn 2022, gan orffen gyda chwe wiced am 51 yn yr ail fatiad, ar ôl cipio pedair yn y batiad cyntaf.
Daeth ei gêm ugain pelawd gyntaf yn erbyn Bangladesh yn 2022.
Mae’n un o ddau chwaraewr o Sri Lanca, ynghyd â Rumesh Ratnayake, i gipio pum wiced mewn gêm brawf ar gae hanesyddol Lord’s.
‘Diolch’
“Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Glwb Criced Morgannwg am y cyfle hwn,” meddai Asitha Fernando.
“Dw i’n eithriadol o falch o gael bod yn rhan o Forgannwg a chael dychwelyd i griced sirol eleni.
“Fe wnaeth fy nghyfnod diwethaf fy helpu i wella fy ngêm dipyn.
“Dw i’n edrych ymlaen at gael chwarae gyda Mason [Crane], Colin [Ingram] a thîm cyfan Morgannwg, ac yn gobeithio gwneud fy ngorau glas yn ystod y tymor sydd i ddod.”
‘Bowliwr o safon’
“Rydyn ni wrth ein boddau o gael croesawu bowliwr o safon Asitha i Erddi Sophia ar gyfer dechrau tymor 2025,” meddai Mark Wallace, Cyfarwyddwr Criced Morgannwg.
“Mae gan Asitha brofiad da o’r amodau yn y Deyrnas Unedig, ac yntau wedi chwarae criced sirol o’r blaen ac hefyd wrth berfformio’n dda iawn yng nghyfres Sri Lanca gyda Lloegr yma haf diwethaf.
“Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld Asitha yn dod i’r cae i Forgannwg fel y chwaraewr cyntaf o Sri Lanca i gynrychioli’r clwb.”