Sgorfwrdd

Bydd tîm criced Morgannwg yn gobeithio adeiladu ar eu buddugoliaeth dros Swydd Gaerloyw, wrth iddyn nhw deithio i Surrey ar gyfer eu gêm gyntaf oddi cartref yng nghystadleuaeth 50 pelawd Cwpan Undydd Metro Bank heddiw (dydd Sul, Gorffennaf 28).

Tarodd Ben Kellaway 65 heb fod allan i osod y seiliau i’w dîm yn y gêm gyntaf, wrth osod nod o 187 i’r Saeson, cyn i Dan Douthwaite gipio pedair wiced wrth arwain y bowlwyr, gyda’r gwrthwynebwyr yn colli pum wiced am dri rhediad.

Mae Colin Ingram yn dychwelyd i garfan Morgannwg, tra bod Alex Horton a Henry Hurle wedi cael eu rhyddhau i chwarae i’w clybiau dros y penwythnos.

Mae James Harris, Sam Northeast a Zain Ul Hassan i gyd allan ag anafiadau, ond mae disgwyl i Northeast ac Ul Hassan fod yn holliach yr wythnos nesaf.

Carfan Surrey: R Burns, N Barnwell, J Blake, M Dunn, B Foakes, B Geddes, Yousef Majid, C McKerr, R Patel, D Sibley, C Steel, O Sykes, J Taylor, A Virdi

Carfan Morgannwg: K Carlson (capten), T Bevan, E Byrom, D Douthwaite, A Gorvin, C Ingram, B Kellaway, J McIlroy, B Morris, B Root, A Tribe, W Smale, T van der Gugten