Collodd tîm pêl-droed Caernarfon yn drwm, o 6–0 yn erbyn Legia Warsaw, neithiwr (nos Iau, Gorffennaf 25) yng nghymal cyntaf ail rownd ragbrofol Cyngres Europa.

Cafodd y gêm ei chynnal y tu ôl i ddrysau caeëdig, ar ôl i Legia gael eu cosbi gan UEFA am i’w cefnogwyr arddangos baner “bryfoclyd” ag iddi “natur sarhaus” mewn gêm yn erbyn Molde fis Chwefror.

Dywedodd Richard Davies, rheolwr Caernarfon, wrth BBC Cymru Fyw cyn y gêm ei bod yn “annheg bod cefnogwyr oddi cartref yn cael eu cosbi am rywbeth mae rhywun arall wedi’i wneud”.

Roedd cewri Legia ar y blaen o 2-0 ar yr egwyl, yn dilyn peniad Marc Gual a chynnig Ryoya Morishita ar ôl camgymeriad y golwr ifanc Stephen McMullan.

Yn yr ail hanner, sgoriodd Gual ddwywaith yn rhagor i gwblhau’r hatric, ac yna fe sgoriodd Blaz Kramer y bumed ar ôl iddo fethu cic o’r smotyn.

O bellter y daeth gôl olaf y noson gan Claude Gonçalves yn yr amser a ganiateir am anafiadau.

Er i Danny Gosset a Zack Clarke gael cyfleoedd i’r Caneris, doedden nhw ddim wedi llwyddo i ganfod cefn y rhwyd.

Bydd yr ail gymal yn cael ei chynnal nos Iau (Awst 1).